Gig: Gigs Tŷ Nain 5 – Gwilym, Elis Derby, Hana Lili + Lelog – 21/10/22
O ystyried ei bod hi’n benwythnos digon di-nod ganol mis Hydref mae’n dipyn o benwythnos o ran gigs.
Yn gyntaf, mae’n rhaid rhoi sylw i Ŵyl Sŵn sydd yn ôl yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Mae’r cyfan yn dechrau heno ac mae llwyth o artistiaid yn perfformio ar mewn lleoliadau amrywiol yn y brifddinas rhwng hynny a nos Sul.
O ran artistiaid Cymraeg yn benodol, mae’r rhestr o enwau sy’n perfformio’n cynnwys Omaloma, Sŵnami, Greta Isaac, Hana Lili, Breichiau Hir, Eädyth + Izzy Rabey, HMS Morris, Mellt, Adwaith ac AhGeeBee.
Yna os drown ni ein golygon i ben arall y wlad, mae criw Gigs Tŷ Nain wrthi eto ac yn cynnal eu pumed digwyddiad yn y Galeri, Caernarfon heno.
Mae’n glamp o lein-yp ganddyn nhw fel y byddech chi’n disgwyl – Gwilym ydy’r prif atyniad ggyda Elis Derby’n gefnogaeth ynglŷn â Hana Lili a’r grŵp newydd cyffrous o’r Bala, Lelog.
Cân: ‘Blas y Diafol’ – Popeth
Mae angen mwy o bop Cymraeg, a dyna’n union ydy nod prosiect cerddorol diweddaraf Ynyr Roberts, Popeth.
Heddiw ydy dyddiad ryddhau sengl ddiweddaraf y prosiect newydd y gŵr sy’n fwyaf cyfarwydd i ni fel aelod o’r ddeuawd Brigyn.
Bwriad Popeth ydy rhoi pwyslais ar gydweithio i gynhyrchu pop Cymraeg i’r byd a ‘ Blas y Diafol’ ydy enw’r sengl sydd allan heddiw.
Ar gyfer y trac yma mae Ynyr wedi cyd-weithio gyda Bendigaydfran (Lewis Owen) ac rydym yn gweld y prosiect yn symud i fyd bywiog, secwinau-lliwgar, Europop.
Dyma ydy trydedd sengl Popeth, sydd wedi ei chyd-ysgrifennu ac yn cael ei chanu gan Bendigaydfran. Ar gyfer y ddau drac cyntaf felgydweithiodd Ynyr gyda Martha Grug a Kizzy Crawford.
Mae cerddoriaeth Pop Synth fel y mae Popeth yn ei greu wedi cael adfywiad yn ddiweddar gydag artistiaid byd enwog fel Dua Lipa, Charli XCX a Christine and the Queens yn llwyddiannus iawn. Bwriad Popeth ydy ysgogi adfywiad o’r fath yn iaith y nefoedd hefyd.
Artist: Sister Wives
Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf, mae Sister Wives wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd wythnos diwethaf
‘O Dŷ i Dŷ’ a ‘Streets at Night’ ydy enw’r traciau diweddaraf i ymddangos gan ganddynt ac maent yn dameidiau i aros pryd nes eu halbwm cyntaf, Y Gawres, fydd allan ddydd Gwener nesaf.
Daw’r sengl ddwbl yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau gan y grŵp sydd wedi cael derbyniad ardderchog hyd yn hyn, gan arwain ar ymddangosiadau gan Sister Wives mewn gwyliau ar draws y DU dros yr haf.
Wedi’u hysbrydoli gan fytholeg Gymreig, mae eu cerddoriaeth yn archwilio cymysgedd gyfoethog o seicedelia, gwerin, post-pync, garej a glam roc y 70au. Cyhoeddodd Sister Wives yn ddiweddar y bydd eu halbwm cyntaf yn cael ei ryddhau ar 28 Hydref trwy label Recordiau Libertino.
Mae’r trac newydd ‘O Dŷ i Dŷ’ yn sôn am arferiad gwerinol Cymraeg De Cymru, Y Fari Lwyd. Mae’r gân yn trafod y traddodiad ac yn cwestiynu a yw hi wedi cael ei phriodoli’n ddiwylliannol, ac os ydyw, a yw hyn yn beth drwg ai peidio.
“Mae’r gân yn cwestiynu a yw hyn yn ffordd o ddathlu diwylliant Cymreig neu’n fath o briodoldeb diwylliannol” meddai’r band.
“Mae’n sôn sut ‘mae’r gaseg yn rhedeg yn rhydd, gadewch i ni weld lle mae hi’n glanio’ ac yn gofyn i bobl fyfyrio a yw’r rhai sydd wedi atgyfodi’r traddodiad mewn gwledydd eraill yn euog o ddwyn ei sgerbwd.”
Mae ‘Streets at Night’ yn ddisgrifiad llythrennol, gweledol o sut y mae’n teimlo i ofni am eich bywyd wrth gerdded yn y nos.
Maent yn sicr yn draciau sy’n codi chwant am fwy gan y band ôl-bync o Sheffield, sy’n ddelfrydol gyda’r record hir yn glanio wythnos nesaf wrth gwrs!
Dyma fideo ‘O Dŷ i Dŷ’ sydd wedi’i gyfarwyddo a golygu’r gan Sian Adler a Lewys Mann ar gyfer Lŵp:
Record: Gwynfyd – Neil Rosser a’i Bartneriaid
Roedd Y Selar yn helpu trefnu gig mawr yn Aberystwyth penwythnos diwethaf fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Brifysgol yno’n 150 oed.
Heidiodd cannoedd o gyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a jyst pobl sy’n hoffi cerddoriaeth i Ganolfan y Celfyddydau i fwynhau perfformiadau gan lwyth o fandiau ac artistiaid oedd yn gyn-fyfyrwyr yn Aber.
Yn eu mysg roedd Los Blancos a Pwdin Reis – dau fand cyfoes sydd wedi bod yn ddigon prysur ac amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Ac mae cysylltiad teulol rhwng y ddau fand yma gan fod gitarydd a chanwr Los Blancos, Gwyn Rosser, yn fab i gitarydd Pwdin Reis, ac un o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg, Neil Rosser.
Un o uchafbwyntiau’r noson oedd gweld Neil yn ymuno gyda Los Blancos ar y llwyfan ar ddiwedd y gig i berfformio cân gyda band ei fab. Yn enwedig wrth i Neil anghofio’i gitâr a gorfod benthyg un o rai Gwyn!
Ymunodd Neil i ganu ‘Ar y Bara’, sef un o’i ganeuon ei hun sydd wedi bod yn rhan o set Los Blancos yn y gorffennol.
Rhyddhawyd ‘Ar y Bara’ ar albwm Gwynfyd a ryddhawyd ym 1994. Hon oedd trydydd record hir Neil, a’i gyntaf ar label Crai (Sain) ar ôl rhyddhau cynnyrch ar label Ankst cyn hynny. Roedd hefyd yn esgor ar gyfnod mwyaf cynhyrchiol y cerddor rhwng 1994 a 1999 pan ryddhaodd bedwar albwm.
Os ydych chi’n gyfarwydd â gwaith Neil, yna byddwch yn gyfarwydd iawn ag ochr chwareus a llawn hwyl Gwynfyd.
Mae’n glamp o albwm sy’n cynnwys pymtheg o draciau, ac ymysg rheiny mae rhai o’i ganeuon mwyaf cyfarwydd fel ‘Ni Cystal a Nhw’, ‘Ochor Treforys O’r Dre’ a’i addasiad o ‘Brown Eyed Girl gan Van Morrison, ‘‘Merch o Port’.
Ond, er nad yw’n un o’r caneuon sy’n cael ei chwarae amlaf ar y radio, mae ‘Ar y Bara’ fyny yna gyda’r goreuon o ganeuon Rosser. Dyma hi:
Un Peth Arall: Llyfr caneuon Meic
Newyddion gwych i ffans Meic Stevens wythnos yma sef bod llyfr arbennig newydd ar y ffordd fydd o ddiddordeb mawr.
‘Meic Stevens: Caniadau’ ydy enw’r gyfrol newydd sydd allan gan wasg Dalen ac mae’n cynnwys cerddi a geiriau caneuon un o gerddorion a chyfansoddwyr amlycaf yr iaith Gymraeg.
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ar 3 Tachwedd.
Mae’r llyfr newydd yn croniclo oes gyfan o gerddi Meic ynghyd â’i ganeuon sydd wedi bod yn drac sain i’r genedl ers dros 60 o fynyddoedd.
Dyma’r tro cyntaf erioed i eiriau ei gerddi a’i ganeuon, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gael eu casglu ynghyd rhwng dau glawr. Mae hynny’n briodol wrth i’r cerddor ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed eleni.
Mae gwefan arbennig wedi’i chreu i gyd-fynd â’r gyfrol newydd ac mae modd archebu copïau o’r llyfr a thocynnau i’r lansiad ar y wefan honno.
Mae Y Selar yn cyd-weithio gyda Dalen i ddod â chynnwys arbennig i chi cyn lansiad felly cadwch olwg!