Gig: Twmffat, Tri Hwr Doeth, Hap a Damwain – Y Ring, Llanfrothen – 26/03/22
Mae ‘na dipyn o gigs mlaen penwythnos yma – bron iawn ei bod hi’n teimlo fel penwythnos cyn Covid!
Mae ‘na swp o gigs heno, gan gynnwys Celavi a skylrk. yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi; HMS Morris ac Eädyth yn Seler, Aberteifi; a Drwmbago a Hap a Damwain yng Nghlwb Rygbi Bethesda.
Digon o ddewis nos fory hefyd gan gynnwys gig gwych yn y Bunkouse yn Abertawe gyda Mellt, Breichiau Hir a Mali Hâf, sy’n amlwg iawn ar hyn o bryd.
Ein prif ddewis ni o gigs ydy gig lansio albwm Oes Pys? gan Twmffat yn Y Ring, Llanfrothen nos Sadwrn. Mae’r albwm allan ers llynedd wrth gwrs, ond dyma’r cyfle o’r diwedd i ddathlu hynny ac mae’n addo bod yn dipyn o barti gyda’r leinyp yma!
Cân: ‘Be Bynnag Fydd’ – Sŵnami
Mae Sŵnami yn ôl gyda sengl newydd sbon sydd allan ers ddydd Gwener diwethaf.
‘Be Bynnag Fydd’ ydy enw’r trac diweddaraf gan un o grwpiau amlycaf Cymru ac mae’n ddilyniant i’r sengl ddwbl, ‘Theatr’ ac ‘Uno, Cydio, Tanio’ a ryddhawyd ganddynt yn y Gwanwyn llynedd.
Mae Sŵnami’n gwybod popeth am rym y fideo cerddoriaeth, felly dim syndod gweld bod fideo trawiadol arall i gyd-fynd â hon a ymddangosodd ar lwyfannau Lŵp, S4C ar y diwrnod rhyddhau.
Mae neges bwysig a phersonol i’r trac newydd, yn enwedig i un o’r aelodau.
“Mae ‘Be Bynnag Fydd’ yn dogfennu fy nhaith at dderbyn fy hunaniaeth” meddai Gruff Jones o’r band.
“Mae hi wedi bod yn frwydr ar adegau. Dwi wedi teimlo mor benderfynol i ffitio mewn ac roeddwn i’n ei chael hi mor anodd i agor fyny. Ond nawr, rwy’n hapusach yn dathlu fy anghydffurfiaeth. Does dim rhaid i mi guddio pwy ydw i bellach.
“Teimlais ei bod hi’n hanfodol i wynebu’r teimladau hyn oherwydd rwy’n sicr nad fi yw’r unig un sydd wedi eu teimlo.”
Bydd y rhai craff yn sylwi ar lais ychwanegol i un Ifan ar y gytgan, a llais eu cydweithiwr cyson Thallo ydy hwnnw sy’n cario prif neges y trac –“Beth bynnag sydd, beth bynnag fydd, does dim rhaid ti guddio oddi wrth y byd”.
Blacklab Films, Caerdydd sydd wedi mynd i’r afael a’r fideo gan helpu dod â syniadau’r grŵp yn fyw.
Wedi’i osod yn erbyn cefndir anhygoel ‘Bae’r Tri Chlogwyn’ yn Abertawe, gyda Linford Hydes o’r ‘Welsh Ballroom Community’, (casgliad o bobl sy’n dod â diwylliant ‘ballroom’ i fannau queer Cymru) yn serennu.
Dyma’r fid:
Record: Annwn – Mari Mathias
Mae albwm cyntaf Mari Mathias allan ers dydd Sul diwethaf, 20 Mawrth.
Annwn ydy enw record hir gyntaf y ferch o Geredigion ac mae cael ei ryddhau ar label Recordiau JigCal.
Daw’r albwm ar ôl iddi ryddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Rebel’ ym mis Chwefror ac yna teitl-drac yr albwm, ‘Annwn’, yn gynharach y mis hwn.
Magwyd Mari Mathias ym mhentref gwledig Talgarreg sydd dafliad carreg o arfordir de Ceredigion. Mae hi bellach wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn astudio gradd Meistr mewn Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu.
Roedd y gantores werin yn un o artistiaid cynllun Forté yn 2021, ond cyn hynny roedd eisoes wedi rhyddhau ei EP unigol cyntaf, ‘Ysbryd y Tŷ’, ym mis Mawrth 2020.
Mae hefyd wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ers blynyddoedd ac roedd yn aelod o’r grŵp gwerin Raffdam cyn penderfynu canolbwyntio ar ei gyrfa unigol.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Mari wedi cefnogi perfformwyr fel Gruff Rhys, Meic Stevens a Plu. Mae hi wedi perfformio ym mhobman, o Amgueddfa Sain Ffagan i Hub Fest, Gŵyl Immersed, Clwb Ifor Bach, Swansea Fringe a The Big Cwtch. Bu iddi hefyd ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol, 2019.
Wedi graddio o’r Forté Project, mae hi bellach yn perfformio ei deunydd newydd gydag ensemble newydd a chyffrous o gerddorion gwerin ifanc.
Dyma fideo’r trac ‘Annwn’:
Artist: Yr Eira
Sengl gan Yr Eira ydy’r ddiweddaraf i’w rhyddhau fel rhan o gyfres i ddathlu pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Enw’r sengl newydd ydy ‘Canu Gwlad’ ac fe’i rhyddhawyd yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 18 Mawrth.
Yr Eira ydy Lewys Wyn (llais/gitâr), Trystan Thomas (bass), Guto Howells (Dryms) ac Ifan Davies (llais/gitâr/synth) ac maen nhw wedi sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau Cymru ers sawl blwyddyn.
Byth ers rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Elin’, hyd at gynnyrch eu halbwm diweddaraf, Map Meddwl, mae’r grŵp yn adnabyddus am gyfansodd caneuon bachog, ‘pryfid clust’.
Yn wahanol i hits pop ffyzi sengl amlycaf eu halbwm, ‘Pob Nos’, mae eu sengl newydd ‘Canu Gwlad’ yn llawer mwy hamddenol gydag alawon lleisiol a synth sy’n anadlu’n araf.
“Mi recordiodd pawb ei ddarn adra, ac yna fe rois i bopeth at ei gilydd” meddai Lewys Wyn, prif ganwr Yr Eira am y trac newydd.
“Mae’r gân ei hun am gyfres o rwystredigaethau neu siomedigaethau bach – a’r syniad o ddianc rhag popeth drwy wrando ar ganu gwlad er mwyn ymlacio a dianc o’r rhwystredigaethau bach yna!”
Heblaw am wneud ambell gig rhithiol, mae’r Eira wedi bod yn gymharol dawel ers dechrau cyfnod Covid, er bod y ffryntman, Lewys Wyn wedi bod yn brysurach na neb gyda’i brosiect unigol Sywel Nyw wrth wrth gwrs.
Gobeithio bydd y sengl newydd yn esgor ar fwy o gerddoriaeth newydd gan Yr Eira dros y misoedd nesaf.
Un Peth Arall: Rhifyn newydd cylchgrawn Y Selar
Newyddion gwych i chi – mae rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi ac ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol!
Mae hwn yn glamp o rifyn da hefyd gyda neb llai na grŵp y funud, ac enillwyr tair o Wobrau’r Selar eleni, Papur Wal, ar y clawr. Mae cyfweliad swmpus gyda’r triawd rhwng y cloriau hefyd wrth iddynt drafod eu halbwm cyntaf gwych, Amser Mynd Adra.
Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda’r cerddor ifanc Mari Mathias am ei halbwm cyntaf, Annwn (gweler uchod).
Rhwng cloriau’r rhifyn newydd ceir hefyd ‘Sgwrs Sydyn’ gyda Breichiau Hir, cyfle i ddysgu mwy am ddylanwadau Tara Bandito yn ‘Pwy? Beth? Lle? Pryd? Pam?’ a sylw arbennig i skylrk., Kathod a Klust. yn eitem ‘Newydd ar y Sin’.
Mae ‘na hefyd golofn wadd gan y cyflwynydd radio Lauren Moore ynghyd â sylw i bodlediad ‘Hyfryd Iawn’
Ewch allan i chwilio am gopi yn lle bynnag rydych chi’n cael un fel arfer…neu cofrestrwch fel aelod premiwm o Glwb Selar i dderbyn copi yn y post…neu darllenwr y fersiwn digidol isod!