Pump i’r Penwythnos – 21 Ionawr 2022

Gig: Hanes Cerddoriaeth Ddawns Cymru – Curadur @ Lŵp

Er bod cyfyngiadau’n llacio rhywfaint yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r calendr gigs yn dechrau llenwi eto, digon prin ydy’r gigs byw sy’n digwydd penwythnos yma. 

Cyfle arall i rannu rhywbeth ar-lein gyda chi felly, ond hefyd edrych nôl ar gig go iawn a ddigwyddodd ddiwedd mis Tachwedd. 

Roedd y rhaglen Curadur diweddaraf ar S4C wythnos diwethaf, a thro’r DJ a chynhyrchydd electronig, Gwion ap Iago o’r grŵp Roughion oedd hi i ddewis artistiaid ar gyfer y darllediad. 

Byth yn un i wneud pethau ar raddfa fach, penderfynodd Gwion fynd ati i gynnal clamp o gig yng nghanolfan celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd er mwyn recordio’r bennod. 

Roedd dau o fandiau chwedlonol a phwysicaf y sin electronig Gymraeg yn perfformio, sef Llwybr Llaethog a Tŷ Gwydr, ynghyd ag enwau mwy diweddar sef Esther a Sachasom, ac wrth gwrs Roughion eu hunain. 

Mae traciau o’r noson / rhaglen gan Tŷ Gwydr, Llwybr Llaethog, Roughion a Sachasom ar sianel YouTube Lŵp nawr. 

Dyma Roughion, gyda Mali Hâf, yn perfformio ‘Uwch Fioled’: 

 

Cân:  ‘’sbrydion’ – Rufus Mufasa

Mae’r cerddor, rapiwr a bardd talentog, Rufus Mufasa, wedi rhyddhau sengl newydd sydd ar gael yn ddigidol ar ei safle Bandcamp

Yn ôl Rufus, daw’r trac o’i halbwm newydd sydd ar y gweill ac a fydd yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Trigger Warnings’. 

Efallai bydd alaw’r gân yn gyfarwydd i rai hefyd gan mai dyma ydy teitl-drac ail gyfres ‘Enid a Lucy’ sy’n darlledu ar S4C ar hyn o bryd. 

Rydan ni’n hoffi hon, a gobeithio y byddwch chi hefyd. 

 

Record: Deuddeg – Sywel Nyw

Go brin bod angen i ni sôn gormod am brosiect uchelgeisiol Sywel Nyw dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Yn gryno, ar ddechrau 2021 gosododd Sywel Nyw her i’w hun i ryddhau sengl newydd bob mis yn ystod y flwyddyn, gan gyd-weithio gydag artist gwahanol ar bob trac. 

Ymddangosodd y diweddaraf o’r senglau hyn, ‘Machlud’, ar 7 Ionawr a gwestai olaf Sywel Nyw oedd ei alter ego, Lewys Wyn. 

Mae’r prosiect yn sicr wedi creu argraff, ac mae’r momentwm yn parhau wrth i Sywel Nyw ryddhau’r casgliad cyfan o senglau ar ffurf albwm heddiw, dan yr enw Deuddeg. 

Mae Deuddeg yn gasgliad eclectig o senglau, ac wrth eu casglu ynghyd maent yn creu albwm crefftus, sy’n crisialu 2021 i Sywel Nyw. 

O guriadau dawns ffyrnig ‘Amser Parti’ gyda Dionne Bennett i synau melancolig a hynaws, ‘Bonsai’ gyda Glyn Rhys-James. 

Yna cewch ganeuon mwy breuddwydiol megis ‘Rhwng Dau’ gyda Casi Wyn a geiriau gonest ac amrwd Lauren Connelly yn ‘10/10’

Y newyddion gwych pellach ydy bod yr albwm yn cael ei ryddhau ar ffurf feinyl nifer cyfyngedig, ynghyd â chrys t arbennig o ‘10/10 a ‘Bonsai’. Mae modd archebu rhain ar wefan y label Lwcus T

Dyma’r arddechog ‘10/10’: 

 

Artist: Parisa Fouladi

Mae’r Selar bob amser yn hapus i weld rhywbeth newydd gan y gantores dalentog Parisa Fouladi, felly roedden ni wrth ein bodd i weld fideo newydd yn ymddangos ganddi wythnos diwethaf. 

Fideo ar gyfer ei sengl diweddaraf ydy hwn, sef ‘Cysgod y Golau’ a ryddhawyd ar 26 Tachwedd 2021

Dyma sengl ddiweddaraf prosiect unigol y gantores Gymreig-Iranaidd, Elin Fouladi, sydd wedi perfformio dan yr enw El Parisa yn y gorffennol, ac sydd hefyd yn aelod o’r grŵp pop siambr, Derw. 

Cyn hyn fe ryddhaodd ei sengl gyntaf fel Parisa Fouladi, sef ‘Achub Fi’, ym mis Hydref 2020

Mae’r fideo ar y gweill ers yr oedd hi’n paratoi i ryddhau’r sengl yn ôl Elin. 

“Nes i ddechre recordio footage o gwmpas Rhydymain a Dolgellau tua mis Tachwedd” eglura’r gantores. 

“Mae’r gân wedi ei seilio ar atgofion plentyndod yn chwarae yng nghaeau fy nhaid yn fferm Tŷ Du yn Llanuwchllyn. Fysa wedi bod yn ideal ffilmio yn fane, ond nes i jyst defnyddio’r footage o Dol a Rhydymain yn y diwedd achos oedd o’n gweddu be o’n i isio’n weledol, ac yn atgoffa fi lot o’r ardal o gwmpas fferm taid.” 

Dyma’r fideo newydd: 

 

Un Peth Arall: Gruff Rhys a’r grŵp Twareg

Tybed faint o ddarllenwyr Y Selar sydd wedi clywed am yr iaith Twareg? Dim llawer fyswn i’n dychmygu, ond diolch i Gruff Rhys mae cyfle i ni gyflwyno bach o gerddoriaeth yn y iaith honno i chi penwythnos yma. 

Mae Gruff wedi cyfrannu at sengl newydd sydd wedi’i ryddhau gan y grŵp Twareg o’r enw Imarhan. 

‘Adar Newlan’ ydy enw’r gân a ryddhawyd wythnos diwethaf ac mae’n cael ei chanu yn yr iaith Gymraeg a Tamasheq, sef fersiwn o’r iaith Twareg sy’n cael ei siarad gan lwythi Nomadig mewn rhannau o Ogledd Affrica. 

Grŵp 5 aelod ydy Imarhan a daw’r trac newydd o’u trydydd albwm stiwdio, ‘Aboogi’ sy’n cael ei ryddhau ar 28 Ionawr ar label City Slang. 

Bu i Gruff ysgrifennu a recordio’r gân gyda Imarhan yn Stiwdio Aboogi, sef  stiwdio’r grŵp yn Tamanrasset yn Algeria. Gellir gwylio fideo ar gyfer y trac ar-lein nawr. 

Dyma’r fid  ar gyfer ‘Adar Newlan’: