Gig: Gŵyl Maldwyn
Mae Gŵyl Maldwyn wedi bod yn y penawdau newyddion eleni, yn bennaf gan mai nhw oedd y cyntaf i ddatgelu y byddai Yws Gwynedd yn ôl ar lwyfan dros yr haf, ac yn perfformio yno.
Ers hynny, mae Yws wrth gwrs wedi perfformio ar lwyfan Gŵyl Triban yn Eisteddfod yr Urdd Dinbych, ond bydd cryn gyffro i’w weld ym mwynder Maldwyn nos fory.
Gŵyl ddwy noson ydy hon ar dir Gwaenyngog yn Nolanog, gyda Morgan Elwy, Bwncath a Candelas yn agor y penwythnos heno.
Mae llwyth o weithgareddau i’r teulu’n ystod y dydd fory, ac yna o ddiwedd y pnawn ymlaen bydd cyfle i weld Geraint Lovgreen, Tecwyn Ifan, Kizzy Crawford, Aeron Pughe a’r Band ac wrth gwrs Yws Gwynedd yn perfformio.
Cân: ‘Atgofion’ – Tapestri
Da i weld Tapestri yn ôl gyda sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf.
Tapestri ydy’r ddeuawd Americana sydd wedi ffurfio ers Ionawr 2020, ac sy’n dod a doniau Sera Zyborska a Lowri Evans ynghyd.
‘Atgofion’ ydy enw’r trac newydd gan y ddwy, ac mae’n dipyn i diwn.
Dyma’r drydedd sengl Gymraeg gan Tapestri gan ddilyn ‘Y Fflam’ ac ‘Arbed dy Gariad’.
Mae ‘Atgofion’ wedi ysbrydoli gan hen fodryb Sera a symudodd i’r Unol Daleithiau ar ôl yr ail ryfel byd, fyth i ddychwelyd yn ôl i Gymru a gweld ei theulu eto. Cân sy’n delio â phŵer hiraeth, atyniad y môr, cariad tuag at eich gwreiddiau a’r poen o fod yn bell o adref.
Mae Tapestri hefyd wedi datgelu y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Medi 2022 yn dilyn gwanwyn a haf prysur o gigs a senglau.
Bydd nifer o gyfleoedd i weld Tapestri’n perfformio’n fyw dros yr haf eleni gan gynnwys yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Werin Caergrawnt ac yng Ngŵyl Aberjazz yn Abergwaun.
Artist: Thallo
Mae Thallo, wedi rhyddhau ei sengl Saesneg ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf.
‘Carry Me’ ydy enw’r trac hudolus o jazz / alt-pop wedi’i hysbrydoli gan brofiad personol Thallo o broblemau symud.
Thallo ydy prosiect cerddorol Elin Edwards, sy’n dod yn wreiddiol o Benygroes, ond sydd bellach wedi sefydlu ei hun yn Llundain.
Daeth i’r amlwg yn Ebrill 2019 wrth ryddhau’r sengl ‘I Dy Boced’ a gafodd ymateb ardderchog.
Mae ‘Carry Me’ yn rhagflas cyntaf o EP ddwyieithog Thallo fydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi 2022.
Thema’r EP yw stori Thallo ei hun am boen cronig, wrth iddi ysgrifennu’r caneuon roedd hi mewn gymaint o boen, yn aml yn methu â sefyll na cherdded ar ôl dioddefaint anesboniadwy oedd yn achosi poen oedd yn gwanhau ei phengliniau.
“Ysgrifennais ‘Carry Me’ yn y cyfnod clo, a oedd yn gyfnod rhyfedd o golli fy ngwaith, bywyd cymdeithasol, ac yna beth oedd yn teimlo fel colli fy nghorff i boen cyson” eglura Elin.
“Teimlais yn gwbl anobeithiol a gwelais don gyfarwydd o iselder yn agosáu. Mae ‘Carry Me’ yn ymwneud â’r union foment hon o sylweddoliad a phanig.”
Record: Byd Hen (Ystyr) – Ystyr
Mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg, ac yn rhoi sylw cyson i’r grŵp Ystyr ers iddyn nhw ymddangos gyntaf gyda thrac ar Bandcamp ym mis Mai 2020.
Rydyn ni felly’n naturiol wrth ein bodd i glywed eu bod nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf yn swyddogol heddiw!
Byd Heb (Ystyr) ydy enw record hir gyntaf y grŵp sydd wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth yn gyson ar Bandcamp ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf yn 2020.
Mae’r albwm, sy’n cael ei ryddhau’n annibynnol gan y grŵp ar eu label Curiadau Ystyr, yn cynnwys holl ganeuon y band unigryw yma a ryddhawyd dros y ddwy flynedd hynod ddiwethaf.
Therapi cathartig yr aelodau – Owain Brady, Rhys Martin, Rhodri Owen, a Pete Cass – sydd fel pawb arall wedi profi gofid, trawma, tristwch, gobaith, ac amser i ailystyried eu bywydau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ydy Byd Heb (Ystyr).
Ar un llaw, mae hynny’n digwydd ar ffurf sain trwy’r caneuon, ond hefyd yn weledol gyda’r band yn rhoi pwyslais mawr ar eu gwaith celf sy’n cael ei greu gan Pete Cass.
Prif thema y casgliad ydi ymdrechion pobl arferol i lywio drwy fywyd mewn byd sydd heb ystyr, gan dynnu ar y cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’n marwoldeb ers ddechrau’r pandemig.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol, ond bydd nifer cyfyngedig o gopïau hefyd ar gael ar ffurf CD.
Dyma’r ardderchog ‘ Tyrd a Dy Gariad’:
Un Peth Arall: Gŵyl Canol Dre yn ôl
Un ŵyl mae Y Selar wedi gweithio’n agos gyda hi, a helpu ei sefydlu, rai blynyddoedd yn ôl ydy Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin.
Wrth gwrs, mae’r digwyddiad, fel pob gŵyl fawr arall i bob pwrpas, wedi bod ar stop ers 2020 felly mae’n grêt i glywed y bydd nôl ar Barc Myrddin eleni ar 9 Gorffennaf.
Gŵyl deuluol braf ydy hon, ond mae hefyd llwyth o gerddoriaeth gwych yno ynghyd a’r gweithgareddau chwaraeon, llê, drama a mwy.
Y prif lwyfan ydy’r prif gyrchfan ar gyfer y gerddoriaeth, ac mae’r lein-yp eleni’n edrych yn gryf gyda Mari Mathias, Pwdin Reis, 50 Shêds o Lleucu Llwyd, Eädyth, Los Blancos, Al Lewis a Candelas yn cloi y diwrnod.
Dyma’r amserlen lawn ar gyfer y llwyfan: