Gig: Chroma + SYBS @ Elysium Bar, Abertawe – 23/09/22
Yn ninas Abertawe mae ein prif ddewis o gig wythnos yma, ac yn benodol lleoliad Elysium Bar.
Un o’r gyfres o gigs sy’n cael eu trefnu ar y cyd gan Fenter Iaith Abertawe a Swansea Music Hub ydy hwn ac mae’n gyfle i ddal dau o fandiau roc Cymraeg mwyaf cyffrous y de, Chroma a SYBS, yn rhannu llwyfan.
Cân: ‘Yr Unig Un’ – Tom Macaulay
Mae wastad yn dda gweld artistiaid sydd wedi bod yn canolbwyntio ar gyfansoddi caneuon yn y Saesneg yn mynd ati i wneud mwy yn y Gymraeg.
Dyma’n union mae Tom Macaulay wedi gwneud dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, ac mae newydd ryddhau ei sengl Gymraeg ddiweddaraf, ‘Yr Unig Un’.
Canwr-gyfansoddwr sy’n wreiddiol o Ben Llŷn ydy Tom, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ar Ynys Môn.
Ar ôl sawl blwyddyn yn cyfansoddi a pherfformio’n bennaf yn y Saesneg, penderfynodd Macaulay fentro a rhyddhau ei sengl Gymraeg gyntaf, ‘Mwg Mawr Gwyn’, yn 2020.
Mae’r trac hwnnw wedi bod yn boblogaidd iawn, ac fe ehangwyd ei chyrhaeddiad yn 2021 wrth i’r cynhyrchydd amryddawn, Shamoniks, fynd ati i ail-gymysgu’r gân.
Mae Shamoniks eto wedi gweithio ar drac Cymraeg diweddaraf Tom, sydd, yn ôl y cerddor, yn adlewyrchiad o’i daith bywyd diweddar.
Mae’r trac hefyd allan ar y label sy’n cael ei reoli gan Shamoniks, UDISHIDO.
Artist: Kathod
Mae rheswm da i roi sylw i Kathod wythnos yma gan eu bod nhw newydd gyhoeddi fideo newydd fel rhan o brosiect Cronfa Fideos Cerddorol asiantaeth AM a llwyfan cerddoriaeth Lŵp, S4C.
Mae’r fideo diweddaraf ychydig yn wahanol i’r ddau flaenorol sydd wedi’u hariannu gan y prosiect gan ei fod yn cyfuno tair cân gan y grŵp cydweithredol.
Y tair cân dan sylw ydy ‘O Hedyn Bach’, ‘Troelli’ a ‘Cofleidio’r Golau’ ac fe gyfarwyddwyd y fideo gan Manon Wyn Jones, gyda Catrin Morris yn gynhyrchydd.
Mae Kathod yn brosiect uchelgeisiol sy’n newid aelodau a chyfranwyr yn barhaol, wedi ei eni’n wreiddiol o gyd-weithrediad Heledd Watkins, Bethan Mai ac Ani Glass yn ail rifyn y zine Merched yn Gwneud Miwsig.
Mae’r Selar wedi rhoi tipyn o sylw i Kathod wrth iddyn nhw ryddhau cynnyrch, ac fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi fideo ecsgliwsif yn cyflwyno’r kathod newydd i chi fel rhan o ôl-barti Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni…
“Dros y gwanwyn, roedd tair grŵp o wahanol gathod yn brysur yn cyfansoddi a chreu” meddai Heledd Watkins.
“Er i’r grwpiau yma fyth rhannu eu cynlluniau efo’i gilydd mae yna debygrwydd yn y canlyniadau; caneuon llawn dirgelwch yn ymdrin â themâu o natur a’r bydysawd.
“Oherwydd y tebygrwydd roedd hi’n gwneud synnwyr i ni gynnwys y tair cân yn y fideo hwn a’i ddefnyddio fel croesawiad i fyd anhygoel Kathod.”
Mae’r fideo wedi’i ffilmio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, gyda’r ddawnswraig Elan Elidyr a’r delynores Gwen Màiri yn serennu.
Mae modd gwylio’r fideo newydd ar wefan AM nawr.
Record: Dilyn Afon – Cynefin
Bu i gyfnod y pandemig chwalu ar gynlluniau gigio a theithio sawl artist a band.
Un o’r rheiny oedd y grŵp gwerin, Cynefin, oedd fod i deithio dwy flynedd yn ôl. Y bwriad bryd hynny oedd taith i hyrwyddo’r albwm ‘Dilyn Afon’ a ryddhawyd fis Ionawr 2020, ond wrth gwrs bu’n rhaid gohirio.
Y newyddion da ydy eu bod bellach wedi llwyddo i ail-drefnu’r daith a bydd cyfle i weld Cynefin yn perfformio mewn 7 lleoliad dros wythnos ar ddechrau mis Tachwedd.
Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr ydy Cynefin ac fe fu’n egluro cefndir y daith i’r Selar.
“Roedd y daith y i fod i ddigwydd yn sgil rhyddhau Dilyn Afon dwy flynedd yn nôl, ond oherwydd Covid cafodd ei gwthio yn nôl” meddai Owen.
“Byddwn yn chwarae traciau o’r albwm yn ogystal â rhoi golwg cyntaf ar ddeunydd newydd, sy’n gyffrous. Edrych ymlaen!”
Aelodau eraill y prosiect ydy Fred Davies ar yr offer taro ac Alfie Weedon ar y bas dwbl.
Wedi’i gyfareddu gan gerddoriaeth a hanes, mae’r prosiect yn rhoi llais i dreftadaeth gyfoethog Ceredigion sydd eisoes wedi mynd yn angof.
Bydd y daith yn dechrau yn Theatr Mwldan, Aberteifi yng Ngŵyl Lleisiau Newydd ar 3 a 4 Tachwedd.
Dyma’r dyddiadau’n llawn:
03 + 04 Tachwedd – Lleisiau Newydd, Theatr Mwldan, Aberteifi
05 Tachwedd – The Lost ARC, Rheadr
07 Tachwedd – Galeri, Caernarfon
08 Tachwedd – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
09 Tachwedd – Theatr y Lyric, Caerfyrddin
10 Tachwedd – Canolfan Lles Glowyr, Rhydaman
11 Tachwedd – Theatr Felinfach
A dyma’r trac sy’n cloi’r casgliad Dilyn Afon, ‘Ffarwel i Aberystwyth’:
Un Peth Arall: Gweithdy Merched yn Gwneud Miwsig @ Glan Llyn
Rydan ni’n ffans mawr o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig a phopeth maen nhw’n gwneud yma yn Y Selar.
Felly mae’n grêt i’w gweld yn ôl gyda phenwythnos preswyl arall yng Nglan Llyn Isaf ger Y Bala ym mis Tachwedd eleni.
Mae’r prosiect yn dychwelyd i ar gyfer y gweithdy diweddaraf ar ôl cynnal gweithdai tebyg yn yr un lleoliad fis Hydref 2021 ac yna ym mis Chwefror eleni.
Dyddiad y gweithdy ydy penwythnos 4 – 6 Tachwedd ac mae modd archebu lle am bris gostyngol o £49.
Prosiect Maes B i hybu mwy o ferched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ydy ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ ac mae croeso mawr i unigolion newydd neu i bobl sydd wedi bod i’r gweithdai blaenorol hefyd.
Bydd tiwtoriaid y penwythnos fis Tachwedd yma’n cynnwys Heledd Watkins o’r band HMS Morris, ynghyd â’r gantores indie-pop llwyddiannus, Hana Lili.
Mae modd bwcio lle ar y penwythnos preswyl trwy gwblhau ffurflen ar-lein nawr.