Pump i’r Penwythnos – 18 Tachwedd 2022

Gig: Y Ddawns Rhyng-gol – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth – 19/11/22

Mae un o gigs mawr yr hydref yn digwydd y penwythnos yma sef Y Ddawns Rhyng-golegol

Aberystwyth ydy lleoliad y digwyddiad yma bob blwyddyn a bydd myfyrwyr Cymraeg prifysgolion eraill Cymru, a thu hwnt, yn heibio i Undeb y Myfyrwyr nos Sadwrn. 

Mae lein-yp y Ddawns Rhyng-gol wastad yn tueddu i fod bach yn randym ac mae hynny’n wir eto eleni gyda Meinir Gwilym yn hedleinio. Mae Meinir wastad yn grêt, ond gyda 3 Hwr Doeth yn brif gefnogaeth mae’n siŵr o fod yn noson ddiddorol i ddweud y lleiaf! 

Hefyd yn cwblhau’r lein-yp mae’r ddau fand ifanc o’r gogledd, Dienw a Maes Parcio. 

 

Cân: ‘Triongl Dyfed’ – Rogue Jones

Pwy fyddai’n cyfuno bach o sci-fi gyda gwleidyddiaeth Gymreig ar un o’u caneuon? Pwy ond Rogue Jones wrth gwrs!

Mae sengl ddiweddaraf y grŵp gwallgof yn cynnig dehongliad amgen o un o faterion llosg mwyaf Cymru yn y 1980au a 90au sef llosgi tai haf. 

‘Triongl Dyfed’ ydy enw’r sengl newydd ac mae’r teitl yn cyfeirio at yr ardal hwnnw o orllewin Cymru lle gwelwyd sawl UFO yn y 1970au a’r 1980au. 

Prif fyrdwn y gân ydy cynnig damcaniaeth ddychmygol fod ymosodiadau bwriadol Meibion ​​Glyndŵr i losgi bythynnod gwyliau wedi’u cyflawni mewn gwirionedd gan êliŷns o’r gofod! 

Yn cael ei chanu yn bennaf o safbwynt yr estroniaid – mae’r gân yn benthyg o ‘Mae Gen i Het Tri Chornel’, yn dyfynnu cân y rocwyr o’r 1970au Edward H Dafis, ‘Mae’n Braf Cael Byw Mewn Tŷ Haf’, ac yn enwi’r canwr ac actor chwedlonol Bryn Fôn, a gafodd ei arestio ar gam ar amheuaeth o fod yn aelod o Meibion ​​Glyndŵr, yn ogystal ag Owain Glyndŵr ei hun.

Er bod y sengl yn cael ei chanu a thafod mewn boch, mae’r band, sy’n cael ei arwain gan y cwpl Bethan Mai ac Ynyr Ifan, yn amlwg yn teimlo’n gryf am sefyllfa tai haf yng Nghymru.  

“Rydym yn credu bod yr argyfwng ail gartrefi yng Nghymru yn wirion bost ac rydym yn credu y dylai’r llywodraeth ymyrryd i atal prisiau tai rhag codi mor ddramatig ac i ganiatáu i bobl ifanc gafodd eu magu yn yr ardal fedru brynu tŷ fforddiadwy lle maen nhw’n byw” meddai Rogue Jones.

Clywch clywch! 

 

Artist: Maes Parcio

‘Sgen Ti Awydd?’ ydy enw’r trac cyntaf i’w ryddhau’n swyddogol gan y band ifanc Maes Parcio, ac sydd allan nawr ar label newyd Inois.  

Band sydd ag aelodau o Gaernarfon ac Ynys Môn ydy Maes Parcio sef Gwydion Outram (Gitâr a Phrif Leisydd), Twm Evans (Piano), ac Owain Siôn (Dryms).  

Ffurfiodd y band yn wreiddiol nôl yn 2018 fel rhan o raglen ‘Marathon Rock’ Galeri, Caernarfon ac maen nhw wedi bod yn gigio tipyn yn lleol ers hynny, er nad ydyn nhw wedi ryddhau unrhyw gynnyrch cyn hyn. 

