Pump i’r Penwythnos – 28 Ionawr 2022

Gig: Yr Eira, Y Cledrau a Magi – Gigs Tŷ Nain 2 – Mehefin 2021

Dim lot o gigs byw penwythnos yma eto, ond fe fyddan nhw nôl yn fuan gyda manylion ambell un yn dechrau ymddangos. 

Un o’r rhai mwyaf diddorol ydy’r trydydd gig ‘Gigs Tŷ Nain’, gyda’r trefnwyr yn cyhoeddi’r manylion wythnos diwethaf.

Er mai dyma’r trydydd gig i’r criw drefnu, hwn mewn gwirionedd fydd y cyntaf gyda chynulleidfa go iawn gan mai gigs rhithiol oedd y rhai blaenorol. 

Candelas, Kim Hon a Dafydd Hedd sy’n perfformio a Stiwdio Theatr Pontio fydd y lleoliad ar 19 Chwefror. 

Criw newydd o drefnwyr sy’n gyfrifol am Gigs Tŷ Nain, ond criw sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd  i unrhyw un sy’n dilyn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan eu bod i gyd naill ai’n aelodau o fandiau, wedi bod mewn bandiau, neu’n artistiaid unigol. 

Dechreuodd y fenter yng nghanol y pandemig ym mis Hydref 2020, pan awgrymwyd dros alwad Zoom gymdeithasol y dylid, yn hytrach na disgwyl am gyfle, greu cyfle i gael gigio unwaith eto. A gyda hynny, ganwyd Gigs Tŷ Nain.

Darlledwyd gig cyntaf Gigs Tŷ Nain yn rhithiol o neuadd gymunedol Mynytho, gyda lein-yp a lwyddodd i ddenu torf o 1,300 i wylio. Y lein-yp bryd hynny oedd Alffa, Malan, Gwilym ac Elis Derby.

Dilynwyd hynny gan Gigs Tŷ Nain 2 ym mis Mehefin 2021 gydag Yr Eira, Y Cledrau a Magi yn perfformio o theatr Pontio, Bangor.

Wrth i ni edrych ymlaen at y trydydd gig yn y gyfres, unwaith eto yng Nghanolfan Pontio, mae’n gyfle da i atgoffa’n hunain o’r un diwethaf gyda’r cyfan i’w weld ar-lein o hyd. 

 

Cân:  ‘Niwl’ – Roughion Remix

Cân gyfarwydd, ond fersiwn newydd wedi’i ail-gymysgu gan y ddeuawd electronig Roughion. 

Rhyddhawyd sengl ‘Niwl’ yn wreiddiol gan dri cerddor o Arfon sef Endaf, Dafydd Hedd a Mike RP ym mis Gorffennaf 2021. 

Y trac yma oedd cynnyrch cyntaf prosiect ‘Sbardun Talent Ifanc’ sy’n cael ei redeg gan Endaf, mewn partneriaeth gyda’r Galeri yng Nghaernarfon.

Mae Roughion yn adnabyddus am eu gwaith ail-gymysgu gwych, ac fe wnaeth y label maent yn rhedeg, Recordiau Afanc, ryddhau casgliad o fersiynau newydd o ganeuon yr albwm Tiwns gan Mr Phormula ar ddechrau 2021

Roeddent yn gyffrous pan gysylltodd Endaf yn holi os fydden nhw’n ail-gymysgu ‘Niwl’, gan wybod y bydden nhw’n gallu newid naws disgo gwreiddiol yn gân i ‘wobbler’ tecno, fel roedd pobl yn gwneud pan ddechreuodd y genre dawns. 

Mae Roughion wedi cadw rhai elfennau o’r trac gwreiddiol ar ddechrau eu fersiwn hwy, ond gan hefyd ychwanegu ochr galetach, bas newydd a sain Roughion 909. 

Yn ail hanner y gân, mae’r remics Roughion go iawn yn dechrau, gyda’r elfennau disco yn gadael a’r synau synth yn newid i rywbeth mwy bygythiol a rhyfedd, cyn i lais Dafydd Hedd ddod i mewn i ddod a’r elfennau techno at ei gilydd yn llawn. 

Yn ôl Roughion, dyma’r ailgymysgiad y maen nhw wedi mwynhau ei greu fwyaf, ac sy’n cael yr ymateb orau gan gynulleidfaoedd.

Barnwch dros eich hun:

Record: Ail Ddechra – Brân

Un o’r senglau newydd sydd allan heddiw ydy fersiwn newydd o’r glasur ‘Y Gwylwyr’ gan Brân. 

Candelas sydd wedi mynd ati i recordio eu fersiwn eu hunain o’r trac gan y grŵp eiconig, a hynny fel rhan o ddathliadau pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.

Bydd casgliad o ganeuon amrywiol ac arbennig gan wahanol fandiau sydd wedi bod ar y label yn cael ei ryddhau fis Mai eleni, ac ‘Y Gwylwyr’ sy’n rhoi’r blas cyntaf o hwn i ni. 

Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol gan Brân ar eu halbwm Ail Ddechrau ym 1975. Yr hyn sy’n gwneud y fersiwn newydd mor arbennig ydy bod Nest Llewelyn (Howells ar y pryd) oedd yn canu ar y fersiwn wreiddiol, wedi ymuno â Candelas i ryddhau’r fersiwn newydd. 

