Wel, mae wedi bod yn wythnos drist arall i’r teulu cerddoriaeth Gymraeg wrth i ni golli un o gerddorion gorau, ac amlycaf, y chwarter canrif diwethaf yma yng Nghymru. Does dim ffordd well i ni yn Y Selar dalu teyrnged i Dyfrig Topper na thrwy roi sylw i’w gerddoriaeth yn ein Pump i’r Penwythnos. Rydyn ni’n manteisio i wneud hynny wythnos yma felly, ond hefyd yn rhoi sylw i ambell beth arall sy’n dal y sylw.
Gig: Al Lewis, Eädyth x Izzy Rabey
Ag yntau wedi bod yn perfformio ei gyfres o gigs Te yn y Grug mewn theatrau ledled Cymru’n ddiweddar, mae gig bach gwahanol gan Al Lewis heno.
Yn wir, mae’n mynd nôl i’w wreiddiau i bob pwrpas wrth berfformio mewn lleoliad bach agos atoch chi, sef Tŷ Tawe.
Cefnogaeth wych ganddo hefyd, sef Eädyth ac Izzy Rabey.
Cân: ‘Pwy sy’n Galw?’
Roedd dewis amlwg iawn ar gyfer ein hargymhelliad o gân wythnos yma, gan fod un o ganeuon gorau 2022 allan yn swyddogol erbyn hyn.
Byth ers ei chwarae gan Huw Stephens ar Radio Cymru’n gynharach yn y flwyddyn, mae ‘Pwy Sy’n Galw?’ gan Lloyd & Dom James wedi ysgogi ymateb sylweddol, ond nes dydd Gwener diwethaf doedd dim modd i bobl gael gafael ar y gân yn unrhywle!
Mae hynny wedi newid bellach, gyda’r trac allan yn swyddogol ar y llwyfannau cerddoriaeth arferol, ynghyd â fideo ar lwyfannau Lŵp.
Mae wynebau Lloyd Lewis a Dom James yn adnabyddus i rai fel cyfranwyr rheolaidd Hansh, S4C, ond mae eu prosiect diweddaraf ar y sgrin – sef fideo i’w sengl newydd, Pwy Sy’n Galw?, yn wahanol iawn i’r cynnwys maent wedi bod yn creu’n flaenorol.
“Nes i estyn mas i Lloyd nôl yn 2017 i ofyn iddo gyd-weithio ‘da fi ar gerddoriaeth” meddai Dom James.
“Mi wnes i ddysgu Cymraeg yn ystod fy amser yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd a Lloyd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl.
“Ers hynny, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i’r ddau o ni, felly roedd cyfuno’r iaith a cherddoriaeth yn bwysig hefyd.”
Yn ogystal â’r alwad am gerddoriaeth rap yn y Gymraeg, mae neges glir a theimladwy am yr iaith yn y gân hefyd mewn llinellau fel “Heb iaith ‘does dim calon”, “sefyllfa wedi gwthio fi i godi’r safon” a “teimlo fel Cymro ffug”.
Y newyddion da ydy mai dim ond y dechrau ydy’r sengl newydd ac y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan Lloyd a Dom James yn y dyfodol.
“Dechrau ein siwrne yw ‘Pwy Sy’n Galw?’” meddai Lloyd.
“Bwriad ni fel triawd yw i cario ‘mlaen creu a rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg a gweld pa mor bell allwn ni fynd ag e. Mae gyda ni lot o ddigwyddiadau a sets yn yr haf i edrych ymlaen i – mae’r dyfodol yn gyffrous.”
Dyma’r fideo:
Artist: Dyfrig Evans
Daeth y newyddion trist bore ddoe am farwolaeth Dyfrig Evans, neu Dyfrig Topper i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg.
Dim ond 43 oed oedd Dyfrig, a bu farw’n llawer iawn rhy ifanc wedi cyfnod byr o salwch.
Mae’r Selar yn cydymdeimlo’n fawr ai deulu a ffrindiau i gyd, ac roedd llawer iawn ohonynt gan fod Dyfrig yn foi poblogaidd dros ben. Mae’n golled fawr i’r byd cerddorol yma yng Nghymru, yn ogystal â’r byd actio hefyd wrth gwrs.
Roedd gyrfa gerddorol Dyfrig yn ymestyn yn ôl cryn dipyn, yn ôl i ganol y 1990au mewn gwirionedd a dechrau’r symudiad a alwyd gan y wasg ar y pryd yn Cŵl Cymru. Ac fe ellir dadlau bod Dyfrig, gyda’i fand enwocaf, Topper, yn rhan ganolog o’r symudiad hwnnw ar y pryd.
Cyn hynny, roedd Dyfrig wedi ffurfio’r grŵp Paladr gyda’i frawd Iwan pan oedden nhw dal yn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1995.
Penderfynwyd newid enw’r grŵp flwyddyn yn ddiweddarach, rhywbeth oedd yn weddol gyffredin tua’r cyfnod hwnnw ymysg grwpiau Cymraeg oedd yn dechrau dal y sylw tu hwnt i Gymru fach. Ac yn sicr fe wnaeth Topper hynny’n fuan iawn gyda thiwns bachog fel ‘Dim…’ a ‘Koo-Koo Land’ oedd ar eu EP cyntaf, Arch Noa a ryddhawyd ym 1996. Siôn Glyn ar y gitâr, Gwion Morus ar yr allweddellau a Pete Richardson ar y dryms oedd aelodau eraill Topper.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Something To Tell Her, ar label Ankst ym 1997 – mae hwn yn cynnwys caneuon gwych fel ‘Hapus’ a ‘Cân am Serch’ sy’n dal i gael eu chwarae ar y tonfeddi, ac yn dal eu tir hyd heddiw.
Daeth sengl wych arall y flwyddyn ganlynol (oedd, roedd senglau’n cael eu rhyddhau ar CD ym 1998 cofiwch!) gyda’r prif drac, ‘Cwpan Mewn Dwr’, unwaith eto’n parhau’n ffefryn dros y degawdau.
Dau albwm arall wedyn, sef Non Compos Mentis, gyda’r hyfryd hyfryd ‘Cwsg gerdded’ ym 1999 ac yna ‘Dolur Gwddw’ yn 2000.
Chwalodd y grŵp yn 2001 gyda Pete wedi ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci erbyn hynny, ac fe symudodd Dyfrig i fyw yn Yr Alban am gyfnod.
Erbyn 2006, roedd nôl yng Nghymru, ac yn ôl yn y stiwdio’n gweithio ar ei albwm unigol cyntaf, Idiom, a ryddhawyd ar label Rasal yn 2006. A doedd dim amheuaeth fod Dyfrig wedi cadw’i ddawn cyfansoddi, ac yn gallu sgwennu tiwn – ymysg uchafbwyntiau’r casgliad mae ‘Gwas y Diafol’, ‘Werth y Byd’ a ‘Byw i’r Funud’, sy’n teimlo’n briodol iawn wythnos yma.
Yn rhyfeddol, dyma’i unig albwm unigol wrth iddo ganolbwyntio’n fwy ar ei yrfa actio, ond bu’n dal i gyfansoddi ac yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dros y blynyddoedd. Y tro diwethaf iddo gystadlu oedd yn 2019 gyda’r gân ‘LOL’ a ddaeth yn drydydd.
Rhyddhaodd Dyfrig sengl Nadolig o’r enw ‘Mae Gen i Angel’ yn Rhagfyr 2020 – ei gynnyrch cerddorol diwethaf gwaetha’r modd.
Mae Dyfrig wedi bod yn gyfrifol am gymaint o ganeuon gwych dros y blynyddoedd mae’n anodd dewis un sy’n well na’r lleill. Er hynny, mae ‘Cwsg Gerdded’ yn ffefryn mawr yma yn Selar HQ (a tydi hi ddim ar y casgliad goreuon isod am ryw reswm) felly dyma hi, er cof am Dyfrig Topper.
Record: Goreuon o’r Gwaethaf – Topper
Cyn iddynt ryddhau albwm unigol Dyfrig, penderfynodd Rasal i ryddhau casgliad ‘goreuon’ o ganeuon Topper dros y blynyddoedd dan yr enw Goreuon o’r Gaethaf.
Er bod cwpl o draciau amlwg ar goll, mae’r casgliad yn un cynhwysfawr ac yn sicr yn fan cychwyn perffaith i unrhyw un sydd am ymdrochi yng ngherddoriaeth y grŵp gwych yma.
Wrth ystyried cyfnod Cŵl Cymru, mae rhywun yn meddwl yn syth am Gorkys, Super Furrys, Catatonia, y Manics a Stereophonics mae’n siŵr – y tri cyntaf o’r rhain yn grwpiau dwy-ieithog wrth gwrs. Ond roedd rheng o fandiau eraill Cymraeg neu ddwyieithog jyst o dan rhain oedd yn sicr yn gwneud eu marc – roedd Topper yn un o’r rhain, ynghyd â’r Big Leaves, Melys a Tystion. Byddai llawer yn dadlau mai Topper oedd yr agosaf o’r rhain at dorri trwodd i lefel SFA, Gorkys a Catatonia.
Beth bynnag, i’r rhai iau sydd efallai ddim mor gyfarwydd â Topper, ac oedd ddim yn ddigon ffodus i’w gweld nhw’n perfformio’n fyw, rydyn ni’n argymell yn fawr i chi fynd ati i wrando ar gasgliad Goreuon o’r Gaerthaf. Pwy a ŵyr, efallai bod ambell gopi CD prin yn llechu yn atig label Recordiau Sain.
Dyma un o ganeuon cynhara’, a gorau Topper, ‘Dim…’:
Un Peth Arall: Fideo ‘Dau Fyd’
Roedd pawb yn falch i weld Yws Gwynedd yn ôl ar lwyfan yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon wythnos diwethaf a hefyd yn rhyddhau ei sengl newydd, ‘Dau Fyd’.
Mae Yws yn un sydd wedi bod yn gwneud defnydd effeithiol iawn o’r cyfrwng fideo cerddoriaeth ers y dechrau mewn gwirionedd – pwy sy’n cofio ei fideo DIY ar gyfer ‘Sebona Fi’ a enillodd deitl ‘Fideo Gorau’ Gwobrau’r Selar 2015?
Dim syndod felly ei weld yn cyhoeddi fideo i gyd-fynd a’i sengl ddiweddaraf.
“Oedd cysyniad y fideo ‘di dod i deitl y gân, a’r syniad fod byd y rhwydweithiau cymdeithasol, ac yn enwedig y tueddiad gan influencers i greu byd ffug, yn gwrthgyferbynnu efo’r rhan fwyaf o’n bywydau pob dydd” meddai Yws wrth Y Selar.
“Dydd Sul dwytha’ [8 Mai] cafodd o’i ffilmio gan Daf Nant yn Shed, Felinheli, a nath o gymryd bron i wsnos gyfa’ i olygu gan mod i ‘di penderfynu golygu fo’n hun a finna ddim yn olygydd!” eglura Yws.
“Dwi’n caru bod lot mwy o fideos i ganeuon Cymraeg yn dod allan rŵan ac ma’n edrych fel bod ni bron wedi normaleiddio elfen weledolwrth ryddhau bron pob cân.”
Dyma’r fid: