Gig: Gigs Cefn Car @ The Moon, Caerdydd – Gwener 16 Medi
Cwpl o gigs bach da yn y brifddinas i chi heno os ydach chi allan yn dathlu Dydd Owain Glyndwr.
Yn gyntaf, mae cyfle i ddal yr ardderchog HMS Morris wrth iddyn nhw chwarae yng Nghlwb Ifor Bach gyda’r band pop avant garde diddorol o Lundain, Wooze.
Yna, rhywbeth hollol wahanol yn The Moon, sef un o gyfres Gigs Cefn Car lle mae lein-yp ifanc cyffrous sy’n cynnwys Cai, Mari Mathias, Ble?, a Tesni Hughes.
Cân: ‘Fel Hyn’ – Morgan Elwy
Does dim amheuaeth fod Morgan Elwy yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd ac mae ei sengl newydd yn siŵr o gynyddu ei boblogrwydd ymhellach.
‘Fel Hyn’ ydy enw’r trac newydd sy’n gweld Morgan yn cyd-weithio unwaith eto gyda’r DJ a chynhyrchydd o Benllyn, Pen Dub.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau ddod ynghyd cofiwch, gan i Morgan ymddangos ar y trac ‘Tywysog Ni’ gan Pen Dub a ryddhawyd ym mis Mai 2021.
Yn ôl y ddeuawd mae ‘Fel Hyn’ yn ddathliad o fywyd rhydd y sin reggae a dub Cymraeg gyda Pen Dub yn darparu’r curiad wrth i Morgan gymryd gofal o’r gwaith canu gyda’i lais unigryw a chyfarwydd.
Mae fideo bach da i gyd-fynd â’r sengl newydd ac fe ffilmiwyd hwn yn ystod parti reggae yn nhafarn enwog Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen.
Dyma’r fid:
Artist: Ynys
Bydd unrhyw un sy’n cadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd yn y sin yma ar wefan Y Selar yn gyfarwydd iawn â cherddoriaeth Ynys erbyn hyn mae’n siŵr.
Ynys ydy prosiect diweddaraf y cerddor amryddawn Dylan Hughes o Aberystwyth oedd, ynghyd â Meilyr Jones, yn un o aelodau gwreiddiol Radio Luxemburg, a ddaeth yn Race Horses yn ddiweddarach.
Bydd ffans Ynys wrth eu bodd i glywed bod sengl diweddaraf y prosiect, ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’, newydd ei ryddhau ar label Recordiau Libertino.
Ond mae newyddion hyd yn oed mwy cyffrous fyth, sef y gallwn ni ddisgwyl gweld albwm cyntaf Ynys yn glanio’n fuan iawn hefyd.
4 Tachwedd eleni fydd dyddiad rhyddhau’r albwm newydd fydd, yn ôl Libertino, yn cynnig palet sain uchelgeisiol sy’n teithio o bop pŵer Big Star i Beach House trwy gyfrwng tannau sinematig a syntheseisyddion disgo Italo 1981.
Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â Dylan yn gwybod ei fod yn lled ddiweddar wedi symud o Gaerdydd yn ôl i ardal ei fagwraeth yn Aberystwyth. Ac mae’r symudiad arwyddocaol yma wedi dylanwadu tipyn ar yr albwm gyda llawer o’r caneuon yn cyffwrdd ar hyn – symud cartref o gartref, o’r ddinas i ardal gwledig, y syniad o weithgaredd trefol ffyniannus, a llonyddwch tref enedigol glan môr.
“Symud ymlaen ond ceisio mynd yn ôl i rywle,” meddai Dylan wrth drafod ei gerddoriaeth ddiweddaraf.
“Nôl yn eich tref enedigol, mae popeth yn teimlo’n wahanol ond hefyd yr un peth.
“Dwi’n meddwl mai dyma fy hoff gân oddi ar yr albwm” meddai am y sengl newydd
“Trefniant llinynnol gan Gruff ab Arwel wedi ei recordio yn Stiwdios Sain. Cafodd ei recordio’n fyw ac eithrio’r tannau, sydd â thipyn o naws T-Rex.”