Mae’r sengl newydd yn dod o gyfnod cychwynnol y band, a cafodd ei hysgrifennu a’i recordio fel rhan o’r sesiynau gyda help Osian Williams (Candelas) a Branwen Williams (Siddi).

Er eu bod nhw wedi datblygu tipyn o ran eu sŵn ers hynny, roedd y band yn teimlo mai dychwelyd at un o’r caneuon cynnar oedd yn briodol wrth ryddhau eu sengl gyntaf. 

“Dwi’n meddwl bod o just yn neis dod yn ôl at un o’r caneuon nath helpu sefydlu ni fel band” meddai’r drymiwr, Owain Siôn.  

“Iawn, dos na’m lot di dod allan ers hynny a da ni’n bendant di newid lot fel pobl a cerddorion ers sgwennu fo. Rŵan bo ni’n dechra sbïo ar sgwennu petha ‘trymach’, ma’n dda gallu rhyddhau wbath mwy ysgafn a hwyl i gadw range ni’n agored fel band.”

A’r newyddion da ydy y gallwn ni ddisgwyl mwy o gynnyrch gan Maes Parcio’n fuan wrth iddynt baratoi i fynd mewn i’r stiwdio i ddechrau recordio eu traciau newydd.

Mae cyfle i weld Maes Parcio’n perfformio’n fyw yn y Ddawng Rhyng-gol penwythnos yma (gweler uchod). 

 

Record: Avanc – Yn Fyw

Ein dewis o record yr wythnos hon ydy’r casgliad newydd o berfformiadau byw sydd wedi’i ryddhau gan y prosiect gwerin, Avanc.

Mae’r record newydd yn gasgliad o ganeuon o berfformiadau byw sy’n arddangos yr hyn mae’r band yn gallu gwneud ar ôl haf o berfformio mewn lleoliadau ar draws Ewrop. 

Ensemble gwerin ieuenctid cenedlaethol Cymru  ydy Avanc a sefydlwyd gan Trac Cymru yn 2017. Ers hynny maent wedi perfformio mewn lleoliadau di-rif, gan gyflwyno hud a dycnwch cerddoriaeth werin Cymru i’r byd.

Fel pob prosiect arall, daeth Covid i roi stop ar gynlluniau uchelgeisio y prosiect, ond yr haf hwn roedd y band yn ôl ar y lôn ac yn chwarae mewn gwyliau di-rif fel Tafwyl, Celtic Connections, Blas, Sesiwn Fawr Dolgellau, a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient.

Gyda’r gigs haf bellach wedi dod i ben, maen nhw’n troi eu sylw at ryddhau albwm fydd yn rhoi syniad i ni o’r fath o brofiad yw gwylio’r band yn fyw.

“Mae’r albwm yn dod â’n hoff draciau o’n perfformiadau yn ddiweddar at ei gilydd”, meddai gitarydd Avanc, Rhys Morris o Gaerdydd.

Mae’n arddangos ein gallu ac rydyn ni wir wedi taflu cymaint ag y gallwn i’r prosiect. Mae gennym rai setiau clasurol gyda chlocsio a rhai arafach. Bydd yn wych dod â darn o’r hyn rydym yn ei berfformio’n fyw i recordiad y gallwn ei rannu â chi.

Dyma ‘Cân yr Ysbrydion’ yn fyw o Celtic Connections:

 

Un Peth Arall: Sengl Cwpan y Byd Hansh – gyda Dom James a Lloyd

Mae criw Hansh, S4C wedi neidio ar y lori lwyddiant ac ymuno a’r don o artistiaid Cymraeg sydd wedi rhyddhau sengl i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yn rowndiau terfynnol Cwpan y Byd yn Qatar. 

‘Calon y Ddraig’ ydy enw’r sengl ac y rapwyr a chynhyrchwyr Dom James, Lloyd a dontheprod sy’n gyfrifol am y trac newydd i gydfynd â rhaglen ‘Pa Fath o Bobl…sy’n Gwerthu Cymru?’. 

Dyma hi: