Gig: Pys Melyn, Gwenno Morgan – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 18/03/22
I chi sydd yn y brifddinas neu gerllaw penwythnos ym, mae ‘na gig bach da yng Nghlwb Ifor Bach heno.
Mae hwn yn ran o’r gyfres o gigs sy’n cael ei gynnal dan faner Dydd Miwsig Cymru y gwanwyn yma, gyda lein-yp gwych sy’n cynnwys Pys Melyn, Gwenno Morgan a’r ardderchog Bitw.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon i’ch denu, y newyddion da pellach ydy fod mynediad i’r gig am ddim!
Cân: ‘Morfudd’ – Blodau Papur
Da gweld cynnyrch cyntaf Blodau Papur ers eu halbwm yn 2019 yn ymddangos wythnos nesaf.
‘Morfudd’ ydy enw eu sengl newydd, a’r trac diweddaraf i’w ryddhau i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Yn ôl I KA CHING mae ‘Morfydd’ yn codi Blodau Papur i dir mwy soffistigedig byth na’r hyn rydym wedi gweld ganddyn nhw eisoes.
Mae’r trac yn arddangos cyffyrddiadau eneidiol, teimladwy’r band yn cwrdd â sŵn cerddorfaol, bron yn James Bond-aidd.
Mae stori wir wedi dylanwadu ar y gân hefyd sef hanes trist y cerddor amryddawn Morfydd Llwyn Owen a fu farw’n 1918 yn ddim ond 26 mlwydd oed.
Roedd hi’n gerddor wrth reddf, yn canu ac yn canu’r piano i safon uchel, ac fe gyfansoddodd dros 250 o weithiau yn ystod ei bywyd byr.
Cafodd yrfa ddisglair iawn, ond daeth diwedd i’w chyfnod toreithiog fel cyfansoddwraig wedi iddi briodi Dr Ernest Jones. Mae llawer yn credu ei fod eisiau i Morfydd fod yn wraig iddo fo, a dim byd arall, ac mae’n amlwg fod ei effaith yn fawr arni gan iddi gyflawni ychydig iawn yn gerddorol wedi’r briodas.
Dyma ‘Morfudd’:
Record: Ynys Alys
Mae EP newydd Ynys Alys yn rhan o brosiect uchelgeisiol newydd sy’n gweld cerddoriaeth gyfoes a theatr yn dod ynghyd.
Cynhyrchiad theatr gan gwmni Frân Wen ydy Ynys Alys ac mae’r cerddorion sy’n ymwneud â’r sioe wedi rhyddhau EP o ganeuon sydd wedi’u cyfansoddi ar gyfer y cynhyrchiad.
EP pedwar trac ydy hwn sy’n cyfuno doniau y rapiwr Lemarl Freckleton (sy’n adnabyddus hefyd fel Lemfreck, yr artist pop Casi Wyn a’r electro-gynhyrchydd Alexander Comana
“Mae’n ddathliad lliwgar o wahanol steiliau sy’n dod at ei gilydd, gan doddi i mewn i un cawr Cymreig sydd wedi magu traed, breichiau a chydwybod,” meddai Casi sy’n rhan o dîm creadigol Ynys Alys.
“Drwy ddod â rap, pop ac electro o wahanol gefndiroedd a diwylliannau at ei gilydd ‘da ni’n gallu ail-ddiffinio ein straeon a sut maen nhw’n cael eu hadrodd.”
Mae Ynys Alys yn gynhyrchiad theatr sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth, ac mae’r sioe yn teithio theatrau Cymru o ers ddoe (17 Mawrth) nes 9 Ebrill.
Mae Lemarl Freckleton yn artist sydd wedi creu tipyn o gynnwrf yn ddiweddar ac fe gafodd ei enwi fel cerddor BBC Introducing Ones to Watch 2021 o dan yr enw Lemfreck. Mae’n credu bod Ynys Alys yn dweud llawer am ein cenedl.
“Mae Ynys Alys yn metaffor perffaith o Gymru oherwydd nid ydi o’n ffitio mewn unrhyw genre, ti methu ei roi mewn bocs” meddai Lemarl.
“Mae gennym ni lawer o gymunedau amrywiol a lleisiau gwahanol yng Nghymru – a dyma’r stori rydyn ni’n ei hadrodd.
Bu tîm Ynys Alys yn gweithio gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru am dros ddwy flynedd, ac mae naratif a cherddoriaeth Ynys Alys wedi eu creu ochr-yn-ochr mewn proses unedig.
“Mae ‘sgwennu cân i fynd efo naratif arall yn dy orfodi i fod yn anhunanol. Ni fedri di ‘sgwennu rhywbeth haniaethol yn y gobaith y bydd o’n taro’r nod, mae gen i fwy o gyfrifoldeb wrth arwain y stori,” ychwanegodd Casi.
Dyma’r trac ‘Ynys’ o’r EP:
Artist: Mali Hâf
Un o artistiaid amlycaf 2022 hyd yn hyn ydy Mali Hâf.
Ers i’r cyfyngiadau lacio mae ei henw wedi ymddangos ar leinyp nifer o gigs ac mae’n debygol y gwelwn ni hi’n perfformio tipyn yn ystod y flwyddyn gyda’i cherddoriaeth yn gweddu’n berffaith ar gyfer gwyliau’r haf yn ein tyb ni.
Mae Mali hefyd newydd ryddhau ei sengl ddiweddaraf ‘Paid Newid Dy Liw’. Mae’n debyg bydd y gân yn gyfarwydd i ran eisoes gan mai dyma oedd ei hymgais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar S4C eleni.
Merch o Gaerdydd ydy Mali ac mae wedi bod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Leeds.
Er hynny, galwodd hiraeth hi’n ôl i Gaerdydd i geisio datblygu ei gyrfa gerddorol. Daeth y symudiad ychydig yn gynharach na’r bwriad oherwydd Covid a’r clo mawr, a gyda hynny penderfynodd newid ei henw llwyfan hefyd o Mali Melyn i’w henw gwreiddiol, Mali Hâf.
Rhyddhaoedd ei sengl ‘Refreshing/Ffreshni’ ym mis Ionawr llynedd ac ers hynny mae fel petai wedi mynd o nerth i nerth.
Ysgrifenodd Mali y gân gyda’i ffrind, a gitarydd ei band, Trystan Hughes.
Yn y gân mae Mali yn erfyn ar i bethau gorau bywyd i beidio newid eu lliw.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y geiriau mewn breuddwyd pan welodd Mali afon yn newid ei lliw hyfryd i liw cemegol brwnt.
Yna, y diwrnod canlynol, darllenodd am y modd mae traean o afonydd yn America wedi newid eu lliw dros y 40 mlynedd diwethaf, o ganlyniad i lygredd a gweithgaredd dynol.
Er mai dyna’r ysgogiad, wrth ysgrifennu’r gân gwelodd Mali fod y geiriau’n berthnasol i lawer agwedd o fywyd e.e. does dim rhaid newid lliw croen, diwylliant, rhywioldeb, personoliaeth na’ch hunaniaeth, a’r gobaith bydd Cymru’n cadw ei hyfrytwch gweledol a diwylliannol am yr oesoedd a ddaw.
Un Peth Arall: Cyhoeddi manylion Gŵyl Car Gwyllt
Mae’n grêt i weld yr holl wyliau Cymreig sy’n cyhoeddi eu bod am ddigwydd eleni wedi dwy flynedd hesb.
Yr ŵyl ddiweddaraf i gadarnhau ei bod am gael ei chynnal ydy Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog fydd yn digwydd ar benwythnos 1-3 Gorffennaf.
Yn ôl y trefnwyr bydd dau lwyfan i’r ŵyl ac maen nhw wedi cyhoeddi enwau nifer o’r artistiaid sy’n perfformio. Mae rhain yn cynnwys Mared & Tom, Leri Ann, Gai Toms, Deryn Melyn, Estella, Ynys, Bandicoot, Ed Holden, Patryma, Mistêcs, Adwaith, Candelas, Hap a Damwain, Pys Melyn, SYBS, Y Cledrau, Los Blancos a JD Band.
Edrych mlaen at hon!