Gig: Ara Deg
Bethesda ydy’r prif gyrchfan i bawb sy’n caru cerddoriaeth wythnos yma wrth i ŵyl Ara Deg ddigwydd trwy gydol y penwythnos.
Dechreuodd y cyfan yn Neuadd Ogwen neithiwr gyda gig oedd yn cynnwys BCUC, yr ardderchog Adwaith, a dyn y foment, Sage Todz.
Heno, This is Kit ydy’r prif atyniad gyda chefnogaeth gan Ryley Walker.
Fory, ddydd Sadwrn, mae’n siŵr o fod yn set arbennig iawn gan guradur yr ŵyl, Gruff Rhys wrth iddo berfformio yn Neuadd Jerusalem yn y prynhawn. Yna, gyda’r hwyr Carwyn Ellis & Rio 18 fydd yn dod â bach o heulwen Brasil i Ddyffryn Ogwen gyda chefnogaeth gan Troupe Djéliguinet a Ffrancon.
Daw’r ŵyl i ben nos Sul gyda lein-yp sy’n cynnwys Snapped Ankles, La Perla a Cosmic Dog Fig.
Cofiwch hefyd am y sgyrsiau arbennig ‘Swyn Sain’ a’r ffair recordiau sy’n digwydd ddydd Sadwrn.
Cân: ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’ – Band Pres Llareggub
Yn wahanol iawn i’r arfer rydan ni wedi penderfynu tyrchu mewn i’r archif ar gyfer ein dewis o drac ar gyfer y penwythnos yma.
Ond, mae rheswm da iawn am hynny gan mai ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’ gan Band Pres Llareggub ydy’r gân Gymraeg ddiweddaraf i gael ei ffrydio dros 100,000 o weithiau ar blatfform cerddoriaeth Spotify.
Cyhoeddodd y grŵp wythnos diwethaf fod y gân wedi cyrraedd y ffigwr arwyddocaol – llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
Roedd y trac ar yr albwm ‘KURN’ a ryddhawyd yn 2016 ac mae’n cynnwys y gwesteion arbennig Alys Williams a Mr Phormula ac mae’n sicr yn diiiiwn.
Artist: Me Against Mysery
Dyma gyfle i gyflwyno artist newydd fydd efallai yn anghyfarwydd i lawer ohonoch chi ond sy’n siŵr o greu argraff gyda’i albwm newydd.
Me Against Misery ydy enw prosiect ôl-bync y cerddor Matt Rhys Jones o’r Rhondda ac mae wedi ryddhau’r albwm wedi rhyddhau ei ail albwm, Crafangau, yn ddiweddar.
Songs from a Divided Kingdom oedd enw albwm cyntaf Me Against Misery a ryddhawyd yn 2020 – albwm Saesneg oedd hwnnw ond mae Matt wedi penderfynu troi at y Gymraeg ar gyfer ei gyfanwaith diweddaraf.
“I ysgrifennu mor bersonol yn eich mamiaith – mae’n teimlo’n fwy real, ac yn fwy peryglus mewn ffordd” meddai Matt.
“Cymraeg fu iaith yr ‘underdog’ erioed. Mae ei oroesiad wedi dibynnu ar ewyllys ystyfnig a pharodrwydd i brotestio. Felly mae’n deimlad addas i ganu yn Gymraeg am y rheswm hwnnw.”
Mae dylanwad Gary Numan a Manic Street Preachers yn amlwg ar gerddoriaeth Me Against Misery, ond mae sŵn y prosiect, a llais cofiadwy Matt, yn ddigon unigryw ar yr un pryd.
“Mae’r Manics yn ysbrydoliaeth glir ac amlwg i mi” eglura Matt.
“Sut na allent fod? Daethon nhw hefyd o dde Cymru ôl-Thatcheraidd gyda’r awydd i beidio â derbyn trefn pethau, i beidio â gadael i’r tywyllwch lethu’r golau.
“Dyna fu calon Me Against Misery – penderfyniad i alw allan y rwtsh y mae bywyd modern yn ei bentyrru’n ddigymell ar stepen drws y tlawd, y gwan a’r unig.
Mae Matt yn ddigon onest am ddylanwad y Manics, ond efallai’n llai amlwg a disgwyliadwy mae Dafydd Iwan wedi dylanwadu ar ei gerddoriaeth hefyd!
“Y trac ‘wYsgydd wrth Ysgwydd’ yw fy ngalwad i wrthsefyll, fel y’i gosodwyd yn ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan.” meddai Matt.
“Mae’r gân honno wedi bod yn esiampl fawreddog o gerddoriaeth Gymraeg. Mae ei gweld yn cael ei mabwysiadu fel anthem gan gefnogwyr pêl-droed yn ddiweddar wedi bod yn wych.
“Mae cerddoriaeth Gymreig, diwylliant Cymreig, ysbryd Cymreig, y gwrthwynebiad, yn fyw ac yn iach” meddai.
Record: ‘Haul/Lloer’ – Awst
Rydan ni wedi bod yn sylw i Awst yma ar wefan Y Selar, ac o’r diwedd mae’n braf gallu dweud bod albwm cyntaf y prosiect allan heddiw.
Haul/Lloer fydd enw record hir gyntaf prosiect unigol y cerddor profiadol, Cynyr Hamer, ac mae allan yn ddigidol yn y mannau arferol ynghyd â nifer cyfyngedig o gopïau CD sydd ar gael i’w harchebu ar Bandcamp Awst.
Wyth trac sydd ar yr albwm a rheiny’n cynrychioli’r wythfed mis, sef mis Awst wrth gwrs.
Yn briodol iawn, mae Haul/Lloer yn albwm i’r haf sy’n llawn addfwynder acwstig ac alawon breuddwydiol wedi’u plethu mewn synths symudliw ac adrannau pres.
Yn ôl Cynyr, mae Haul/Lloer yn albwm llawn pegynau, haul a lleuad, dydd a nos, major a minor, bywyd a marwolaeth.
Mae Awst yn brosiect unigol newydd gan Cynyr, ac mae’r cerddor wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020.
Rhyddhawyd ei gynnyrch cyntaf ym mis Ebrill 2021 sef y sengl ddwbl ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’. Ers hynny mae wedi rhyddhau senglau pellach sef ‘Haul Olaf’ ym mis Awst 2021 ac yna ‘Sant y Lloer’ yn Ebrill 2022.
Un Peth Arall: Sesiynau Byw Sesiwn Fawr
Trît arbennig i ni gan griw Lŵp, S4C wythnos yma wrth iddyn nhw gyhoeddi llwyth o fideos sesiwn wedi eu ffilmio yng ngŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau eleni ar eu sianel YouTube.
Mae’r sesiynau arbennig yma’n cynnwys rhai gan NoGoodBoyo, Morgan Elwy, Eädyth, Gwilym Bowen Rhys, Lewys, Candelas, Bwncath, Pwdin Reis a Mwy.
I roi blas i chi, dyma chi ‘ Deryn Du’ gan y dihafal Hywel Pitts: