Pump i’r Penwythnos – 18 Chwefror 2022

Gig: Gigs Tŷ Nain – Candelas, Kim Hon, Dafydd Hedd – Pontio, Bangor – Sadwrn, 19 Chwefror

Mae Gigs Tŷ Nain wedi bod yn amlwg iawn dros y cyfnod clo, ond credwch neu beidio, mae’r penwythnos yma’n nodi eu gig cyntaf gyda chynulleidfa fyw! 

Dyma’r trydydd gig i’r criw drefnu, ond y cyntaf yn y cnawd gan mai darllediadau ar-lein oedd y ddau flaenorol. 

Roedd yr ail o’r rheiny yng Nghanolfan Pontio ym Mangor, ac maen nhw’n dychwelyd i’r un lleoliad nos Sadwrn yma

Mae’r leinyp yn cynnwys Candelas, Kim Hon a’r bachgen lleol o Fethesda, Dafydd Hedd. Ond, peidiwch troi fyny heb docyn gan bod y gig wedi gwerthu allan. 

 

Cân:  ‘Rhyl’ – Tara Bandito

Mae ail sengl Tara Bandito allan yn swyddogol heddiw, ac yn ddewis amlwg ar gyfer ein cân yr wythnos hon.

‘Rhyl’ ydy’r dilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Blerr’, a ryddhawyd fis Ionawr ac a gafodd dderbyniad ardderchog. 

Mae’r trac yn deyrnged i’r dref glan môr yn y gogledd a fu’n destun gwawd i sawl cenhedlaeth ond sydd â man arbennig yng nghalon llawer o’r rheiny a fagwyd yn yr ardal, gan gynnwys Tara wrth gwrs. 

Edrychwch y tu hwnt i’r goleuadau llachar, y parciau antur rhydlyd, y Lazer-quest a’r Sun Centre, ac fe welwch chi wir serch y dref unigryw yma. 

Mae Rhyl wedi dylanwadu’n fawr ar fywyd Tara – mae ganddi atgofion melys o weithio y box office i sioeau wreslo ei thad, Orig Williams (El Bandito) a helpu ei mam ar y stondin “merch” gan werthu’r “boo hands” a’r “championship belts” plastig drwy’r ‘summer seasons’. 

Ac fel cymaint o bobl ifanc yr ardal fe brofodd hefyd fedydd tân y “clubbing scene” yng nghlybiau Rosie O’Grady’s a Scruples wrth ymfalchïo yn yr ‘Hooch’ a ‘WKD’ ar y nosweithie £1 y botel! 

Mae Tara yn dathlu ei hunaniaeth gyda’i thafod yn ei boch yn ‘Rhyl’ ac yn cydnabod prydferthwch y neon llachar oedd yn rhan o’u hieuenctid ac sy’n parhau i fod yn ddarn ohoni hyd heddiw. 

Fel gyda ‘Blerr’ mae fideo ardderchog i gyd-fynd â’r sengl newydd gyda’r gwaith ffilmio gan Andy Neil Pritchard.

 

Record: Welsh Tourist Bored – Traddodiad Ofnus

Sylw i record a ryddhawyd yn y 1980au penwythnos yma, ond a fydd yn cael ei ail-ryddhau’n fuan iawn. 

Welsh Tourist Bored oedd enw albwm y grŵp tanddaearol chwedlonol Traddodiad Ofnus oedd yn cael eu harwain gan Gareth Potter a Mark Lugg. 

Rhyddhawyd y record yn wreiddiol union 35 mlynedd yn ôl ym 1987 ar y label Constrictor o’r Almaen, a mis nesaf bydd Anksmusik yn ail-ryddhau’r albwm.

Bydd y fersiwn newydd allan ar 18 Mawrth, ond cyn hynny mae sengl ddwbl fel tamaid i aros pryd sef trac teitl yr albwm, ‘Welsh Tourist Bored’ a’r gân ‘Hunangofiant’. 

Bydd y fersiwn newydd o’r albwm yn cynnwys holl senglau Traddodiad Ofnus ynghyd â disg bonws o demôs, traciau byw a sesiynau ar recordiwyd ganddynt rhwng 1984 a 1989.

Mae’r casgliad newydd hefyd yn dod gyda llyfryn sy’n cynnwys traethawd newydd sy’n ail-edrych ar y grŵp a’u dylanwad cyn mynd i’r afael â’r cwestiynau sy’n codi drwy gyflwyno gwaith diwylliannol mor bwysig o 1987 yn ôl i’r dirwedd ddiwylliannol bresennol; cyfweliad gydag aelodau’r band Gareth a Mark a chyfoeth o ffotograffau a deunyddiau unigryw o archifau’r band. 

Grŵp tanddaearol oedd Traddodiad Ofnus ac roedd Potter a Lugg wedi’u lleoli y tu allan i Gymru, yn Llundain a Brighton yn ystod cyfnod y grŵp. Aeth y ddau ati i ffurfio’r grŵp dawns Tŷ Gwydr yn ddiweddarach – grŵp oedd yn llawer nes at brif lif cerddorol Cymru ac a berfformiodd mewn gigs enfawr, gan gynnwys yr enwog Noson Claddu Reu ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ym 1992. 

Mae fersiwn gwreiddiol Welsh Tourist Bored wedi bod allan o brint ers tro felly mae Ankstmusik yn falch o’i gynnig unwaith eto ac wedi’i sgwrio’n ffres yn barod i’r clustiau newydd. 

Dyma’r trac ‘Welsh Tourist Bored’: 

 

Artist: Tecwyn Ifan

Dim ond un dewis oedd ar gyfer ein artist yr wythnos hon, neb llai nag enillydd gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni, Tecwyn Ifan. 

Datgelwyd y newyddion iddo mewn sgwrs arbennig a ddarlledwyd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore dydd Mercher. Roedd Tecwyn yn amlwg dan deimlad, a ddim yn disgwyl y newyddion o gwbl – mae hynny’n dweud llawer am fawredd y gŵr diymhongar.

Os nad ydych wedi clywed y cyfweliad gydag Aled Hughes, yna mae’n sicr yn werth i chi wrando nôl

Mae’n ymuno â llond llaw o fawrion y sin gerddoriaeth Gymraeg sydd wedi derbyn y wobr yn y gorffennol –  Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones, Mark Roberts a Paul Jones (Y Cyrff/Catatonia/Y Ffyrc), Gruff Rhys a Gwenno.

Does dim amheuaeth fod Tecwyn Ifan yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru ers y 1970au. 

Ei fand cyntaf oedd Perlau Taf a ffurfiodd ar ddiwedd y 1960au pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Dâf. Roedd ei frawd, Euros, hefyd yn aelod o’r band hwnnw. 

Ar ôl mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor fe ffurfiodd y grŵp Ac Eraill gyda thri cherddor amlwg arall sef Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Roedd y grŵp yn gyfrifol am nifer o ganeuon cofiadwy gan gynnwys y clasuron ‘Cwm Nant Gwytheyrn’ a ‘Tua’r Gorllewin. Roedden nhw hefyd yn ganolog i’r sioe gerdd chwelonnol ‘Nia Ben Aur’. 

Chwalodd Ac Eraill ym 1975, ac fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio fel artist unigol yn fuan wedi hynny.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Y Dref Wen ym 1977 – record sy’n cael ei chydnabod fel un o glasuron mwyaf yr iaith Gymraeg. Daeth cyfres o recordiau hir i ddilyn ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au – mae Herio’r Oriau Du (1983), Stesion Strata (1990) a Sarita (1997) ymysg rhai o recordiau amlycaf y cyfnod ganddo. 

Er bod y cynnyrch newydd wedi arafu rhywfaint ers toad y mileniwm, mae Tecwyn wedi parhau’n weithgar gan gigio’n rheolaidd. Mae hefyd wedi rhyddhau dau albwm dros y ddegawd diwethaf sef Llwybrau Gwyn yn 2012 a Santa Roja yn 2021. 

Wrth iddo ryddhau ei albwm diweddaraf llynedd, gan hefyd droi’n 70 eleni, roedd yn teimlo fel amser perffaith i gyflwyno’r wobr Cyfraniad Arbennig iddo eleni. 

Fel rhan o’n teyrnged i Tecs, rydan ni wrthi’n rhedeg pôl piniwn ymysg darllenwyr i ddewis ei gân orau o’i ôl-gatalog helaeth. Os oes un peth yn sicr, mae’r boi yma’n gwybod sut i ysgrifennu tiwn! 

Ein unig siom ydy nad oedd modd i ni drefnu gig i ddathlu’r wobr eleni a thalu teyrnged pellach i’r enillydd…ond efallai daw cyfle eto. 

Rhag dylanwadu ar y bleidlais, fe wnawn ni chwarae un  o ganeuon Ac Eraill i chi – dyma ‘Cwm Nant Gwytheyrn’: 

 

Un Peth Arall: Ôlbarti Gwobrau’r Selar

Doedd dim digwyddiad byw Gwobrau’r Selar eleni, ond roedd yn grêt gallu cyhoeddi’r enillwyr yn fyw ar Radio Cymru ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens wythnos yma. 

Fel arfer, mae ‘na barti aftershow answyddogol yn yr Angel yn Aberystwyth ar ôl y noson wobrau yn Undeb y Myfyrwyr. Roedden ni’n meddwl felly y byddai’n dda creu ein ôlbarti ein hunain eleni i’w ddarlledu ar-lein ar ôl cyhoeddi’r enillwyr olaf ar raglen Huw Stephens. 

Mae’r ôlbarti’n cynnwys sgwrs gydag Elan Evans am Merched yn Gwneud Miwsig a enillodd ‘Wobr 2021’ eleni, ynghyd â chyflwyniad i gathod newydd y grŵp Kathod, sydd â chysylltiad agos â’r prosiect ond oedd hefyd ar restr fer y categori ‘Band neu Artist Newydd’. 

Roedd set fach gan Morgan Elwy, enillydd y categori ‘Band neu Artist Newydd’ yn yr ôlbarti hefyd, ynghyd â set lawn wych gan enillwyr tair o’r gwobrau eleni, Papur Wal. 

Darllwyd rhain yn fyw am 21:00 neithiwr, ond tydi hi byth yn rhy hwyr i ymuno â phartïon Y Selar a gallwch wylio ar alw nawr.