Pump i’r Penwythnos – 28 Hydref 2022

Gig: Gŵyl Cwtch, Ty Ddewi, Sir Benfro – 28-30/10/22

Oeddech chi’n meddwl fod tymor y gwyliau ar ben? Meddyliwch eto gyfeillion! 

Mae gwyliau aml-leoliad dinesig wedi dod yn bethau mwy cyffredin dros dymor yr hydref. Roedd yr amlycaf o’r rhai Cymreig, Sŵn, yng Nghaerdydd penwythnos diwethaf, ac mae un arall sy’n dod a dŵr i’r dannedd yn Sir Benfro penwythnos yma. 

Cynhelir Gŵyl Cwtch yn Nhŷ Ddewi ac mae gigs yn digwydd mewn pum lleoliad ledled y ddinas. ‘Dinas?’ mi glywaf rai yn holi…wel ie, mae Tŷ Ddewi yn ddinas hanesyddol wrth gwrs gan fod eglwys gadeiriol yno felly mae hynny’n ddigon o reswm i ni alw Gŵyl Cwtch yn ŵyl ddinesig, er ei bod yn go wahanol i ŵyl Sŵn. Wedi dweud hynny, mae’r lein-yp yn ddigon trawiadol. 

Un o’r enwau amlycaf sy’n perfformio eleni ydy The Magic Numbers a gafodd lwyddiant ysgubol gyda’u halbwm cyntaf yn 2005. 

Mae’r enwau mwyaf eraill yn cynnwys Lisa O’Neill o Iwerddon sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol ac a ddaeth hefyd i amlygrwydd ar ôl i’w chân ‘All The Tired Horses’ gael ei defnyddio i gloi cyfres deledu boblogaidd Peaky Blinders. 

Yr hedleinar arall ydy’r grŵp Cymreig gwych Buzzard Buzzard Buzzard. 

Mae tipyn o artistiaid Cymraeg yn perfformio hefyd gan gynnwys Adwaith, Sister Wives, The Gentle Good, Melin Melyn a Tapestri. 

 

Cân: ‘Sgerbyde’ – Gwcci

Mae’r prosiect hip-hop newydd, Gwcci, wedi rhyddhau eu sengl heddiw ac mae’n drac perffaith i’ch rhoi chi yn y mŵd ar gyfer Calan Gaeaf. 

‘Sgerbyde’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar y label dawns o Langrannog, Recordiau BICA. 

Mae enw’r trac yn awgrymu’n gryf fod y gân yn berffaith ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn a’r hen draddodiad Celtaidd o ddathlu Calan Gaeaf. Ac mae hynny’n bwysig i’w nod gan mai neges y gân ydy y dylid anghofio am y fersiwn Americanaidd masnachol o’r dathliad sydd wedi’i boblogeiddio dros y blynyddoedd, a throi nôl at ddathlu’r achlysur gwreiddiol.  

“Naw wfft i Halloween a capitalist America – ma’n bryd i Galan Gaeaf gymryd centre stage unwaith eto” ydy galwad Gwcci. 

Mae Gwcci yn artist dirgel sy’n cyd-fynd ag amcanion craidd label BICA sef i roi llwyfan i genre’s dawns ac electronig yn y Gymraeg. 

Mae’r label hwnnw’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd FRMAND, ac mae ailgymysgiad o ‘Sgerbyde’ gan FRMAND yn cael ei ryddhau law yn llaw â’r fersiwn wreiddiol.

 

Artist: Adwaith

Amhosib peidio rhoi sylw i Adwaith yn rhywle wythnos yma ar ôl iddyn nhw gyflawni rhywbeth nad oes unrhyw un arall wedi llwydd o wneud yn ystod yr wythnos. 

Ie wir, nos Fercher coronwyd Adwaith fel enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr ail waith – y band cyntaf i dderbyn y wobr ddwywaith. 

Bato Mato oedd albwm gorau’r flwyddyn gan artist o Gymru yn ôl beirniaid y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae’n anodd anghytuno â hynny wrth ystyried bod y triawd o Gaerfyrddin wedi codi eu cerddoriaeth i’r lefel nesaf  gyda’u hail albwm. 

Yr hyn sy’n gwneud y gamp hyd yn oed yn fwy trawiadol ydy safon anhygoel yr albyms eraill oedd ar y rhestr fer eleni – roedd recordiau hir ardderchog gan Buzzard Buzzard Buzzard, Gwenno,, Cate Le Bon, Papur Wal, Lemfreck a’r Manic Street Preachers i enwi dim ond rhai yn eu herbyn. 

Ond, Bato Mato ddaeth i’r brig gan roi’r wobr am yr eilwaith i Adwaith ar ôl iddyn nhw ennill gyda Melyn yn 2019. 

Allwn ni ddim anghytuno a’r penderfyniad o gwbl – mae Bato Mato yn glamp o albwm!

Llongyfarchiadau mawr Adwaith – mwyhewch y dathlu! 

Ar ôl iddyn nhw ennill y wobr ETO, dim ond un dewis o gân o’r albwm sydd i rannu gyda chi:

 

Record: Y Gawres – Sister Wives

Dydd Gwener 28 Hydref – dyddiad sydd wedi bod â seren fawr wrtho yn nyddiadur Y Selar ers sbel.

Pam? Wel gan mai heddiw ydy dyddiad rhyddhau albwm cyntaf Sister Wives, Y Gawres. 

Rydan ni wedi cael senglau i roi blas o’r record hir newydd – y diweddaraf o’r rhain oedd y sengl ddwbl ‘O Dŷ i Dŷ’ a ‘Streets at Night’ a ryddhawyd yn gynharach yn y mis.  

Mae Sister Wives yn fand sydd wedi’u hysbrydoli gan fytholeg Gymreig, ac mae eu cerddoriaeth yn gybolfa o seicedelia, gwerin, post-pync, garej a glam roc y 70au. 

Ffurfiodd Sister Wives yn wreiddiol nôl yn 2018, ond mae’n deg dweud mai ar ddechrau 2021 y daethon nhw wir i sylw’r gynulleidfabGymraeg ar ôl rhyddhau’r EP Gweler Ein Gofid ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol. 

Ers hynny maen nhw wedi ymuno â theulu Recordiau Libertino, ac i’w gweld wedi mynd o nerth i nerth. 

Mae cryn edrych ymlaen wedi bod at yr albwm cyntaf yma felly ac mae’r teitl, Y Gawres, wedi’i ysbrydoli gan safle claddu hynafol ar Ynys Môn, sef ‘Barclodiad y Gawres’. 

Tra bod cewri yn ganolog i lên gwerin y genedl, anaml y clywir am gewri benywaidd. Arweiniodd y syniad i’r band o Sheffield i ddychmygu eu grym dinistriol, meithringar, syfrdanol, ac yn bwysicaf oll, benywaidd eu hunain.

Mae geiriau’r caneuon yn gymysgedd o Saesneg a Chymraeg, ac mae’r Cymru’n yn hynod bresennol ar draws yr albwm. 

Donna Lee (llais/allweddi/synths) ydy’r Gymraes sy’n ffryntio’r band ac mae’n bwysig iddi gynrychioli’r Gymraeg y tu allan i Gymru meddai.

Dechreuodd pedair aelod Sister Wives eu teithiau cerddorol mewn cylchoedd pync a DIY. Fodd bynnag, mae’r band yn gerbyd ar gyfer arbrofi, cydweithredu a chadw meddwl agored. Mae synau diwydiannol, synth a gitâr yn ffurfio eu sylfaen, tra bod eu lleisiau yn arswydus a harmonig. 

Yn graidd i Y Gawres yn ôl Donna mae adennill – stampio gofod iddyn nhw eu hunain, menywod, ac unrhyw un sy’n gwthio yn erbyn normau patriarchaidd. 

“Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn weladwy fel criw o ferched yn ein tridegau sy’n dal i chwarae gigs a gwneud sŵn, yn hytrach nag encilio i rolau mwy derbyniol yn gymdeithasol a rhoi’r gorau i’n hofferynnau”. 

Gyda hynny mewn golwg, mae Sister Wives wedi creu record gyntaf gonest, beiddgar a cherddorol unigryw yn gyfan gwbl ar eu telerau eu hunain.

Dyma’r fideo ar gyfer eu sengl ddiweddar, ‘O Dŷ i Dŷ’:

 

Un Peth Arall: Fideo Elis Derby

Roedd ecsgliwsif bach arbennig ar wefan Y Selar nos Iau wrth i ni ddatgelu fideo newydd ar gyfer un o ganeuon Elis Derby. 

‘Breuddwyd y Ffwl’ ydy teitl-drac ail albwm y cerddor poblogaidd a ryddhawyd ar label Recordiau Côsh ddiwedd mis Gorffennaf

Yn ystod cyfnod recordio’r albwm, bu Elis yn brysur yn ffilmio tipyn o’r bwrlwm yn y stiwdio yn Llandwrog, a bellach mae wedi defnyddio’r deunydd i greu’r fideo newydd. 

“Felly yn wreiddiol mi oni ’di planio mini doc ar gyfer gwneud yr albwm felly mi wnes i ffilmio bob dim oni’n gallu tra’n y stiwdio” eglurodd Elis wrth Y Selar

“Tra’n rhoi fideos byrion at ei gilydd i hyrwyddo’r albwm nes i sylwi bod y clips stiwdio yn mynd yn dda efo cerddoriaeth drostyn nhw, felly mi benderfynais wneud fideo cerddoriaeth ohonyn nhw yn lle!

Dyma’r fideo: