Gig: Gig Mawr Aber 15 – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – 15/10/22
Clamp o gig yn Aberystwyth sy’n cael ein sylw penwythnos yma wrth nodi carreg filltir bwysig i sefydliad amlycaf y dref.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu pen-blwydd yn 150 oed eleni, a pha ffordd well i nodi’r achlysur na gig mawreddog.
Ac mae thema arbennig i’r gig gyda lein-yp sy’n llawn o gyn-fyfyrwyr Aber. Mae llwyth o artistiaid cerddorol Cymraeg amlwg iawn wedi bod trwy’r Brifysgol dros y blynyddoedd, a nifer ohonynt yn fandiau a ffurfiodd yn Aber, neu artistiaid a ddechreuodd wneud enw i’w hunain pan oedden nhw yn yno.
Un o’r amlycaf heb amheuaeth ydy Mynediad Am Ddim, ac mae’n debyg mai nhw ydy’r prif atyniad yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Sadwrn.
Mae ambell hoelen wyth arall y sin yn perfformio hefyd cofiwch – Geraint Løvgreen a’r Enw Da a Linda Griffiths yn benodol, ynghyd â band diweddaraf Neil Rosser, Pwdin Reis.
Taflwch y bandiau cyfoes Los Blancos a Bwca mewn i’r mics ynghyd â Catrin Herbert a Mei Emrys ac mae ganddoch chi glamp o lein-yp gyda dau lwyfan yn golygu cerddoriaeth fyw ddi-stop trwy’r nos. Neis iawn wir.
Cân: ‘Môr Du’ – Ynys
Artist bywiog iawn ar hyn o bryd ydy Ynys ac mae wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf wythnos yma.
‘Môr Du’ ydy enw’r trac newydd gan brosiect cerddorol diweddaraf Dylan Hughes, gynt o’r Race Horses a Radio Luxemburg ac fe ddaw’n dynn ar sodlau ei sengl ddiwethaf, ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’, a ryddhawyd rhyw fis yn ôl.
Mae’r ddwy sengl ddiweddaraf yma’n dameidiau bach blasus i aros pryd nes rhyddhau albwm cyntaf Ynys fydd allan ar 4 Tachwedd.
Mae llawer o ganeuon yr albwm yn ymwneud â Dylan yn symud yn ôl i Aberystwyth ar ôl byw yng Nghaerdydd am gyfnod sylweddol, ac mae hynny’n wir am y sengl newydd.
“Mae’n dipyn o ystrydeb yndyw e, eich dymuno i ffwrdd o’r ddinas, yn ôl at lan y môr” meddai Dylan am y sengl ddiweddaraf.
“Mae’n debyg bod Môr Du yn ymwneud â theimlo bod rhan ohonoch chi ar goll; am symud ymlaen ac ailgysylltu.
“Dechreuodd fel cân eithaf stripped back ond dros y clo byddwn yn dychwelyd at y gân, yn ychwanegu rhywbeth, yn tynnu rhywbeth allan – erbyn y diwedd roedd wedi tyfu i fod yn gân sinematig eithaf gwallgof. Sai’n siŵr sut nath e orffen lan fel’na ond dwi’n falch fod e wedi.”
Dyma hi:
Artist: The Trials of Cato
Da gweld un o fandiau gwerin mwyaf Cymru yn ôl ar y lôn unwaith eto wrth i The Trials of Cato ddechrau ar daith sy’n mynd â nhw i lwyth o leoliadau dros y mis nesaf.
Yn Lloegr mae’r mwyafrif helaeth o gigs ar y daith, er iddynt ddechrau yng Nghaerdydd nos Sul diwethaf. Rhwng hyn a 18 Tachwedd maen nhw’n perfformio yn Sheffield, Rhydychen, New Milton, Barnstaple, Falmouth, Nottingham a Manceinion ymysg llefydd eraill.
Byddan nhw hefyd yn dychwelyd i Gymru, ac i’w hardal leol yn Wrecsam, ar gyfer noson olaf y daith ac yn perfformio un gig arbennig yn Nhŷ Pawb ar 19 Tachwedd.
Mae cerddoriaeth y grŵp wedi cael tipyn o sylw’n ddiweddar hefyd diolch i gyfres ddogfen ‘Welcome to Wrexham (FX)’ am glwb pêl-droed Wrecsam gan sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds. Mae’r trac ‘Difyrrwch’ o albwm cyntaf The Trials of Cato, Hide and Hair, wedi cael ei ddefnyddio yn y gyfres.
Ychwanegwch at hyn y ffaith bod ail albwm y band, Gog Magog, yn cael ei ryddhau ar 25 Tachwedd ac mae’n gyfnod hynod o gyffrous i’r band o’r gogledd ddwyrain.
Mae Gog Magog wedi’i enwi ar ôl cawr mytholegol y chwedlau Arthuraidd a chopa yn Swydd Caergrawnt, lle cafodd y gerddoriaeth ei greu yn ystod y cyfnod clo ac mae modd rhag archebu’r albwm newydd ar wefan The Trials of Cato nawr.
Dyma berfformiad sesiwn o ‘Hâf’ o’r albwm cyntaf:
Record: Tân – Lleuwen
Mae rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi’i gyhoeddi ac rydan ni’n falch iawn i weld pump o recordiau hir Cymraeg ymysg y pymtheg ar y rhestr eleni.
Y pump albwm hynny ydy Bato Mato gan Adwaith; Hir Oes i’r Cof gan Breichiau Hir; Yn Rio gan Carwyn Ellis & Rio 18 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; Amser Mynd Adra gan Papur Wal; a Deuddeg gan Sywel Nyw.
Taflwch i’r pair hefyd recordiau hir gan yr artistiaid dwy-ieithog (neu dair mewn ambell achos) Cate Le Bon, Danielle Lewis, Gwenno, Dead Method a Lemfreck ac mae’n arwydd o ddatblygiad cerddoriaeth Gymraeg dros y ddegawd ddiwethaf.
Does dim amheuaeth fod cerddoriaeth gyfoes yn iaith y nefoedd wedi dod yn llawer amlycach, ac mae’n debyg y gallech ddefnyddio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fel ffon fesur reit dda o hynny.
Cynhelir y wobr ers 2011 ac os edrychwch chi nôl ar y rhestr fer o 11 albwm bryd hynny, dim ond un oedd a mwyafrif y caneuon yn y Gymraeg, sef Tân gan Lleuwen. Gellir dadlau mai band Cymraeg oedd Y Niwl hefyd wrth gwrs ond band offerynnol oedden nhw. Roedd enwau artistiaid sy’n canu’n ddwyieithog ar y rhestr hefyd sef Al Lewis, Colorama, The Gentle Good, Gruff Rhys a The Joy Formidable ond albyms Saesneg yn bennaf oedd y rhain ganddyn nhw ar restr 2011, ar wahân i ambell drac.
Er hynny, mae’n gwbl glir i weld bod proffil cerddoriaeth gyfoes Gymraeg wedi codi’n sylweddol ers 2011, a hyder yr artistiaid sy’n canu yn yr iaith, ac mae hynny’n achos dathlu.
Doedd Tân ddim yn albwm cyfan gwbl Gymraeg chwaith cofiwch gan fod Lleuwen wedi cynnwys ambell drac mewn Llydaweg gan gynnwys yr ardderchog ‘War Varc’h D’Ar Mor’.
Mae’n deg dweud bod yr albwm yn glasur gyda thraciau gwych fel ‘Lle Wyt Ti Heno Iesu Grist?’, ‘Mi Wela’i Efo Fy Llygaid Bach I…’ a ‘Paid a Sôn’.
Dyma eiriau Leusa Fflur am y casgliad yn ei hadolygiad yn rhifyn Ebrill 2011 o’r Selar:
“Mae gwrando ar albwm cyfan gan Lleuwen Steddfan yn fy atgoffa unwaith eto mai hi sydd â’r llais mwyaf unigryw yng Nghymru. Mae’n gryf, eto’n swynol, a pan mae hi’n harmoneiddio gyda hi’i hun ar ambell un o’r caneuon mae’n ddigon i doddi calon rhywun.”
Clywch clywch, a dyma un o’r caneuon toddi calon yna o’r albwm, ‘Mab y Môr’:
Un Peth Arall: Cyfle i weld fideo newydd Mei Emrys
Un o’r artistiaid sy’n perfformio yn Gig Mawr Aber 150 ydy Mei Emrys, ac yn amserol iawn mae ei sengl newydd allan penwythnos yma hefyd!
Roedd Mei yn fyfyriwr yn Aber ar droad y mileniwm, ac ar y pryd roedd yn ffryntman y band poblogaidd, Vanta. Roedd hefyd yn llywydd ar fudiad UMCA yn y Brifysgol felly’n ffigwr digon amlwg yn Aber.
Mae’n briodol iawn fod Mei’n rhyddhau ei sengl newydd i gyd-fynd â’r penwythnos o ddathlu.
‘Bore Sul (yn ei thŷ hi)’ ydy enw’r trac ac mae’n ddilyniant i’r sengl ddwbl ‘Olwyn Uwchben y Dŵr’ a ‘29’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni.
Wedi’i hysbrydoli gan ddyfyniad Johnny Cash ynglŷn â ‘pharadwys’, bydd y sengl newydd – sy’n adleisio seiniau ewfforig Coldplay, Doves a James – ar gael yn ddigidol o’r mannau arferol o ddydd Gwener, 14 Hydref.
Mae Mei hefyd wedi ffilmio fideo bach syml ar gyfer y sengl, a dyma gyfle cyntaf ecsgliwsif i chi weld y fideo hwnnw yn Pump i’r Penwythnos!