Gig: Candelas, Y Cledrau – Plas Coch, Y Bala – 23/04/22
Ambell gig bach da o gwmpas penwythnos yma.
Yn y brifddinas heno mae cyfle i weld Candelas yng Nghlwb Ifor Bach gyda chefnogaeth gan Dienw a Stafell Fyw.
Mae ‘na glamp o gig ben arall y wlad heno hefyd, a hynny yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Band Pres Llareggub ydy’r prif atyniad, ond gyda chefnogaeth o’r radd flaenaf gan Mei Gwynedd.
Mae Candelas yn ôl gyda bang penwythnos yma gan eu bod nhw’n gigio eto nos fory ar eu stepen drws yn y Plas Coch, Y Bala gyda chefnogaeth gan Y Cledrau.
Cân: ‘Mabli’ – Siddi
Grêt i weld Siddi yn ôl gyda sengl newydd fel rhan o’r casgliad i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
‘Mabli’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd brawd a chwaer, Osian a Branwen Williams, sydd allan ers wythnos diwethaf.
Rydan ni wedi arfer clywed llais swynol Branwen yn bennaf ar ganeuon Siddi, ond llais bron mor swynol Osian sy’n arwain ar hon.
Osian hefyd sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth werinol-ambient ‘Mabli’.
Mae ‘Mabli’ yn cael ei chyflwyno i ferch fach o’r un enw, am fod ei chwaer Buddug yn meddwl fod y gân ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor yn sôn amdani hi!
Record: Okay, Cool – The Mighty Observer
Newyddion da bod The Mighty Observer yn paratoi i ryddhau ei EP ddydd Gwener nesaf.
Under The Open Sky ydy enw’r EP newydd gan brosiect unigol y cerddor Garmon Rhys sydd hefyd yn aelod o’r grŵp Melin Melyn.
Dyma’r ail EP i The Mighty Observer ar label Recordiau Cae Gwyn, felly mae’n gyfle da i ni fwrw golwg nôl ar y cyntaf sef Okay, Cool a ryddhawyd ddiwedd mis Hydref.
Denodd yr EP cyntaf ganmoliaeth a chefnogaeth radio eang, gyda’r caneuon yn cael eu chwarae ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio London a BBC Radio Wales.
Cafodd hefyd ei chwarae ar y radio yn yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Efrog Newydd a Chanada.
Ysgrifennodd a recordiodd Garmon Okay, Cool mewn stiwdios DIY yng Nghymru a Llundain.
Roedd yr EP cyntaf ar Cae Gwyn yn dilyn record fer arall, Gweld y Byd, a ryddhawyd ganddo ar ddechrau 2021, ynghyd â chyfres o senglau a ymddangosodd yn 2020 sef ‘Diflannu’ a ‘Drifting’ ym mis Medi, ‘Superman Daydream’ ym mis Hydref a ‘Niwl’.
Dyma drac olaf Okay, Cool, sef ‘Blodau Sidan’:
Artist: Elis Derby
Ffans mawr o Elis Derby ym yn Selar HQ felly mae’n dda ei weld yn ôl gyda sengl ddwbl newydd heddiw.
‘Disgo’r Boogie Bo’ a ‘Gadawa Fi Mewn’ ydy enw’r traciau newydd ganddo.
Os gofiwch chi, fe ryddhaodd Elis ei albwm cyntaf dan yr enw ‘3’ ar ddiwedd Ionawr 2020…ac rydan ni gyd yn gwybod beth ddigwyddodd yn fuan wedi hynny!
Yn anffodus, doedd dim modd i Elis gigio a hyrwyddo’r albwm gymaint ag y byddai wedi dymuno, er iddo ddyfalbarhau gorau posib dan gyfyngiadau’r pandemig, ac mae’n deg dweud ei fod yn un o’r artistiaid mwyaf bywiog o ran manteisio ar y llwyfannau digidol dros y cyfnod hwnnw.
Yn wir, aeth Elis a’i ffrindiau ati i greu fersiynau unigryw o themâu cerddorol rhaglenni chwedlonol fel ‘The A Team’, ‘Hotel Eddie’ a ‘Tipyn o Stad’ a datblygodd hynny i ganeuon cyfan yn y man.
Y canlyniad oedd yr albwm aml-gyfrannog cyfan o cyfyrs o ganeuon Cymraeg enwog o dan yr enw Ciwb wrth gwrs.
Wedi’i ysbrydoli gan y profiad, aeth Elis ymlaen i gynllunio, ysgrifennu a recordio ei ail albwm yn stiwdio Sain – a dyma ryddhau’r sengl ddwbl cyntaf oddi ar y casgliad, fydd allan dros yr haf.
Roedd gig lansio’r sengl ddwbl neithiwr y Glôb, Bangor, ac mae cyfle pellach i weld Elis yn fyw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 21 Mai.
Bydd sengl ddwbl arall yn dilyn yn y dyfodol agos a bydd dyddiad rhyddhau’r albwm yn cael ei gyhoeddi ar yr un pryd.
Un Peth Arall: Newyddion am sengl ac albwm Kizzy
Newyddion da wythnos yma wrth i label Recordiau Sain ddatgelu bod sengl newydd ar y ffordd gan Kizzy Crawford ddydd Gwener nesaf, 29 Ebrill.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae newyddion hyd yn oed gwell y gallwn ni ddisgwyl albwm ganddi’n fuan iawn hefyd.
‘Cân Merthyr’ ydy enw’r trac newydd gan Kizzy fydd allan wythnos nesaf, ac mae’n flas cyntaf o albwm diweddaraf y ferch o Ferthyr sef Cariad y Tir fydd yn cael ei ryddhau ar 20 Mai.
Daw’r cynnyrch newydd gan Kizzy’n fuan iawn ar ôl iddi ryddhau ei halbwm diwethaf, Rhydd, ar label Sain ddiwedd mis Tachwedd.
Albwm o ganeuon gwerin ac emynau Cymreig ydy Cariad y Tir felly rhywbeth bach gwahanol gan y ar artist amryddawn.
Dyma’r trac ‘Rhydd’: