Gig: Gigs Ty Nain 4 – Yws Gwynedd, Dienw, Tesni Hughes – Neuadd y Farchnad Caernarfon – 20/05/22
Dipyn o gigs penwythnos yma eto, ond go brin fod llawer sy’n cael eu disgwyl mor eiddgar â pherfformiad cyntaf Yws Gwynedd a’i fand ar lwyfan ers bron i 5 mlynedd!
Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon fydd y lleoliad heno wrth i Yws gamu nôl i’r llwyfan yn y diweddaraf o gyfres Gigs Ty Nain. Mae cefnogaeth gan yr artistiaid ifanc Dienw a Tesni Hughes – mae’n mynd i fod yn un dda!
Hefyd heno, mae Gwilym Bowen Rhys yn chwarae yn Y Bari, a Georgia Ruth yn Neuadd y Frenhines yn Arberth.
Gan symud ymlaen i fory, mae’n glamp o ddiwrnod yn Nhregaron wrth i ŵyl Tregaroc ddychwelyd gyda cherddoriaeth trwy’r dydd yn nhafarndai’r dref ac yn y Clwb Rygbi gyda’r hwyr.
Nos fory hefyd mae gig bach da yng Nghlwb Ifor Bach gyda Morgan Elwy, Elis Derbyn a Mari Mathias.
Dyma un o’r fideos hyrwyddo gig mwyaf crîpî i ni weld erioed gyda llaw…
NOS WENER YMA
Dewch at a ni a @ywsgwynedd am boogie.
Tocynna: https://t.co/ZGGHHHq0H9 pic.twitter.com/RK
—
Gigs Tŷ Nain (@GigsTyNain) May 16, 2022
Cân: ‘Os oes cymaint o Drwbl…’ – Y Cledrau
Da gweld sengl newydd allan gan Y Cledrau wythnos diwethaf, a’r trac olaf o’r gyfres o senglau sydd wedi bod yn cael ei rhyddhau’n wythnosol gan Recordiau I KA CHING ers mis Ionawr.
Mae’n ymddangos bod ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ wedi bod yn llechu yn y cefndir gan Y Cledrau ers peth amser, ac o’r diwedd yn gweld golau dydd…
“Roedd sgerbwd a geiriau ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ wedi ei ffurfio cyn ein halbwm cyntaf Peiriant Ateb yn 2017, ond fe gafodd hi ei chadw yng nghefn y drôr tan rŵan” meddai ffryntman Y Cledrau, Jo Owen.
Er fod y trac yn mynd yn ol tipyn, mae’r band o’r farn ei fod yn ffitio’n daclus ar y casgliad I KA CHING sy’n cael ei ryddhau ar record feinyl penwythnos yma (gweler isod).
“Hon oedd un o’r traciau cyntaf i ni recordio wrth weithio ar ein hail albwm Cashews Blasus yn stiwdio Sain, ond erbyn i ni orffen yr albwm, roedden ni’n teimlo nad oedd hi’n cyd-fynd gyda naws gweddill yr albwm. Efallai bod ei chynnwys ar gasgliad fel hyn yn cyd-fynd gyda thema’r geiriau; myfyrdod ar fod ar wahân mewn un ffordd neu’r llall.
“Ymgais sydd yma i greu darlun o’r ofn a’r dryswch sy’n gallu cydio’n llawer rhy hawdd ar adegau, wrth i bopeth ymddangos fel petai nhw’n gwibio heibio, cyn i chi gael cyfle i wisgo’ch ‘sgidiau.
“Fe ddatblygodd hi’n drac trymach o ran sain na’r disgwyl wrth recordio; Arcade Clash oedd y ‘working title’, a gellir cyfeirio ati fel brechdan indi-roc y 00au ar fara o bync” ychwanega Jo.
Mae ‘na fideo i gyd-fynd â’r trac ar lwyfannau Lŵp sydd wedi’i gyfarwyddo gan Nico Dafydd.
Record: I KA CHING X
Mae wedi bod yn farathon o senglau newydd gan label Recordiau I KA CHING ers dechrau’r flwyddyn wrth iddynt ryddhau sengl wythnosol gan artist gwahanol ers diwedd Ionawr.
Yr olaf o’r rhain oedd ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ gan Y Cledrau a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, a heddiw mae’r holl gyfres o draciau’n cael eu rhyddhau’n swyddogol ar ffurf albwm sydd allan ar record feinyl.
Casglad o un cân ar bymtheg i ddathlu pen-blwydd label recordiau I KA CHING yn ddeg oed ydy I KA CHING X. I’r rhai ohonoch chi fu’n gwrando ar Radio Cymru neithiwr, mae’n debyg y byddwch chi wedi clywed pob o’r traciau’n cael eu chwarae ar raglen arbennig gan Huw Stephens.
Y trac cyntaf i’w ryddhau fel sengl oddi ar y casgliad oedd cyfyr Candelas o ‘Y Gwylwyr’ gan Brân oedd yn cynnwys Nest Llywelyn o’r band o’r 1970au yn canu ar y fersiwn newydd.
Wedi hynny daeth ‘Trai’ gan Gwenno Morgan, ail-gymysgiad Carcharorion o ‘Y Milltiroedd Maith’ gan Steve Eaves, ‘Sara’ gan Glain Rhys, ‘Cont y Môr’ gan Blind Wilkie Mcenroe, ‘Gwingo’ gan Ffracas, ‘Morfydd’ gan Blodau Papur, ‘Canu Gwlad’ gan Yr Eira, ail-gymysgiad Nate Williams o ‘Dal ar y Teimlad’ gan Mared Williams, ‘Chwalu’r Hud’ gan Serol Serol, ‘Nia’ gan Geth Vaughn, ‘Mabli’ gan Siddi, ‘Targed’ gan Dienw, ‘Yr Enfys’ gan Griff Lynch, ail-gymysgiad Sywel Nyw o ‘Red Astair’ gan Cpt Smith, a ac yn olaf wrth gwrs ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ gan Y Cledrau.
Mae wedi bod yn ffordd dda o gynnal momentwm wrth arwain at ddyddiad rhyddhau’r albwm, ond mae’n siwr bydd criw I KA CHING yn falch o’r saib o ryddhau sengl newydd bob wythnos, a gweld y casgliad allan o’r diwedd.
Er hynny, a’r ffaith bod cyrraedd penllanw fel hyn yn gyfle i edrych yn ôl, mae rheolwyr y label dal i edrych tua’r dyfodol yn barod.
“Mae’n anodd credu bod ‘na ddeg mlynedd wedi pasio er i ni gychwyn y label, ac allai wir ddim egluro pa mor falch yda ni o allu bod wedi cyd-weithio efo gymaint o artistiaid anhygoel” meddai Gwion Schiavone, sef sylfaenydd ac un o reolwyr Recordiau I KA CHING.
“Mae’n gwestiwn amhosib pan fydd rhywun yn gofyn beth yw fy hoff release neu artist o’r label, ond yr ateb onest yw ‘yr un diwethaf i ni ryddhau’ oherwydd y mwynhad da ni yn cael efo pob un.
“Felly mwynhewch y casgliad yma, release gorau eto gan y label… am y tro beth bynnag. Ymlaen i’r ddegawd nesaf!”
Yn yr un modd, mae’n amhosib i ni ddewis hoff drac o’r casgliad newydd, felly dyma fynd nôl i’r man cychwyn a’r sengl gyntaf a ryddhawyd, sef un Candelas a Nest Llywelyn. Mae’n gyfle eto i rannur fideo trawiadol o ‘Y Gwylwyr’ a gyhoeddwyd gan Lwp hefyd!
Artist: Kizzy Crawford
Artist sydd wedi bod yn hynod o brysur a chynyrchiol yn ddiweddar ydy Kizzy Crawford.
Dim ond cwta chwe mis sydd ers i Kizzy ryddhau ei halbwm diwethaf, Rhydd, a nawr mae nôl gydag albwm newydd arall sydd allan heddiw.
Cariad y Tir ydy enw’r record hir newydd ac mae allan ar label Recordiau Sain.
Er hynny, mae’r ddau gasgliad yn wahanol iawn, fel yr eglura’r artist dawnus o Ferthyr…
“Dyma gasgliad o ganeuon gwerin ac emynau Cymreig sydd wedi bod yn agos at fy nghalon ar wahanol adegau o fy mywyd ac sydd wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi wrth dyfu lan yng Nghymru” meddai Kizzy.
“Maen nhw’n ganeuon sydd wedi fy helpu i weld pa mor brydferth yw’r tir a’r bywyd, yr harddwch, y natur, yr iaith, y gymuned a’r gerddoriaeth sy’n ffynnu arno ac hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor arbennig yw’r cariad sy’n cael ei ddangos at y tir a’r cariad y gall y tir ei ei roi yn ôl i ni.
“’Dwi wedi recordio’r caneuon dros gyfnod a’r trefniannau yn amrywio o rai gyda sain mwy traddodiadol, fel ’dwi’n cofio o fy nyddiau ysgol neu’r Eisteddfod, i rai gyda naws mwy amgen.”
Mae’r albwm newydd yn amlwg bwysig iawn i Kizzy ar lefel bersonol, ac yn dweud cyfrolau am ei hunaniaeth.
“Fel person ifanc a oedd yn aml yn teimlo’n wahanol i eraill o fy nghwmpas, oherwydd lliw fy nghroen a fy nghefndir Seisnig a Bajan, roedd recordio’r caneuon yma yn bwysig, gan eu bod yn fy atgoffa, er fy mod wedi cael fy ngeni yn Lloegr, fy mod i wedi cael fy magu yng Nghymru ac wastad wedi cael fy amgylchynu â’r diwylliant Cymreig.
“Roeddwn yn ddisgybl mewn ysgolion Cymraeg gan ddysgu, siarad a chanu yn Gymraeg. Treuliais flynyddoedd fy mhlentyndod a fy ieuenctid cynnar yn byw mewn tair ardal wahanol a hynod o brydferth o Gymru ac erbyn hyn rydw i’n cyfansoddi fy nghaneuon yn y Gymraeg ac yn gwneud fy mywoliaeth yn bennaf drwy’r Gymraeg.
“Felly rydw i wedi uniaethu â Chymru ac wedi teimlo fel Cymraes ar hyd y blynyddoedd ac mae recordio’r caneuon ar yr albym yma yn ffordd i mi gael rhoi rhywbeth yn ôl a dangos fy ngwerthfawrogiad i’r tir a’r wlad sydd wedi rhoi cymaint i mi.”
Fel gyda Rhydd, Kizzy sydd wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu holl ganeuon Cariad y Tir ei hun yn ei stiwdio gartref yn ogystal â chwarae’r holl offerynnau.
Un Peth Arall: Cyfres gigs Gwenno
Mae Gwenno ar fin dechrau cyfres o gigs i hyrwyddo ei halbwm stiwdio diweddaraf, Tresor.
Bydd ei chyfnod prysur o gigio’n dechrau penwythnos nesaf gyda set ar lwyfan y ‘Sea Change Festival’ yn Nyfnaint ar 28 Mai.
Yn fuan wedyn, bydd cyfle i’w gweld ym Mhort Talbot fel rhan o ŵyl ‘In it Together’ ar 3 Mehefin.
Hyd yma mae 16 o gigs wedi’u cadarnhau gan yr artist o Gaerdydd dros yr haf, a’r cyfan yn dod i ben yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar 30 Medi.
Tresor, sydd allan ar 1 Gorffennaf, ydy trydydd albwm llawn Gwenno gan ddilyn llwyddiant ei halbwm Cymraeg cysyniadol, Y Dydd Olaf, a’r record Gernyweg Le Kov, a greodd argraff enfawr.
Fel Le Kov, record gyfan gwbl yn yr iaith Gernyweg ydy Tresor, ac fe’i ysgrifenwyd yn St Ives yng Nghernyw ychydig cyn y clo mawr yn 2020.
Mae ambell un o’r traciau eisoes ar safle Bandcamp Gwenno fel cyfle i gael blas o’r albwm, gan gynnwys y teitl drac…