Pump i’r Penwythnos – 25 Tachwedd 2022

Gig: Lo Fi Jones – Llew Coch, Machynlleth – 25/11/22

A hithau’n dywydd difrifol o ddiflas, beth well na gig bach cartrefol mewn tafarn glud yng Nghanolbarth Cymru? 

Dyna’n union ydy’n dewis ni o gig penwythnos yma wrth i Lo Fi Jones berfformio yn y Llew Coch, Machynlleth

Bydd Lo Fi Jones yn enw newydd i lawer mae’n siŵr ond maen nhw ar radar Y Selar ers rhai wythnosau rŵan wedi iddyn nhw ryddhau’r sengl  ‘Weithiau Mae’n Anodd’ ar ddechrau mis Tachwedd. 

Bellach, maen nhw hefyd wedi rhyddhau eu EP newydd ‘Llanast Yn Y Llofft’ ac mae cyfle da i’w dal nhw’n perfformio’n fyw ym Mach heno. 

Cân: ‘Wyt Ti’n Clywed?’ – Sŵnami 

Y newyddion da i ffans Sŵnami ydy bod yr aros bron ar ben, a bod ail albwm y grŵp ar fin glanio. 

Ond cyn hynny, mae un sengl arall wedi gollwng fel tamaid blasus ychwanegol i aros pryd. 

‘Wyt Ti’n Clywed?’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y pumawd o Feirionnydd ac mae’n ddilyniant i’r senglau eraill sydd wedi’u rhyddhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf sef ‘Theatr’,  ‘Uno, Cydio, Tanio’, ‘Be Bynnag Fydd’ a ‘Paradis Disparu’

Sŵnamii fydd enw ail albwm y grŵp poblogaidd ac wrth ryddhau’r sengl ddiweddaraf maent hefyd wedi datgelu bydd yr albwm allan ar 2 Rhagfyr. 

Mae’r ail albwm yn un cysyniadol sy’n cyflwyno gwesty ‘Sŵnamii’, lle mae’r ystafelloedd yn cynrychioli galar, gorbryder, a dihangfa ieuenctid trwy gyfryngau ‘dream-pop’ ysgafn ac indi dwys, llawn egni. 

Ym mhob adran o’r albwm, fel pob ystafell mewn gwesty, adroddir naratif wahanol gan y band sy’n myfyrio ar eu gorffennol, eu presennol, a’u dyfodol, gan ddogfennu’r cyflwr cyson o newid a fu o’u cwmpas yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

“Mae yna ychydig o hiraeth, chwalfeydd personol… mae ystafelloedd gwahanol yn y gwesty yn straeon gwahanol ar adegau gwahanol yn ein bywydau,” esbonia Gruff Jones o’r band.

Credwch neu beidio mae saith blynedd ers rhyddhau albwm cyntaf Sŵnami – albwm a helpodd sicrhau 4 o Wobrau’r Selar i’r band poblogaidd yn Chwefror 2016. Er hynny, yn ôl y band mae’r sŵn ar yr albwm newydd yn llawer agosach at yr hyn roedden nhw wastad wedi gobeithio y byddent yn ei gynhyrchu. 

“Mae hyn yn llawer agosach at yr hyn roedd Sŵnami wastad eisiau bod, a’r ffordd yr oedden ni eisiau swnio fel hefyd,” meddai’r ffryntman Ifan Davies.

Methu aros i glywed yr albwm yn llawn, ond am y tro, dyma’r sengl newydd: 

Artist: Parisa Fouladi

Cerddor sydd wedi cael lot o sylw wythnos yma ydy Parisa Fouladi. 

Mae hynny’n rhannol diolch i’w thras Iranaidd wrth i Gymru herio Iran yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ond mae hefyd o ganlyniad i’r ffaith bod ei sengl newydd allan heddiw. 

‘Lleuad Du’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Piws, ac roedd cyfle cyntaf i bobl weld y fideo sy’n cyd-fynd â’r gân ar wefan Y Selar heddiw

Prosiect cerddorol yr artist Cymreig Iranaidd o Gaerdydd, Elin Fouladi, yw Parisa Fouladi ac mae ei dylanwadau cerddorol yn cynnwys Soul, Neo-Soul a churiadau hip-hop minimal

Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi hefyd fel aelod o’r band pob siambr, Derw ac wedi perfformio dan yr enw El Parisa yn y gorffennol. 

Mae Elin ar ganol ysgrifennu ei EP cyntaf, fydd yn barod i’w rhyddhau flwyddyn nesaf.

Mae ‘Lleuad Du’ yn dilyn senglau unigol blaenorol y gantores dalentog, sef ‘Siarad’, ‘Achub Fi’ a ‘Cysgod yn y Golau’. 

Yn gynharach eleni, perfformiodd Parisa ei chân ‘Achub Fi’ ar ddarllediad byw cyngerdd Cymru Wcráin.

Cyfansoddodd Parisa’r gân ‘Lleuad Du’ ar gitâr acwstig mewn carafán yn y Gogledd ar ddiwrnod glawog cyn mynd ati i gydweithio gyda’r offerynwr a chyfansoddwr, Charlie Piercey, ac yna’r cynhyrchydd Krissie Jenkins i gwblhau’r trac.

Yn y gân, mae’r lleuad ddu yn cynrychioli posibiliadau di-ben-draw. Mae’r gân iasol a phwerus hon yn mynd â’r gwrandäwr ar daith i ganfod gobaith a golau newydd. 

Gobaith Parisa yw y bydd y gân yn ysbrydoli pobl, yn rhoi’r nerth iddyn nhw gredu yn eu hunain ac yn y ddynoliaeth, ac i greu byd gwell i helpu ein brodyr a’n chwiorydd sy’n dioddef ledled y byd. Mae hyn wrth gwrs yn hynod o amserol a pherthnasol o ystyried yr ymgyrchu a phrotestio sy’n digwydd yn Iran ar hyn o bryd. 

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl a gynhyrchwyd gan Elin ei hun, gydag ychydig o help llaw gan ei ffrind, Stacey Taylor:

 

 

Record: Dathlu Fflach yn 40

Mae casgliad newydd wedi’i ryddhau i nodi pen-blwydd label Recordiau Fflach yn 40 oed eleni. 

‘Dathlu Fflach yn 40’ ydy enw’r casgliad aml-gyfrannog newydd sy’n cynnwys caneuon gan artistiaid amrywiol sydd wedi bod yn rhan o deulu’r label hoffus o Aberteifi dros y degawdau.

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Fflach yn 40 oed mae hwn yn gasgliad unigryw sy’n edrych nôl dros gyfnod o ddeugain mlynedd o recordio a chyhoeddi caneuon gan amryw o artistiaid o wahanol genre cerddorol ar label Fflach.

Mae’r albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar CD ac yn cynnwys detholiad o ddeuddeg o ganeuon o’r ôl gatalog yn cael eu perfformio gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus a thalentog Cymru. 

Ymysg y caneuon ar yr albwm mae rhai gan artistiaid cyfoes fel Gwilym Bowen Rhys, Mari Mathias a Bwncath ynghyd â rhai o enwau amlycaf y sin Gymraeg dros y degawdau fel Catsgam, Gwenda Owen ac wrth gwrs Ail Symudiad. 

Rhestr Traciau ‘Dathlu Fflach yn 40’:

  1.   Cymry Am Ddiwrnod – Gwilym Bowen Rhys
  2.   Pen Y Byd – Bwncath
  3.   Riverside Cafe – Mabli Gwynne Tudur
  4.   Eira Cynnes – Bronwen Lewis
  5.   Oregon Fach – Mari Mathias
  6.   Ceredigion Môr a Thir – Ail Symudiad
  7.   Gormod o Frains – Einir Dafydd
  8.   Bachgen Ifanc Ydwyf – Gwilym Bowen Rhys
  9.   Cariad Mwyn – Lowri Evans
  10. Cân i’r Ynys Werdd – Gwenda Owen
  11. Ffeindia Fi – Ryland Teifi
  12. Garej Paradwys – Catsgam

Dyma fersiwn Gwilym Bowen Rhys o’r gân Ail Symudiad ‘Cymry Am Ddiwrnod’ sy’n agor y casgliad: 

 

Un Peth Arall: Y Selar yn noddi Cewri Ystwyth

Anghofiwch Cymru yng Nghwpan y Byd, newyddion pêl-droed mawr yr wythnos oedd hwnnw bod Y Selar yn noddi cit tîm dan 9 oed Cewri Ystwyth! 

Jyst cyn i Gymru chwarae eu gêm gyntaf yn y rowndiau terfynol ddydd Llun diwethaf cyhoeddodd Y Selar eu bod yn noddi cit y tîm pêl-droed dan 9 oed sy’n chwarae yng Nghynghrair Ieuenctid Aberystwyth. 

Ffurfiwyd tîm Cewri Ystwyth fel un o dimau ieuenctid CPD Llanilar dros yr haf ac maent wedi bod yn chwarae yn y gynghrair yn wythnosol ers mis Medi. 

A hwythau flwyddyn ar ei hôl hi o’i gymharu â’r timau eraill yn gynghrair, a flwyddyn yn iau na’r mwyafrif hefyd, maen nhw’n dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf. Er hynny, maen nhw’n mwynhau chwarae bob bore Sadwrn yn arw, ac mae eu hagwedd at y gêm yn hyfryd i’w weld. 

Rydan ni’n galw arnoch chi i gyd fel cefnogwyr Y Selar i fabwysiadu Cewri Ystwyth fel eich hoff dîm dan 9 – pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni rai ohonyn nhw’n chwarae i Gymru yng Ngwpan y Byd 2034! 

Dyma nhw y Cewri yn eu cit