Gig: Lansiad albwm Papur Wal
Dal dim gigs, ond mae ‘na ffilm o gig reit arbennig wedi ymddangos ar-lein wythnos diwethaf sy’n sicr yn werth ei wylio.
Rhyddhawyd albwm cyntaf Papur Wal, sef Amser Mynd Adra, nôl ym mis Hydref ac i nodi’r achlysur roedd gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 22 Hydref.
Roedd dipyn i siarad am y gig cyn y noson, gyda hefyd digon o drafod am berfformiad ardderchog y triawd ar ôl y gig hefyd.
Nawr mae cyfle i ail-fyw’r achlysur arbennig gan fod Papur Wal wedi cyhoeddi ffilm fer sy’n dogfennu’n gig.
Ffilmiwyd y cyfan mewn arddull pry ar y wal gan y gwneuthurwr ffilm Sam Stevens sydd hefyd yn aelod o’r band Pypi Slysh.
Gan ystyried nad oes unrhyw gigs byw i chi eu mwynhau penwythnos yma, mae’n sicr yn werth buddsoddi hanner awr fach i wylio hwn.
Cân: ‘Y Gair’ – Lleuwen
Trac sydd allan ers ychydig wythnosau sy’n cael ein sylw wythnos yma, ond un allech chi’n rhwydd iawn fod wedi methu ar drothwy’r Nadolig.
‘Y Gair’ ydy enw sengl ddiweddaraf Lleuwen a ryddhawyd ar 20 Rhagfyr, ac mae’n gweld y gantores anhygoel yn cyd-weithio gydag artist digon annisgwyl.
Mae Lleuwen wedi cyd-weithio gyda sawl cerddor ar draciau dros y blynyddoedd diwethaf, ond y tro hwn mae wedi troi at yr actor Wynford Ellis Owen.
Mae Wynford yn actor cyfarwydd yng Nghymru, efallai’n bennaf diolch i’w gymeriad enwocaf, Syr Wynff, yn y gyfres gomedi 1980au i blant, ‘Syr Wynff a Plwmsan’.
Mae Wynford yn benthyg ei lais i’r sengl newydd gan adrodd darlleniad dros y gerddoriaeth. Dehongliad o adnodau cyntaf yr efengyl yn ôl Ioan yn y beibl ydy’r darlleniad.
Mae’r sengl newydd allan ar label Lapous, gyda’r gerddoriaeth a chynhyrchu wedi’i wneud gan Lleuwen yn Scrignac, Breizh yn Llydaw a Wynford yntau wedi recordio ei lais yng Nghymru.
Record: Croendenau – Steve Eaves
Diolch i raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher, fe ddaeth i’n sylw bod Steve Eaves yn dathlu pen-blwydd yn 70 oed penwythnos diwethaf.
Pa esgus gwell sydd angen felly i roi sylw arbennig i un o albyms gwych y cerddor sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd.
Mae ôl-gatalog recordiau Steve yn llawn o glasuron mewn gwirionedd – fe allen ni fod wedi dewis bron unrhyw un o’r albyms mae wedi rhyddhau ers y cyntaf ganddo, y cryno albwm Viva la Revolucion Galesa!, a ryddhawyd ym 1984.
Os ydach chi isio profi safon ei recordiau dros y blynyddoedd yna gallwn ni argymell y bocs-set, Ffoaduriaid, a ryddhawyd gan label Recordiau Sain yn 2011.
Ond fe wnawn ni ganolbwyntio ar un albwm yn benodol, a dyma setlo ar yr un a ryddhawyd 30 o flynyddoedd yn ôl ym 1992, Croendenau.
Yn ogystal â bod yn gasgliadau gwych, mae ‘na ganeuon unigol gwych ar bob un o recordiau Steve Eaves, ond efallai mai Croendenau ydy’r un sy’n sefyll allan am fod yn llawn dop o ganeuon cofiadwy.
Mae hyn yn cynnwys caneuon egnïol fel ‘Ffŵl Fel Fi’, ‘10,000 Folt Trydan’ a ‘Sigla Dy Din’ ar un llaw, a baledi teimladwy hynod o hyfryd fel ‘Dau Gariad Ail Law’, ‘Noson Arall Efo’r Drymiwr’ a ‘Rhywbeth Amdani’ ar y llall. A dwi heb grybwyll clasuron pur fel ‘Sanctaidd i Mi’ a ‘Rhai Pobl’ eto!
Dyma’r ardderchog ‘10,000 Folt Trydan’:
Artist: Tara Bandito
Enw, wyneb a llais cyfarwydd ond prosiect newydd ydy ein dewis o artist wythnos yma.
Mae Tara Bandito wedi bod yn perfformio mewn amryw ffyrdd ers yn gwta bum mlwydd oed, ond yn bennaf dan yr enw Tara Bethan.
Yn ddiweddar mae wedi dechrau arddel enw llwyfan ei thad, y reslwr enwog ‘El Bandito’, a heddiw mae’n rhyddhau ei sengl gyntaf dan yr enw newydd.
Ers iddi golli ei thad yn 2009, mae Tara wedi bod ar daith i symbolaidd a llythrennol i ddarganfod ei hun, ac i ateb y cwestiwn ynglŷn â’r rheswm mae ‘perfformio’ yn rhan mor annatod ohoni.
Mewn cyfnod o deithio’r byd, aeth Tara tua’r dwyrain ar ei phen ei hun – cyrraedd uchafion Kilimanjaro, yn ogystal â pherfeddion Bangkok, profi prydferthwch Vietnam, anferthwch yr Himalayas a ffeindio’i chartref cerddorol ysbrydol yn India yn ystod mis o hyfforddi fel athro Yoga.
Pan gyrhaeddodd adref, parhaodd perfformio i fod yn ran mawr o’i bywyd, wrth iddi ymuno gyda sioe fyw anhygoel ‘Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon’, ac er iddi sylweddoli wrth wneud hynny fod canu’n ffordd hollbwysig iddi fynegi ei hun, cymerodd un troad ychwanegol o ffawd cyn i Tara sylweddoli mai ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol oedd y ffordd iddi wir ddod i ddeall ei hun.
Cychwynnodd Tara ysgrifennu cerddi mewn sesiynau hwyrnos o farddoni ac esblygodd rhai o’r geiriau yma i ddod yn ganeuon cyntaf i Tara Bandito. ‘Blerr’ ydy enw’r trac cyntaf o’r rhain sydd allan ar label Recordiau Côsh heddiw.
Ma hon yn diwn, ac mae ‘na fideo gwych ar ei chyfer ar sianel Lŵp heddiw hefyd:
Un Peth Arall: Agor Pleidlais Gwobrau’r Selar
Ydy, mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar ar agor ers nos Lun, a’r pleidleisiau’n llifo mewn yn barod.
Mae modd i unrhyw un fwrw pleidlais dros 9 o gategorïau’r Gwobrau eleni sy’n cynnwys Band Gorau, Record Hir Orau, Seren y Sin a Fideo Cerddoriaeth Gorau. Bydd y bleidlais yn cau nos Wener nesaf, 21 Ionawr.
Yn anffodus, oherwydd sefyllfa ansicr y pandemig o hyd, mae’r Selar wedi penderfynu peidio cynnal digwyddiad byw unwaith eto eleni. Bydd yr enillwyr felly’n cael eu cyhoeddi mewn partneriaeth â Radio Cymru dros wythnos 14-18 Chwefror, gan efelychu’r cyhoeddiadau llynedd.
Mae’r cyhoedd eisoes wedi cael cyfle i enwebu ar gyfer y categorïau amrywiol ychydig cyn y Nadolig, ac mae panel Gwobrau’r Selar sy’n cynnwys cyfranwyr y cylchgrawn a gwefan gerddoriaeth, wedi cwtogi’r enwebiadau i ffurfio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais. Nawr, mae’r penderfyniad terfynol yn ôl yn nwylo’r cyhoedd.
Felly ewch amdani, bwrw’ch bleidlais nawr.