Gig: Gwenno – Bryn Celli Ddu – 18/06/22
Mae’n debyg mai’r digwyddiad mwyaf penwythnos yma ydy Tafwyl, a da gweld rhywbeth o’r maint yma’n dychwelyd i Gastell Caerdydd unwaith eto.
Bydd llwyth o artistiaid yn perfformio yn Tafwyl wrth gwrs gan gynnwys Adwaith, Blodau Papur, Gwilym, Hana Lili, Lily Beau, Mellt ac Yws Gwynedd i enwi dim ond rhai.
Ond mae’r gig sydd wedi dal ein sylw ni’n bennaf y penwythnos yma’n un gwahanol iawn ei naws.
Dydd Mawrth nesaf, 21 Mehefin, fydd diwrnod hiraf y flwyddyn – Heuldro’r Haf, neu Alban Hefin i ddefnyddio cwpl o’r enwau amdano. Ac i nodi’r achlysur ddydd Sadwrn, bydd gig arbennig iawn ar safle beddrod Neolithig Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn.
Mae’r safle’n un sy’n cael ei gysylltu’n agos â Heuldro’r haf oherwydd mai dyma’r unig ddiwrnod o’r flwyddyn lle gelli’r gweld golau’n tywynnu’n syth i lawr tramwyfa’r beddrod i oleuo’r siambr y tu mewn wrth i’r haul godi.
Gwenno fydd yn perfformio yno fel rhan o’r dathliadau ac mae modd bachu tocynnau i’r digwyddiad unigryw iawn yma ar wefan Cadw.
Cân: ‘cynbohir’ – Gwilym
Mae’n teimlo fel oes ers i ni gael unrhyw beth newydd gan Gwilym, felly rydan ni wrth ein bodd i gweld ei sengl newydd, ‘cynbohir’, yn cael ei rhyddhau’n swyddogol heddiw.
Fel y byddech chi’n disgwyl gan y band yma, mae’r trac yn llawn o felodïau bachog ond, yn ôl Gwilym, mae ‘cynbohir’ hefyd yn rhoi blas i wrandawyr o gyfeiriad cerddorol newydd y grŵp.
Mae’n grêt hefyd i weld Gwilym yn ffurfio partneriaeth fach newydd gyda’r seren indie-pop Caerdydd, Hana Lili, yn canu ar y trac newydd.
Artist: Chroma
Grŵp arall sydd nôl yn y newyddion ydy’r triawd roc o’r Cymoedd, Chroma.
Mae Chroma wedi datgelu eu bod wedi newid label, a bellach wedi ymuno â stabal bywiog Recordiau Libertino.
Y newyddion da pellach ydy eu bod nhw’n paratoi i ryddhau eu cynnyrch cyntaf ar y label, a’u cynnyrch newydd hwythau ers sbel, ar ddiwedd mis Mehefin.
Triawd roc pwerus o Dde Cymru ydy Chroma gyda Liam Bevan ar y gitâr, Zac Mather ar y dryms a’r enigmatig Katie Hall yn canu. Daeth y grŵp i’r amlwg yn 2016 gan berfformio’n rheolaidd cyn cipio teitl Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B yn Eisteddfod Y Fenni.
Mae’r grŵp yn gyfarwydd am eu sŵn roc trwm sy’n ysgwyd lleoliadau eu gigs i’w seiliau – os welwch chi Chroma’n fyw, byddan nhw’n sicr wedi gadael eu stamp arnoch chi.
Sengl ddwbl sydd ar y ffordd ganddyn nhw gyda’r traciau ‘Weithiau’ a ‘Caru Cyffuriau’ allan ar 24 Mehefin, a’r ddau drac yn wahanol iawn i’w gilydd.
“Mae Weithiau yn gân am orffen perthynas gyda rhywun ti’n caru a’r proses o ddod i deall bod pethau ddim yn gweithio. Mae am rhoi dy hun gyntaf” meddai Katie Hall o’r band.
Mae thema ‘Caru Cyffuriau’, fel mae’r enw’n awgrymu, yn trafod thema wahanol iawn…
“Mae ‘Caru Cyffuriau’ am ‘naughty’ teenagers yn y cymoedd yn mynd lan y mynydd i cymryd ‘drugs’ ac arbrofi gyda rhyw achos does dim lot i neud” eglura Katie am yr ail drac.
“Fi’n meddwl does dim digon o adnoddau i pobl ifanc mewn ardal fel y cymoedd. Mae angen mwy o adnoddau a pethau i pobl ifanc neud rhag i nhw deimlo mor ynysig.
“O ni moen sgweni trac pync yn y Gymraeg, sydd yn adlewychu profiad go iawn pobl heddiw.”
Recordiwyd y caneuon yn fyw i ddal sain amrwd ac egnïol y triawd o’r Cymoedd gan y cynhyrchydd Kris Jenkins (Cate Le Bon, SFA, Gruff Rhys).
Dyma nhw’n perfformio’n fyw yng Ngwobrau’r Selar rai blynyddoedd yn ôl:
Record: Sŵnami – Sŵnami
Mae Sŵnami wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Paradis Disparu’, wythnos diwethaf, gan roi blas pellach o’r hyn y gallwn ni ddisgwyl ar ail albwm y grŵp.
Sŵnamii ydy enw record hir nesaf y band ac o’r hyn rydyn ni’n deall, fe ddylai fod allan yn hwyr yn yr haf eleni.
‘Paradis Disparu’ ydy’r cam diweddaraf yn y comeback bach sydd ar droed gan Sŵnami gan ddilyn y sengl ddwbl ‘Theatr’ / ‘Uno, Cydio, Tanio’ a ryddhawyd llynedd, ac yn ‘Be Bynnag Fydd’ a ymddangosodd yn gynharach eleni.
Mae’r senglau hyn wedi dod yn dilyn cyfnod cymharol hesb yn hanes un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’n anodd credu bod bron i saith blynedd ers i Sŵnami ryddhau eu halbwm cyntaf oedd yn rhannu enw’r grŵp.
Ond mae’n wir, rhaid i ni droi’r cloc yn ôl i Awst 2015 i ganfod dyddiad ryddhau’r casgliad gwych o ganeuon ar label Recordiau I KA CHING – casgliad oedd yn help mawr i sicrhau pedair o Wobrau’r Selar i Sŵnami y mis Chwefror canlynol.
Y trac o’r albwm a gipiodd deitl y ‘Gân Orau’ iddynt oedd ‘Trwmgwsg’, ond mewn gwirionedd mae’r record yn llawn o ganeuon cofiadwy gan gynnwys ‘Magnet’, ‘Gwenwyn’, ‘Fioled’ a ‘Cynnydd’ i enwi rhai o’r ffefrynnau.
Mae’r grŵp wedi datblygu eu sŵn ers hynny heb os, ond mae’r casgliad yn parhau i ddal ei dir ac mae’n werth gwrandawiad fach os fydd cyfle penwythnos yma.
Dyma un o ganeuon bach mwy low key y casgliad efallai, ‘Cysur Cyffur’:
Un Peth Arall: Ar Dâp yn ôl gydag Eädyth yn agor y gyfres
Mae cyfres newydd sbon o Lŵp: Ar Dâp wedi dechrau, a’r gwestai ar gyfer y bennod gyntaf ydy’r anhygoel Eädyth.
Mae modd i chi wylio’r bennod, sy’n cynnwys sgwrs a sesiwn fyw gan yr artist electro soul pop o Ferthyr ar lwyfannau digidol Lŵp nawr, neu cliciwch y botwm chwarae isod wrth gwrs.
Dros y misoedd nesaf bydd penodau eraill sy’n cynnwys perfformiadau byw gan rai o fandiau ac artistiaid amlycaf Cymru felly cadwch olwg am rhain.