Pump i’r Penwythnos – 19 Awst 2022

Gig: Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Mae ‘na dipyn o gyffro ym Môn penwythnos yma wrth i’r grŵp poblogaidd Calfari ddod ynghyd unwaith eto am eu gig cyntaf ers rhai blynyddoedd. Byddan nhw’n chwarae yn yr Iorwerth Arms, Bryngwran heno (Gwener) gyda chefnogaeth gan y Moniars, Tesni Hughes a Daf Jones. O’r hyn rydan ni’n ddeall mae’r tocynnau i gyd fwy neu lai wedi gwerthu felly peidiwch troi fyny heb docyn. 

Er hynny, does dim amheuaeth mai digwyddiad cerddorol mwyaf Cymru penwythnos yma ydy Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Yr ŵyl flynyddol yn y Bannau Brycheiniog ydy gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru ers sawl blwyddyn ac mae’r prif enwau eleni’n cynnwys Public Service Broadcasting, Michael Kiwanuka, Beach House a’r anhygoel Kraftwerk. 

Mae digon o ddiddordeb o safbwynt Cymreig hefyd wrth gwrs gan gynnwys Cate Le Bon, Carwyn Ellis & Rio 18, Adwaith, Melin Melyn, Papur Wal, Rhodri Davies a Cerys Hafana. Mae’r leinyp llawn ar wefan yr ŵyl

 

Cân: ‘Llong’ – Mr

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd lle rydan ni’n gweld cerddoriaeth newydd yn glanio gan Mr, a dydan ni’n cwyno dim am hynny! 

Dros y pedair blynedd diwethaf mae Mark Roberts wedi bod yn rhyddhau albwm bob mis Hydref, gyda chwpl o senglau gwych i roi blas cyn hynny bob tro. 

Mae’n edrych yn debyg mai’r un fydd y drefn eto eleni ar ôl i’r sengl ‘Llong’ lanio ar safle Bandcamp Mr ddiwedd Gorffennaf. 

Mae Mark wedi datgelu mai tamaid i aros pryd nes ei albwm nesaf ydy’r trac ac mai enw’r albwm fydd Yn Y Ffatri Marblis. 

 

Artist: Hel Clecs

Tydi Ed Holden yn foi prysur dwedwch! 

Nes yn ddiweddar, mae wedi bod yn cario pwysau’r faner hip-hop Cymraeg ar ei ysgwydd fel Mr Phormula a siŵr o fod wedi dylanwadu cryn dipyn ar y don o artistiaid hip-hop  newydd sydd wedi ymddangos yn ddiweddar. 

Mae hefyd bob amser yn edrych i gyd-weithio gydag artistiaid eraill boed nhw’n rai Cymraeg neu unrhyw iaith arall gydag esiamplau diweddar yn cynnwys Eädyth, Micall Parknsun a Lord Willin. 

Rhyddhaodd sengl ar y cyd â Lord Willin, sef cerddor amlwg o Rhode Island ym mis Chwefror ac mae’n amlwg fod y ddau wedi cadw mewn cysylltiad gan eu bod nôl yn cyd-weithio ac wedi ffurfio band newydd ar y cyd o’r enw Hel Clecs. 

Y newyddion cyffrous ydy bod EP cyntaf Hel Clecs allan heddiw dan yr enw ‘S.A.I.N. (Sound Acquired in Nature)’ a hynny ar label Bard Picasso. 

Record fer chwech trac ydy S.A.I.N ac fe’i cynhyrchwyd gan Mr Phormula yn Stiwdio Panad yn Llanfrothen. 

‘No Holding Us Back’ ydy prif sengl y casgliad ac mae’r trac yn arddangos pob agwedd o’r prosiect newydd gyda chynhyrchiad pwerus a phenillion siarp.

Mae ‘na westai ychwanegol gwych yn ymuno â’r ddeuawd ar yr EP hefyd sef y rapwyr Spit Gemz ac  Aye Wun. Mae ‘na rapiwr arall o Rhode Island, Redd Rebel, hefyd yn arwain y ffordd ar y trac ‘All For the Honour’. 

Edrych fel prosiect cyffrous arall gan frenin hip-hop Cymru. 

Record: Llygredd Gweledol – Chroma

Rydan ni’n ffans mawr o Chroma yma yn Y Selar felly’n gyffrous iawn i weld eu EP newydd yn glanio ar label Recordiau Libertino wythnos diwethaf. 

Rydan ni eisoes wedi cael ambell sengl i roi blas o’r record fer gan gynnwys y sengl ‘Meindia’r Gap’ a ryddhawyd ar 29 Gorffennaf

Cyn hynny roedden nhw hefyd wedi rhyddhau’r sengl ddwbl sengl ddwbl ‘Weithiau’ a ‘Caru Cyffuriau’ ar 24 Mehefin wrth gyhoeddi eu bod wedi ymuno â theulu Libertino. 

Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar y triawd roc yma o’r cymoedd erbyn hyn. Daeth Katie, Liam a Zac i amlygrwydd wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B yn Eisteddfod Y Fenni 2016 ac ers hynny maen nhw wedi bod yn creu argraff ar unrhyw un sydd wedi profi un o’u sioeau byw enfawr. 

Yn ogystal â’r senglau uchod, mae’r EP yn cynnwys un trac arall sy’n rhannu enw’r record. 

Recordiwyd yr EP yn fyw gyda’r cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins, ac mae’r caneuon yn dal sain amrwd ac egniol CHROMA. 

Os ydach chi isio gwybod mwy am y record yna bachwch gopi o rifyn diweddaraf Y Selar lle mae adolygiad o Llygredd Gweledol – fersiwn digidol ar-lein hefyd.

Dyma ‘Meindia’r Gap’: 

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Nid Aur’ – Adwaith

Fideo arbennig arall gan griw Lŵp, S4C ac nid am y tro cyntaf eleni maen nhw’n gweithio gydag Adwaith. 

‘Nid Aur’, un o draciau albwm newydd Adwaith, Bato Mato, sy’n cael y driniaeth y tro yma ac mae’r fideo’n dilyn ymweldiad y merched â’r ffair…ac yn benodol y trên ysbrydion – sbŵci! 

Eilir Pierce sydd wedi cyfarwyddo’r fideo gyda Pixy Jones yn gyfrifol am y gwaith golygu. 

 

(Llun: Celf Calon / Y Selar / Clwb Ifor Bach)