Dyma ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’:
Record: Edyf – Cerys Hafana ar y ffordd
Un artist ifanc sydd wedi denu cryn dipyn o ddiddordeb a chwilfrydedd dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf ydy Cerys Hafana.
Cantores a thelynores o Fachynlleth ydy Cerys, ac ym mis Awst cafodd y cyfle i berfformio yng ngŵyl enwog Lorient yn Llydaw.
Cafodd Gruffudd ab Owain gyfle i ddal fyny gyda Cerys ar ran Y Selar yn ddiweddar i drafod ei phrofiadau yn Lorient, ynghyd a’i halbwm newydd sydd allan heddiw, 15 Medi!
Enw’r albwm newydd ydy Edyf ac mae ar gael yn ddigidol ac ar ffurf CD ar safle Bandcamp Cerys Hafana.
Dyma ydy ail albwm y gantores ifanc yn dilyn Cwmwl a ryddhawyd yn 2020.
A hithau’n delynores ddawnus, mae cerddoriaeth Cerys yn cael ei ddisgrifio fel cerddoriaeth werin, a dyma’n sicr sydd ar yr albwm newydd. Ond nid cerddoriaeth werin draddodiadol ‘ffal di ri, ffal di ro’ sydd yma o bell ffordd cofiwch, mae’r casgliad yn torri tir newydd yn sicr.
Er bod y dylanwadau’n dod o ganeuon traddodiadol, mae Cerys yn llwyddo i roi bywyd newydd i hen ganeuon, fel yr eglurodd wrth sgwrsio gyda Gruffudd…
“Ma’ lot o’r deunydd gwreiddiol ‘di dod o’r Llyfrgell Genedlaethol [o’u] archif ar-lein o hen faledi ac emynau. ‘Nes i dreulio lot o’r flwyddyn d’wetha yn mynd trwy hwnna ac yn edrych am emynau yn benodol o’dd ‘di marw allan yn llwyr.”
“Dwi’n chwarae’r delyn deires ac ma’ hynna’n rhan bwysig o be’ dwi’n neud achos mae ganddi lot o nodweddion sydd jyst ddim yn bodoli ar fathau gwahanol o delynau, yn enwedig y ddwy res allanol achos ma’ gen ti ddau o bob nodyn.
“Ma hynna di dylanwadu lot ar fy arddull i achos dwi’n meddwl bod o’n agor sain fwy cyfoes hefo’r effeithiau ti’n gallu creu efo’r [ffaith bod] dau o bob nodyn.
Bydd cyfle i weld Cerys yn perfformio’n fyw yng Ngŵyl Camp Good Life yn Sir y Fflint penwythnos yma, ynghyd ag yn lleoliad Porter’s yng Nghaerdydd ar 28 Medi.
Dyma’r ardderchog ‘Y Môr o Wydr’ o’r albwm newydd:
Un Peth Arall: ‘Paid Newid Dy Liw’ @ Maes B
Dros y cwpl o wythnosau diwethaf mae Lŵp, S4C, wedi bod yn llwytho caneuon o setiau bandiau Maes B, Steddfod Tregaron, a ninnau wedi bod yn rhannu ambell uchafbwynt o’r rhain gyda chithau!
Wythnos diwethaf fe wnaethon ni dynnu sylw arbennig at berfformiad Lloydy Lew a Dom James o’u clincar o gân, ‘Pwy Sy’n Galw?’, ac wythnos yma rydan ni wedi penderfynu dewis Mali Hâf yn perfformio ei sengl wych, ‘Paid Newid Dy Liw’ gyda chi.
Rhyddhawyd ‘Paid Newid Dy Liw’ gan Mali nôl y mis Mawrth, a dyna oedd ei hymgais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ielen.
Mae fideos o lwyth o berfformiadau gan artistiaid eraill ar sianel YouTube Lŵp gan gynnwys Eädyth, Adwaith, Y Cledrau a Mellt.
Llun: Cerys Hafana (gan Heledd Wyn Hardy)