Pump i’r Penwythnos – 13 Mai 2022

Gig: Gŵyl Fwyd Caernarfon – 14/05/22

Caernarfon ydy’r lle i fod am gigs penwythnos yma! 

Mae taith Te yn y Grug Al Lewis yn parhau heno ac yn symud i Dre’r Cofis gyda gig yn y Galeri.  Unwaith eto mae cefnogaeth gan yr ardderchog Gwenno Morgan. 

Ac yna mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr hefyd gyda Gŵyl Fwyd Caernarfon yn digwydd ar Y Maes, gyda chwpl o lwyfannau cerddoriaeth. 

Un o’r llwyfannau hynny ydy Llwyfan Bar Bach lle mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Beth Celyn, Phil Gas a Gwilym Bowen Rhys. 

Llwyfan cerddoriaeth arall yr ŵyl ydy Llwyfan Rondo, ac mae arlwy ardderchog ar hwn yn ystod y dydd – Tapestri, Achlysurol, Cwtsh, Bwncath a Papur Wal yn cloi’r diwrnod. 

 

Cân:  ‘Mwg Mawr Gwyn (Pen Dub Remix)’ – Tom MacCaulay

Fersiwn newydd o drac a ryddhawyd yn wreiddiol yn 2020 ydy ein dewis o gân yr wythnos hon. 

Ryddhaodd yr artist o Fôn, Tom MacCaulay, ei sengl ‘Mwg Mawr Gwyn’ ym mis Mehefin 2020 ar label recordiau Udishido. 

Nawr, mae ailgymysgiad o’r trac gan Pen Dub allan ers dydd Gwener diwethaf ar yr un label. 

Nid dyma’r tro cyntaf i’r trac gael ei ail-gymysgu cofiwch gan i’r cynhyrchydd amryddawn,  Shamoniks, ryddhau ei fersiwn yntau o’r trac ym Mehefin 2021. 

Cynhyrchydd cerddorol o Ben Llŷn ydy Pen Dub (Ben Jones) ac mae’n cael ei ysbrydoli gan wahanol fathau o reggae, dub a’r sîn UK Sound System. Mae’n cydweithio tipyn gyda pherfformwyr Cymraeg i greu rhywbeth sy’n unigryw ac yn deillio o’i gariad at Gymru a cherddoriaeth Jamaica.

Mae Pen Dub a Tom MacCaulay wedi cydweithio o’r blaen ar y trac ‘Summertime’, sy’n gân gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd wedi gweld Tom yn gigio ar lwyfannau Gogledd Cymru. 

Ar y fersiwn newydd o ‘Mwg Mawr Gwyn’, llais Tom yw uchafbwynt y gân ond gyda Pen Dub yn creu cefndir go wahanol o dubstep, trac bas trwm, gitâr skanklyd a drymiau sy’n taro’n galed.

 

Record: Propeller – Cpt Smith 

Mae ein dewis o record yr wythnos hon yn mynd yn ôl hanner dwsin o flynyddoedd i 2016. 

Yn y flwyddyn honno y rhyddhawyd EP cyntaf y grŵp ifanc cyffrous o Gaerfyrddin, Cpt Smith – Propeller.

Pam fod hynny’n berthnasol heddiw dwi’n clywed chi’n holi? Wel, yn syml iawn gan fod fersiwn newydd o un o draciau’r EP hwnnw wedi’i ryddhau wythnos diwethaf fel y diweddaraf o’r gyfres o senglau i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed. 

Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn, sydd wedi mynd ati i ail-gymysgu’r trac ‘Red Adair’ a ryddhawyd yn wreiddiol ar Propeller yn 2016, a dyma’i ymgais gyntaf ar ail-gymysgu cân rhywun arall. 

“Ma hon yn bangar o drac gan Cpt Smith, a dw i ‘di trio cadw elfennau o’r drive gwreiddiol gan roi sbin fwy pop arni” eglura Lewys.  

“Nes i ddilyn heb fy ngreddf creadigol ar y pryd… ar y laptop ar dren o’r Gaerdydd i Lundain a bod yn fanwl gywir!”

Roedd Cpt Smith wedi ymuno ag I KA CHING yn gynharach yn 2016 gan ryddhau dwy sengl yn y lle cyntaf, sef ‘Llenyddiaeth’ a ‘Bad Taste’. Cyn hynny roedden nhw wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, sef ‘Resbiradaeth’, fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar yn 2015. 

Yna daeth yr EP ym mis Tachwedd 2016 gan selio eu lle fel un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru ar y pryd. Os y cewch chi gyfle, mae’n werth bwrw golwg nôl dros gyfweliad Lois Gwenllian gyda ffryntman Cpt Smith, Ioan Hazell, yng nghylchgrawn Y Selar ar y pryd.

Bu i’r grŵp ryddhau ail EP dan yr enw Get a Car ar label I KA CHING ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 2018. Yn anffodus, mynd i gyfeiriadau gwahanol wnaeth yr aelodau wedyn ond mae gennym atgofion melys o egni byw y grŵp. 

Dyma’r fersiwn newydd o ‘Red Adair’: 

 

Artist: Carwyn Ellis

Ag yntau’n un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol Cymru ers sawl blwyddyn, mae’n anodd credu nad ydy Carwyn Ellis wedi rhyddhau albwm unigol nes wythnos diwethaf! 

Wrth gwrs, mae wedi rhyddhau sawl albwm gyda’i brosiectau eraill Colorama a Rio 18, ond mae’n wir mai Across the Water, a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, ydy albwm llawn cyntaf solo Carwyn Ellis.

Mae’r albwm allan yn ddigidol ar safle Bandcamp yn unig gyda 50% o’r elw gwerthiant yn mynd tuag at Ganolfan Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Oasis yng Nghaerdydd

Mae neges glir i’r record fel yr eglura Carwyn…

“Mae’r albwm yma wedi’i gyflwyno i’r bobl ddewr sydd wedi croesi’r moroedd dros y milenia gan chwilio am fywyd gwell – pobl ddylid eu hedmygu a pharchu, nid eu gelyniaethu a gwawdio” meddai Carwyn. 

“Mae hefyd wedi’i gyflwyno er cof am y nifer o bobl a geisiodd, ond na lwyddodd i’w gwneud hi, ond sydd gobeithio wedi darganfod heddwch yn lle.” 

Mae’r gerddoriaeth ar yr albwm yn ymdrin â thaith ddychmygol ffoadur yn teithio i chwilio am fywyd gwell – eu gobeithion, eu hofnau, y peryglon, y tristwch i’r rhai sydd ddim yn cyrraedd, a’r hyn sydd yn eu disgwyl os ydynt yn llwyddo i gyrraedd pen eu taith. 

Mae’r record yn canolbwyntio’n bennaf ar y daith o ogledd Affrica i dde Ewrop ond yn berthnasol i unrhyw daith beryglus sydd wedi wynebu ffoaduriaid  yn y gorffennol – yn ansicrwydd, yr ymdrech, a’r drwgdeimlad sy’n aml yn aros amdanynt. 

Dyma’r trac offerynnol, ‘The Boy on the Beach’, sy’n cael ei gyflwyno er cof am Alan Kurdi, sef y bachgen bach tair oed o Syria a gollodd ei fywyd ym môr y canoldir yn 2015, ynghyd â’i fam a’i frawd. 

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Wedi Blino’ gan Adwaith

Ar ôl cyfnod clo cymharol dawel, mae’n bur amlwg bod Adwaith yn codi gêr ar hyn o bryd wrth iddynt baratoi i ryddhau eu hail albwm. 

Rydym eisoes yn gwybod mai Bato Mato ydy enw’r record sy’n ddilyniant i’r ardderchog Melyn a ryddhawyd yn 2018 cyn ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y flwyddyn ganlynol

Bydd y albwm newydd allan ar label Recordiau Libertino ar 1 Gorffennaf, ac rydym eisoes wedi cael blas o’r hyn sydd i ddod gyda’r sengl wych ‘Eto’ ym mis Chwefror. 

Nawr, mae’r triawd o Gaerfyrddin wedi rhyddhau ail sengl o’r albwm, ‘Wedi Blino’, gyda fideo ar Lŵp yn hefyd. 

Ei melodi ewfforig oedd yn gyrru ‘Eto’ ac yn cynnig gwedd ychydig yn wahanol i’r hyn rydym wedi gweld o’r blaen gan Adwaith. Mae ‘Wedi Blino’ yn llawer mwy fuzzy ac yn debycach i beth o gynnyrch blaenorol y grŵp, ond heb os ar lefel uwch nag yr ydyn wedi gweld o’r blaen. 

Eilir Pierce sydd wedi cyfarwyddo’r fideo ar gyfer ‘Wedi Blino’ gyda Pixy Jones yn olygydd, Gareth Bull yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth a’r gwaith cynhyrchu gan Ynyr Morgan ac Owain Jones.