Dyma gyfle perffaith felly i edrych yn ôl ar albwm cyntaf y grŵp chwedlonol. 

Ffurfiwyd Brân ym 1974 a’r aelodau gwreiddiol oedd John Gwyn ar y gitâr, Gwyndaf Roberts ar y bas a Keith Snelgrove ar y dryms. Yn ddiweddarach gofynnwyd i Nest Howells ymuno fel prif leisydd, gyda Keith Snelgrove yn gadael a Dafydd Roberts, brawd Gwyndaf, yn ymuno ar y drymiau. 

Dyma oedd y lein-yp ar gyfer recordio Ail Ddechra felly, ac aeth y grŵp i stiwdio newydd cwmni Sain yn Llandwrog ar hynny. 

Mae’n debyg mai ‘Y Gwylwyr’ ydy’r trac amlycaf o’r casgliad, a hynny’n rhannol diolch i’r ffaith ei bod wedi’i hatgyfodi ar gasgliad poblogaidd Welsh Rare Beat a ryddhawyd gan y DJ amlwg Andy Votel, a Gruff Rhys, yn 2005. 

Er hynny, mae llwyth o draciau gwych ar y casgliad, gan gynnwys y trac agoriadol egnïol ‘Y Ddôr Ddig’, y trac offerynnol anthemig ‘Breuddwyd’ sy’n cloi’r albwm, a’r gân ‘Caledfwlch’ a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1975.

Mae’r albwm yn sicr yn eiconig, ac wedi’i ail-ryddhau sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys fel rhan o’r bocs set ‘atSain y 70au’ gan Recordiau Sain yn 2012.

Mi wnaeth label Rise Above Relics hefyd ryddhau’r albwm fel rhan o’r bocs set CD ‘A Box of Brân’ gan label yn 2018, yn ogystal â chyhoeddi’r record ar feinyl yr un pryd. Cafodd y record ei ail gyhoeddi yn Siapan hefyd gan y label Big Pink! Gweler clawr hwnnw fel prif lun y PiP uchod. 

Dyma fersiwn wreiddiol y trac…jyst gwrandewch ar y riff gitâr anhygoel yna:

 

Artist: Siôn Russell Jones

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, Siôn Russell Jones yn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Sain heddiw. 

Enw’r trac newydd ganddo ydy ‘Creulon yw yr Haf’. 

Mae Siôn yn gerddor amlwg er sawl blwyddyn bellach ac wedi rhyddhau 2 albwm unigol ynghyd â sawl EP ers y record hir gyntaf ganddo, And Suddenly, a ryddhawyd yn 2010. 

Mae hefyd wedi perfformio’n helaeth yng Nghymru a dros y byd, gan gynnwys SXSW Texas a Tokyo Rising a bu ar deithiau perfformio yn America, Japan ac Ewrop. 

Arwyddodd y cerddor gyda chwmni cyhoeddi BDI yn 2017 ac arweiniodd hyn at gynnwys ei gerddoriaeth mewn nifer o gyfresi teledu amlwg. 

Roedd hefyd yn aelod o’r ddeuawd boblogaidd Ginge and Cello Boi, ac mae’n aelod o’r grŵp Angel Hotel ar hyn o bryd ynghyd â’r band bluegrass Taf Rapids Stringband

Mae ‘Creulon yw yr Haf’ yn gân a gyfansoddwyd gan Siôn yn dilyn marwolaeth ei dad yn haf 2018.

Mae’n gân hiraethus, atgofus, ond eto mae yma obaith am ddyddiau gwell ac am y nerth i fod yn ddewr yn wyneb amgylchiadau anodd bywyd.

Mae’r trac diweddaraf yn cyd-fynd ag arfer cyfarwydd Siôn o gyfansoddi caneuon cynnes a gonest, ynghyd â’i arddull ddidwyll o ganu a’i chwarae gitâr deinamig. 

Un Peth Arall: Gweithdy Preswyl Merched yn Gwneud Miwsig 

Rydan ni’n ffans mawr o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig fan hyn yn Y Selar ac yn gwerthfawrogi’r gwaith gwych mae’r criw yn gwneud i hybu mwy o ferched i fod yn weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.  

Roedd yn dda clywed felly eu bod yn bwriadu cynnal gweithdy preswyl ar benwythnos 25-27 Chwefror 2022 yng Nglan Llyn Isaf ger Y Bala. 

Cynhaliwyd gweithdy tebyg yn yr un lleoliad ar benwythnos olaf mis Hydref 2021, ac roedd hwnnw’n llwyddiannus iawn yn ôl y trefnwyr. 

Y tiwtoriaid ar y prosiect y tro yma ydy Marged Gwenllian o’r grŵp Y Cledrau, y gantores pop Hana Lili, a Heledd Watkins o’r grwpiau HMS Morris a BOI. 

£25 ydy pris y gweithdy i aelodau’r Urdd, neu £35 i rai sydd ddim yn aelodau. Mae modd archebu lle nawr ar-lein trwy’r Urdd – ewch amdani!