Pump i’r Penwythnos – 15 Gorffennaf 2022

Gig: Sesiwn Fawr Dolgellau – 15-15/07/22

Ambell gig da o gwmpas penwythnos yma ond mae un digwyddiad cerddorol amlwg na ellir ei anwybyddu. 

Cyn hynny, mae’n werth rhoi mensh i gig Breichiau Hir sy’n digwydd yn Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd heno, gyda chefnogaeth gan y band roc o’r gogledd, Patryma. 

Ond heb amheuaeth y digwyddiad mawr penwythnos yma ydy Sesiwn Fawr Dolgellau, sy’n dathlu deg mlynedd ar hugain ers cael ei sefydlu eleni. 

Ac mae ‘na dipyn o lein-yp dros y penwythnos gyda Sŵnami yn y Ship Heno, ac Yr Eira yn y Clwb Rygbi yn uchafbwyntiau’r noson gyntaf. Mae Candelas, Gwilym Bowen Rhys , Yws Gwynedd, Mellt a HMS Morris ymysg yr enwau fory, ac yna Derw, Pedair a Casi Wyn yn rai o uchafbwyntiau dydd Sul. 

 

Cân: ‘Rhyddid’ – Mr Phormula ac Eädyth

Sengl newydd gan ddau o artistiaid amlycaf y sin Gymreg ydy ein dewis o drac yr wythnos hon. 

Mae ‘Rhyddid’ allan heddiw ac yn dod â dau o dalentau amlycaf Cymru ynghyd sef  Mr Phormula ac Eädyth. 

Mae’r ddau’n amlwg am eu gwaith unigol ond hefyd am gyd-weithio’n rheolaidd gydag artistiaid eraill. 

Bu Eädyth wedi gweithio ar y cyd cryn dipyn gyda’r cynhyrchydd Shamoniks dros y blynyddoedd ac mae hefyd wedi ryddhau cerddoriaeth gydag Izzy Rabey, Endaf, Ifan Dafydd a Ladies of Rage. 

Mae Mr Phormula wedi rhyddhau cerddoriaeth ar y cyd â llwyth o artistiaid eraill hefyd gan gynnwys y rapiwr Micall Parksun, Ystyr a Lleuwen.  

Y tro hwn, mae’r ddeuawd yn archwilio positifrwydd a naws yr haf dros ddarn bywiog o gerddoriaeth wedi’i gynhyrchu gan Mr Phormula yn ei stiwdio ei hun, Studio Panad.

 

Artist: Popeth 

Wyneb ac enw amlwg iawn sydd y tu ôl i’r prosiect pop Cymraeg newydd, Popeth.  

Rydym wedi arfer gweld Ynyr Roberts ar lwyfan gyda’i frawd Eurig, fel y ddeuawd Brigyn. Cyn hynny roedd y ddau hefyd yn aelodau o’r band ysgol o Arfon, Brigyn. 

Nawr mae Ynyr wedi penderfynu mynd  i gyfeiriad sydd ychydig bach yn wahanol gyda’r prosiect sydd â phwyslais ar gydweithio gydag artistiaid amrywiol eraill i  gynhyrchu Pop Cymraeg. 

Bwriad Ynyr gyda Popeth ydy  llenwi’r gofod  yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am Bop  disglair a phositif. 

Wythnos diwethaf fe gafwyd blas cyntaf o’r hyn sydd i ddod ar ffurf y sengl ‘Golau’ lle mae Ynyr wedi cyd-weithio a’r gantores ifanc o Gaerdydd, Martha Grug. 

Ac mae’n debyg y  gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan Popeth yn fuan gydag awgrym fod Ynyr wedi bod yn cyd-weithio gydag artistiaid fel Shamoniks, Kizzy Crawford a Lewis Owen (@bendigaydfran). 

Er bod cerddoriaeth Pop Synth wedi cael adfywiad yn ddiweddar gydag artistiaid byd enwog fel Dua Lipa, Charli XCX, Christine and  the Queens yn llwyddiannus iawn, mae bwlch o ran y math yma o gerddoriaeth yn y Gymraeg ym marn Ynyr. 

Mae’n gyfnod hir ers dyddiau ‘electro-pop-perffaith’ yng Nghymru – y don o grwpiau oedd yn cynnwys Mega, Pheena a Clinigol. Bwriad Ynyr gyda Popeth ydy llenwi’r bwlch yma ac mae’n  credu fod galw am bop Cymraeg. 

“Dwi’n caru cerddoriaeth o bob math, ac yn teimlo mod i wastad ar drywydd yn fy mywyd i gyfansoddi a chreu” meddai Ynyr.  

“Dwi wedi bod yn ffan o gerddoriaeth pop erioed. Wrth fy ngwaith bob dydd, fel dylunydd  graffeg, dwi’n teimlo bod perthynas rhwng sŵn cerddoriaeth fel Scandi-Pop ag ‘aesthetics’ cywrain  sydd ei angen i gyflawni gwaith graffeg. Bydda’i wastad yn hoffi ‘bach o ‘Dusky Grey’ yn y cefndir tra’n  gwneud fy ngwaith dylunio! 

“Y gwahaniaeth mawr rhwng nifer o ganeuon dwi wedi eu cyfansoddi yn y  gorffennol a chaneuon newydd Popeth, yw fy mod wedi cyfansoddi pob un o’r caneuon y byddaf yn  eu rhyddhau eleni ar allweddell yn hytrach na gitâr neu offeryn gwerinol. Mae camu o’r ‘comfort zone’ i  ddechrau ar antur gerddorol newydd yn gyffrous iawn. Mae popeth yn hwyl!” 

Edrych mlaen i glywed mwy, ond am y tro dyma ‘Golau’: 

Record: Mai – Georgia Ruth

Bydd Georgia Ruth yn rhyddhau ei EP newydd, Kingfisher, ar 29 Gorffennaf. 

Newyddion cyffrous yn wir, ac mae eisoes wedi rhyddhau dwy sengl wych fel tameidiau i aros pryd sef ‘25 Minutes’ a ryddhawyd fis Ebrill, ac yna ​​’Half Forgotten Heartbreak’ a ryddhawyd ddiwedd Mai. 

Bydd tair cân arall ar y record sy’n ymdrin â nostalgia, amser wedi’i golli a phleser rhyfedd tristwch. 

Yr EP newydd fydd record gyntaf Georgia ers ei halbwm ardderchog, Mai, a ryddhawyd ym mis Mawrth 2020

Roedd bwriad gan Georgia i deithio’n helaeth i hyrwyddo’r albwm rhwng Mawrth a Mai 2020, ond wrth gwrs fe chwalwyd y cynlluniau hynny gan ddyfodiad Covid a’r clo mawr. 

Mae Mai yn gasgliad anhygoel o ganeuon gan y gantores amryddawn o Aberystwyth, ac mae’n gweddu’n berffaith ar gyfer y penwythnos braf sydd i ddod – os nad ydych chi wedi clywed yr albwm, ewch ati i wrando dros y penwythnos da chi. 

I roi blas, dyma berfformiad byw unigryw o’r teitl drac a ffilmiwyd ar gyfer rhaglen Curadur, S4C:

 

Un Peth Arall: Fideo Sesiwn y Dail

Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo sesiwn newydd gyda’r grŵp ifanc o Bontypridd, Y Dail. 

Fe ddylai Y Dail fod yn gyfarwydd i selogion Y Selar erbyn hyn gan ein bod weid rhoi tipyn o sylw iddynt dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Er hynny, mae’r fideo’n gyflwyniad i’r band ac yn cynnwys perfformiad o ddau drac ganddynt sydd wedi’u ffilmio yn lleoliad bowlio deg Rhodda Bowl. 

Mae Y Dail, sef prosiect y cerddor ifanc o Bontypridd, Huw Griffiths a’i chwaer Elen, yn perfformio dau o’u caneuon ar y fideo sesiwn sef y sengl ‘Dyma Kim  Carsons’ a ‘Pedwar Weithiau Pump’. 

Mae modd gwylio’r fideo ar lwyfannau digidol Lŵp.