Pump i’r Penwythnos – 15 Ebrill 2022

Gig: Bwncath – Copa, Caernarfon – 15/04/22

I feddwl ei bod hi’n ŵyl y banc ac yn benwythnos y Pasg, mae’n bach o syndod nad oes mwy o gigs o gwmpas y penwythnos yma. 

Er hynny, os fentrwch chi i Gaernarfon heno yna mae cyfle gwych i weld Bwncath yn perfformio yn Copa

 

Cân:  Sengl newydd Geraint Rhys 

Does ‘na ddim stop ar Geraint Rhys mae’n ymddangos ac mae’n rhyddhau ei sengl Gymraeg ddiweddaraf heddiw. 

‘Cyn i Ti Adael’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y cerddor o Abertawe. 

Does dim ofn ar Geraint pan ddaw at amrywiol steil ei gerddoriaeth ac mae’r gân newydd yn un egnïol o’r dechrau wrth i Geraint gyfuno sain ffidil werin draddodiadol Gymreig gyda gitars pync-roc budr. 

Bwriad Geraint gyda’r trac meddai ydy codi calon ac ysgogi’r gwrandawyr i fod eisiau dawnsio a chanu. 

“Dyma gân i ffarwelio” meddai Geraint am ‘Cyn i Ti Adael’.  

“Mae’n gân i yfed a gweiddi iechyd da. Mae’n gân am derfyniadau a dechreuadau newydd. Mae’n gerddoriaeth i ddawnsio i, sy’n llawn egni sy’n adlewyrchu’r holl hwyliau a’r anfanteision o fywyd.”

 

Record: Giamocs – Hippies Vs Ghosts

Mae Hippies vs Ghosts wedi rhyddhau albwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 4 Ebrill. 

‘Giamocs’ ydy enw’r record 11 trac sydd allan yn ddigidol ar safle Bandcamp

Hippies vs Ghosts ydy prosiect unigol Owain Ginsberg, sydd gyfarwydd fel aelod o’r grwpiau Gogz, The Heights ac We Are Animal.

Creodd dipyn o argraff gyda’r albwm ‘Droogs’ yn 2015, ac fe gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y flwyddyn honno. 

Ers hynny mae Hippies vs Ghosts wedi bwrw mlaen i ryddhau tipyn o gynnyrch pellach gyda’i albwm diwethaf, ‘Intervention’, yn ymddangos ym mis Ebrill 2020

Mae’r albwm newydd ar gael yn ddigidol ar safle Bandcamp Hippies Vs Ghosts am ddim ond £5.

Dyma’r teitl-drac, ‘Giamocs’: 

Artist: Angel Hotel

Mae’r grŵp newydd, Angel Hotel, yn rhyddhau eu sengl gyntaf ers ymuno â label Recordiau Côsh heddiw. 

‘Superted’ ydy enw sengl Gymraeg gyntaf y grŵp o Gaerdydd sydd wedi creu dipyn o argraff mewn dim o dro ers ffurfio, ac mae’n amlwg fod Côsh wedi bod yn dilyn datblygiad Angel Hotel yn ofalus dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae’r grŵp, sydd wedi’u hysbrydoli gan diwns power-pop anferth o’r 1980au wedi rhyddhau tri trac ar eu liwt eu hunain cyn hyn, sef ‘By All Means Necessary’, ‘Morning Breeze’ a ‘Key Largo’. 

Mae ‘Superted’ yn ddilyniant cerddorol naturiol i’r rhain yn ôl y label. 

Angel Hotel ydy prosiect diweddaraf y cerddor adnabyddus Siôn Russell Jones sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth dan ei enw ei hun yn y gorffennol, a hefyd fel rhan o’r ddeuawd Ginge a Cello Boi. Aelodau eraill y grŵp ydy Carys Elen Jones (bas a llais cefndir), Barnaby Southgate (keytar) a Jordan Dibble (dryms). 

“Mae Superted yn gân freuddwydiol, felancolaidd sy’n trafod teimladau o golled a hiraeth” eglura Siôn am y sengl newydd.  

“Mae’n llawn themâu o ‘nostalgia’ sy’n teimlo’n arallfydol ar adega’. ‘Ry ni wedi rhoi ymgais ar ochr fwy teimladwy i’n hysgrifennu gyda’n cân Gymraeg gyntaf, ynghyd ag awgrymiadau o obaith mewn rhywbeth cyfarwydd”.

Ffurfiwyd Angel Hotel yn ystod y flwyddyn waethaf ers degawdau, ond er i 2020 ac 2021 achosi amryw o broblemau ymarferol, mae’r grŵp wedi llwyddo i wneud eu marc fel band byw egnïol gyda set wych o ganeuon gwreiddiol, yn ogystal â’u fersiwn unigryw o glasur Super Furry Animals, ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’

Cafodd y band noson gofiadwy yn Star Cafe fel rhan o ŵyl Focus Wales llynedd, lle gosodwyd eu stamp fel band i gadw llygad arnynt yn 2022. Bydd digon o gyfleoedd i weld y band yn fyw dros y misoedd nesaf hefyd, gan gynnwys;

  • Ebrill 22 – Porter’s, Caerdydd
  • Ebrill 29-Mai 1 – All Roads Festival, Glastonbury
  • Awst 19-22 – Trufest, Y Gelli Gandryll

Cadwch olwg am sgwrs estynedig gyda Siôn o’r band ar wefan Y Selar yn fuan, ynghyd â fideo ar gyfer ‘Superted’ gan Lŵp. 

 

Un Peth Arall: Fideo Papur Wal

Rydan ni’n ffans mawr o Papur Wal yma yn Selar Towyrs, ac mae’n amlwg eich bod chi hefyd gan i chi eu dewis fel enillwyr tair o Wobrau’r Selar yn gynharach eleni

Roedd y llwyddiant hwnnw’n bennaf diolch i’w halbwm cyntaf gwych, Amser Mynd Adra a’r sengl olaf i’w rhyddhau o’r record hir honno ydy ‘Nôl ac yn Ôl’. 

Nawr mae Lŵp wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac sydd wedi’i gyfarwyddo gan Griff Lynch. 

“Cân am bryderon dechrau perthynas newydd yw hi” meddai Ianto o ‘r grŵp am ‘Nôl ac yn Ôl’. 

“Nid yw bob amser yn hawdd, ac yn aml mae sialensau ar hyd y ffordd. Fe’i hysgrifennwyd ar ôl nosweithiau digwsg gan fod ffenest yr ystafell wely wedi torri, ac mae’n gofyn am y llwch cysgu yr oedd fy nhad yn arfer ei roi i ni pan oeddem yn blant i’n helpu ni gysgu. 

“Mae’n fath o gydnabyddiaeth o’r cylch bywyd a all eich neud i chi deimlo’n isel, yn enwedig yn eich 20au, gan ofni y byddwch yn colli blynyddoedd gorau eich bywyd ynghyd a cholli anwyliaid. Ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen.”

Mae’r fideo yn serennu’r actor Steffan Donnelly sydd wedi ymddangos yn y cyfresi teledu llwyddiannus ‘London Spy’ a ‘The Innocents’ ond fydd hefyd yn canu cloch i rai gan ei fod newydd ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. 

Dyma’r fideo: