Gig: Symud Trwy’r Haf – 28/07/22
Does ‘na ddim llawer yn curo gig mewn castell yn nagoes? Go brin fod llawer o leoliadau mwy epig i artistiaid berfformio ynddyn nhw. Ac mae ‘na glamp o gig mewn castell yn Aberteifi heno er mwyn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth label enwocaf y dref.
Ydy, mae label Recordiau Fflach yn dathlu 40 mlynedd ers ffurfio, ac ar ôl colli dau sylfaenydd y label, sef y brodyr Richard a Wyn Jones, llynedd mae’r achlysur hyd yn oed yn fwy arwyddocaol.
Mae tipyn o lein-yp ar gyfer y dathliad hefyd gyda rhai o artistiaid amlycaf y label yn dod ynghyd i berfformio. Mae rhain yn cynnwys un o grwpiau mwyaf Cymru yn y 90au cynnar, Jess a’r grŵp roc trwm o Abertawe, Crys. Hefyd yn perfformio bydd y ferch leol, Einir Dafydd a’r hynod boblogaidd Catsgam.
Dyma un o ganeuon gorau Jess, ‘Ishe Mwy’:
Cân: ‘Cofleidio’r Golau’ – Kathod
Mae’r prosiect cerddorol cydweithredol, Kathod, wedi rhyddhau eu sengl newydd heddiw sef ‘Cofleidio’r Golau’.
Mae’r trac newydd yn dilyn cwpl o senglau blaenorol gan y grŵp sy’n disgrifio eu hunain fel un ‘di-ddiffiniad’ – rhyddhawyd ‘Syniad o Amser’ ganddynt yn Rhagfyr 2020 gyda ‘Gwenyn’ yn ddilynant llynedd.
Yn ôl Kathod, sydd ag aelodaeth sy’n newid trwy’r amser, blas cyntaf o’r hyn sydd i ddod ar eu EP cyntaf ydy ‘Cofleidio’r Golau’ a bydd hwn allan yn fuan.
Fel rhan o brosiect diweddaraf Kathod, mae 14 o ferched creadigol Cymru wedi ynghyd i greu’r EP newydd sbon.
Yr artistiaid sydd wedi bod wrthi’n creu’r trac diweddaraf gan Kathod ydy Malan, Gwen Mairi, Beth Pugh a Manon Dafydd.
Mae ‘Cofleidio’r Golau’ yn ddarn o gerddoriaeth sy’n archwilio themâu fel treigl amser a munudau tawel y byd naturiol.
Dyma chi drac sy’n cymysgu alawon jazz gyda sain telyn werinol, ond gyda cherddoriaeth R&B a phop yn rhoi sylfaen i’r gân.
Artist: heddlu
Mae’n grêt i weld cerddor hynod o dalentog yn ôl gyda phrosiect newydd wedi cyfnod hir o saib.
Gwnaeth Rhodri Daniel o Lanbed ei farc yn gyntaf fel aelod o’r band ysgol ardderchog, Java, a gafodd lwyddiant yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn 2004.
Wedi hynny aeth ymlaen i ffurfio’r band llwyddiannus iawn, Estrons a gafodd ganmoliaeth o sawl cyfeiriad gan gynnwys cyhoeddiadau cerddoriaeth amlwg NME, Vice, DIY a Clash.
Ar ôl i Estrons chwalu yn 2019, bu’n rhaid i Rhodri gymryd egwyl o gerddoriaeth oherwydd problem gyda’i glyw, ond nawr mae’r gŵr o Geredigion yn ôl gyda’i brosiect newydd, heddlu.
‘Auto-Da-Fé’ ydy enw’r sengl newydd gan heddlu sydd allan heddiw, a bydd albwm cyntaf y prosiect yn dilyn wythnos nesaf.
Mae’n grêt i weld Rhodri yn ôl wedi cyfnod pryderus iddo o safbwynt ei iechyd, a phroblem benodol oedd wedi datblygu o ganlyniad i’w yrfa gerddorol.
Datblygodd problem gyda chlyw y cerddor wedi blynyddoedd o deithio a gigio gan arwain yn y pen draw at ddiagnosis o golled clyw, tinitws a sensitifrwydd difrifol i sŵn.
Roedd yr effeithiau mor ddifrifol fel nad oedd Rhodri yn gallu bod yn yr un ystafell â phobl eraill, gadael y tŷ na chwarae cerddoriaeth am bron i flwyddyn.
Er hynny, mae wedi gweithio’n galed ar adfer ei iechyd, ac ar ôl cael ei gynghori i fyn allan i’r awyr agored i gynorthwyo gyda hynny, fe gychwynnodd ar daith gerdded dri mis yn ymestyn dros 900 milltir ar hyd arfordir Cymru gyfan.
Yn ystod y cyfnod yma cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gerddoriaeth yn ei ben, gyda’r bwriad o recordio a rhyddhau fel prosiect newydd ar ôl dychwelyd. Cynnyrch heddlu ydy canlyniad hynny.
Mae’r trac wedi’i enwi ar ôl yr achos a wynebodd hereticiaid a gwrthgilwyr yn ystod y chwilotiad Sbaenaidd, cyn cael ei gondemnio. Wedi’i chanu o bersbectif deublyg chwiliwr beirniadol, a’r artist ei hun, mae’r gân yn cyfleu golygfa drist a chythryblus, gan adleisio sut rydyn ni’n rhoi ein hunain ar brawf yn barhaus am y pethau rydyn ni wedi’u gwneud.
Bydd yr albwm sy’n dwyn yr enw Cantref allan ddydd Gwener nesaf, 29 Gorffennaf. Albwm cysyniadol o fath fydd hwn sy’n trafod hynt bachgen a gafodd ei olchi allan i’r môr a chael ei ddal mewn dinas fytholegol o dan y dŵr o’r enw Cantref Gwaelod.
Record: Eneidiau – Burum
Rhywbeth gwahanol fel ein dewis o record yr wythnos yma…chydig bach o jazz.
Rydan ni’n dathlu popeth math o gerddoriaeth gyfoes yma yn Y Selar, ac mae jazz cyfoes Burum yn sicr yn haeddu sylw.
Rhyddhawyd Eneidiau ddydd Gwener diwethaf, a dyma bedwerydd albwm y grŵp uchel eu parch sy’n cael ei harwain gan ddau frawd, sef y trwmpedwr Tomos Williams (Khamira, Cwmwl Tystion) a Daniel Williams ar y tenor sacs.
Aelodau eraill Burum sydd wedi cyfrannu i’r albwm newydd ydy Dave Jones ar y piano, Aidan Thorne ar y bas a Mark O’Connor ar y drymiau.
Mae ‘na un aelod newydd ar y record hefyd sef Patrick Rimes ar y pibau. Bydd enw Patrick yn gyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar fel aelod hefyd o’r band Calan.
Cafwyd blas o’r hyn oedd i ddod ar yr albwm ar ddiwedd mis Mehefin wrth i Burum ryddhau eu sengl ‘Pibddawns Dowlais’ oedd yn ddilyniant i ‘Cariad Cywir’ a laniodd ym mis Mai.
Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar record feinyl, sy’n arwyddocaol. Dyma’r tro cynta’ i Burum ryddhau albwm ar feinyl – ffurf sy’n gweddu’n berffaith i gerddoriaeth jazz.
Mae Burum yn parhau â’u harfer o gyflwyno trefniannau jazz newydd o hen alawon gwerin Cymraeg, ond cyfraniad Patrick Rimes yn ddatblygiad pellach o sŵn y band..
Recordiwyd yr albwm yn Giant Wafer Studio, Llanbadarn Fynydd, canolbarth Cymru, ar benwythnos ym mis Medi 2021 ac mae’n gyfraniad arall pwysig i jazz o Gymru, sydd â naws digamsyniol Gymreig.
Canolbwynt yr albwm yw’r trac ‘Eneidiau’ sydd wedi’i ysbrydoli gan ddylanwad celf ffoaduriaid Iddewig ar ddiwylliant Cymru (Heinz Koppel a Joseph Herman). Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys yr alaw Gymraeg ‘Bugeilia’r Gwenith Gwyn’, alawon ‘Galliard’ o Ffrainc a Lloegr ac yna harmoniau Iddewig i gloi. Mae ffliwt Patrick Rimes, sacsoffon Daniel Williams a piano Dave Jones yn dangos sut gall jazz a gwerin gyd-blethu’n naturiol yn y gân hon.
Mae’r band yn mynd i gyfeiriad gwahanol gyda fersiwn unigryw o ‘Pibddawns Dowlais’ ar ddechrau ochr B sydd wedi’i ysbrydoli gan ‘Stuff’ oddi ar albwm Miles Davis ‘Miles in the Sky’ ac i orffen cawn berfformiad epig, hollol byrfyfyr o’r hen alaw Gymraeg ‘Myn Mair’ sy’n cynnwys nifer o uchafbwyntiau naturiol o fewn y gerddoriaeth.
Bydd y band yn hyrwyddo ‘Eneidiau’ ymhellach drwy berfformio yng Nghaerdydd, Trefynwy, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, ac Aberystwyth dros yr Haf.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Pibddawns Dowlais’:
Un Peth Arall: Ar Dâp – Chroma
Mae pennod newydd o gyfres ddiweddaraf Lŵp: Ar Dâp bellach ar-lein gyda’r gwesteion arbennig Chroma.
Sesiwn fyw sydd ar y bennod yma o Ar Dâp yn ôl yr arfer ar fel rydan ni wedi hen arfer ag o erbyn hyn, mae’r grŵp roc o’r Cymoedd yn ei chwalu hi.
Ond gofal, mae rhybudd 18+ ar y set!
Mae sengl newydd Chroma, ‘Meindia’r Gap’, allan ddydd Gwener nesaf gyda’r EP Llygredd Gweledol yn dilyn ganol mis Awst.
Prif Lun: Jess