Gan ei bod hi’n benwythnos y Nadolig, rydan ni wedi penderfynu rhoi Pump i’r Pewythnos hollol wahanol i chi wythnos yma gyda phump o ganeuon Nadolig ffresh sydd wedi’u rhyddhau eleni.
A jyst i wneud pethau bach mwy diddorol, fe wnawn ni cowntdown siart Nadoligaidd ei naws efo nhw, o 5 i 1 gyda’n ffefryn ni ar frig y goeden Nadolig
Felly, yn newydd mewn yn rhif 5….
-
‘Bwrw Eira’ – Fleur de Lys
Cân Nadolig ddamweiniol yn ôl y band, ond damwain neu beidio mae wedi plesio ffans y bois o Fôn yn fawr
-
‘Amser Dolig’ – Geraint Rhys
Ddim y person amlycaf i ryddhau cân Nadolig, ond fel y byddech chi’n disgwyl gan y canwr protest cyfarwydd o Abertawe, mae ‘na neges bwysig yn hon. Ac wrth gwrs, mae ‘na fideo bach gan Geraint hefyd:
- ‘Dolig Diddiwedd’ – Elis Derby
Un arall fyddech chi ddim yn disgwyl ei weld yn rhyddhau cân Nadolig! Ond, mae hon yn drac Nadoligaidd gyda thro yn y gynffon, ac yn deyrnged i’r ‘ffilm Nadolig’ sydd wedi arwain at sawl ffrae dros y blynyddoedd, Die Hard
-
‘Eira Flwyddyn Nesa’ – Glain Rhys
Ma hon yn lyfli gan Glain Rhys wrth iddi gyd-weithio gyda Gildas i greu deuawd Nadoligaidd i’r oesau
-
‘Noson ‘Dolig Wrth Y Bar’ – Hyll
Bob hyn a hyn mae’r grŵp o Gaerdydd yn popio i’r golwg gyda thrac newydd, ac maen nhw wedi popio allan o’r cracar ar gyfer Nadolig y tro yma gyda baled fach hyfryd iawn. Yn goron euraidd ar y cyfan mae cyfraniad lleisiol yr ardderchog Katie Chroma:
Dyma fideo Lwp ar gyfer ‘Noson ‘Dolig Wrth y Bar’:
Cytuno / anghytuno gyda’r rhestr? Ddylai trac Eden neu Linda Griffiths fod yn y pump? Rhowch wybod ei barn!
Dyma restr chwarae fach efo mwy o ganeuon Nadolig Cymraeg 2022 – ydan ni wedi methu rhywbeth o’r rhestr? Rhowch wybod trwy DM neu yselar@live.co.uk
(a dyma mensh fach hefyd i gân Nadolig Ffos Goch sydd ddim ar YouTube eto)
Nadolig llawen i holl ddarllenwyr a dilynwyr Y Selar a diolch am bob cefnogaeth yn ystod 2022 x