Gig: Gwenno @ Neuadd Ogwen, Bethesda – 30/09/22
Lot o gigs da ar galendar gigs Y Selar heno – cofiwch gadw golwg ar y calendr am y digwyddiadau diweddaraf!
Fe ddechreuwn ni yn y brifddinas lle mae cyfle i ddal Yws Gwynedd ar lwyfan unwaith eto yng Nghlwb Ifor Bach. Y band ifanc ardderchog, Dienw, fydd yn cefnogi.
Fyny yn gogledd-ddwyrain wedyn mae ‘na gig bach da yn Nhŷ Pawb, Wrecsam gyda Worldcub a Pelydron yn perfformio.
Ein prif ddewis ni o gig ar gyfer y penwythnos ydy hwnnw yn Neuadd Ogwen, Bethesda heno gyda’r anhygoel Gwenno yn chwarae yno.
Cân: ‘Rhyddid’ – Lleuwen
Mae ein dewis o gân yr wythnos yma yn un sydd wedi creu dipyn o drafodaeth, a mymryn o ddadlau hefyd.
Rhyddhawyd ‘Rhyddid’ gan Lleuwen yn swyddogol fel sengl ddydd Gwener diwethaf ar ôl ei recordio’n gynharach yn y mis.
Cyfansoddodd Lleuwen y trac yn ystod ail wythnos y mis yn dilyn marwolaeth brenhines Lloegr, ac fel ymateb i’r ffaith bod y teulu brenhinol wedi penderfynu enwi tywysog Cymru newydd heb fath o drafodaeth gyda phobl Cymru!
Er bod y trac wedi cael ymateb arbennig o dda gan bobl ar-lein, croeso digon llugoer a gafwyd gan Radio Cymru yn ôl y gantores.
“Rhannais fideo o’r gân ar Instagram a Facebook yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth a’r cyhoeddiad y bydd Cymru, unwaith eto, yn cael ei gorfodi i gael tywysog o linach teulu brenhinol Lloegr” eglura’r gantores amryddawn.
“Rhannais fideo o’r gân ar Intsagram a Facebook yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth a’r cyhoeddiad y bydd Cymru, unwaith eto, yn cael ei gorfodi i gael tywysog o linach teulu brenhinol Lloegr” eglura Lleuwen.
“Anfonais y fersiwn hwnnw o’r gân i BBC Radio Cymru ac er yr ymateb ffafriol iddi ar-lein, mae’r gân yn mynegi safbwyntiau gwahanol i naratif brenhiniaethol cyfredol y sefydliad felly doedd dim modd ei chlywed ar y radio.
“Nid yw’r gân yn amharchus nac yn ansensitif mewn unrhyw ffordd ond ymddengys ei bod bron yn amhosib mynegi na chlywed barn sy’n groes i’r graen yn y cyfryngau torfol yng Nghymru yn ystod y cyfnod diweddar o alaru gorfodol.
“Fel mae’r gân yn mynegi, mae’r cyhoedd yn llyncu yr hyn sy’n cael ei gyflwyno iddynt. Nid pawb sy’n dilyn y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ymhlith y to hŷn.
“Mae’r Cymry yn haeddu gwell na barn unochrog a naratif cydymffurfio am deulu brenhinol Lloegr. Mae’r ddadl am annibyniaeth – a’r gwir angen am ddatganoli darlledu o afael rheolaeth y sefydliad Prydeinig – wedi amlygu ei hun yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod hwn. ”
Rydan ni wedi clywed rhyw si bach fod y trac wedi’i chwarae ar o leiaf un o raglenni Radio Cymru dros yr wythnos diwethaf cofiwch, ond allwn ni ddim cadarnhau na gwadu hynny ar hyn o bryd!
Un peth sy’n sicr ydy bod ‘Rhyddid’ yn chwip o gân ac mae’n werth gwrando arni beth bynnag eich teimladau am y teulu brenhinol.
Artist: Fleur de Lys
Bach o sylw i’r grŵp poblogaidd o Fôn, Fleur De Lys, sydd wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf.
‘Ffawd a Ffydd’ ydy enw’r trac newydd wrth i’r grŵp ail-gydio ynddi o ddifrif ar ôl cyfnod gweddol segur o ryw dair blynedd.
Dyma ei hail sengl yn dilyn ‘Fory ar ôl Heddiw’ a ryddhawyd ar ddechrau mis Gorffennaf eleni.
Honno oedd cynnyrch cyntaf Fleur de Lys ers rhyddhau’r gân Nadolig, ‘Amherffaith Perffaith’, yn Rhagfyr 2020, gan ddilyn blwyddyn brysur i’r band yn 2019 wrth iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘O Mi Awn Ni Am Dro’.
Yn ôl pob sôn mae Fleur de Lys yn brysur yn gweithio ar eu halbwm nesaf ac yn gobeithio cwblhau’r gwaith ar hwn erbyn dechrau 2023, felly mae’n debygol y gwelwn ni gryn dipyn ohonyn nhw ar lwyfan blwyddyn nesaf.
Dyma ‘Ffawd a Ffydd’:
Record: Gweler ein Gofid – Sister Wives
Rydan ni am eich annog i fynd nôl i wrando ar gerddoriaeth Sister Wives penwythnos yma, ac yn benodol eu EP Gweler Ein Gofid a ryddhawyd yn 2020.
Mae rheswm da dros wneud hynny gan y bydd, gobeithio, yn eich rhoi y mŵd ar gyfer clywed mwy o gerddoriaeth gan y grŵp Cymraeg o Sheffield.
Wythnos diwethaf fe ryddhawyd rhagflas o albwm newydd y band gyda’r sengl ‘Ticking Time Bomb’.
Bydd yr albwm newydd, Y Gawres, yn cael ei ryddhau ar 28 Hydref eleni ar label Recordiau Libertino ac fe fydd cryn edrych ymlaen at y record mae’n siŵr.
Mae ‘Ticking Time Bomb’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Greater Place’ a ryddhawyd ddechrau mis Awst ynghyd â fideo ar gyfer y gân.
Ond am y tro rydan ni am edrych yn ôl ar eu EP cyntaf a ryddhawyd yn wreiddiol ar label Do It Thisen ym mis Tachwedd 2020.
Casgliad byr gyda thair cân oedd hwn, ond roedd yn ddigon i ddal sylw Libertino ac fe ryddhawyd mics newydd o’r prif drac, ‘Rwy’n Crwydro’ a ryddhawyd yn Chwefror llynedd.
Cadarnhawyd yn fuan wedyn bod y pedwarawd wedi ymuno’n ffurfiol gyda’r label Cymreig ac ers hynny mae fersiwn newydd o’r EP wedi’i ryddhau ar Libertino ym mis Mawrth eleni. Mae hwn yn cynnwys fersiwn wedi’i ail-gymysgu o’r tri thrac.
Dyma ailgymysgiad Ani Glass o ‘Rwy’n Crwydro’:
Un Peth Arall: Cyfres newydd Ar Dâp yn dechrau
Rydan ni’n falch iawn i weld bod cyfres newydd o’r rhaglen gerddoriaeth ar-lein, Lŵp: Ar Dâp wedi dechrau gyda phennod gyntaf allan nos Sul diwethaf.
Cyfres sy’n cyfuno perfformiad byw a sgwrs gan artist penodol bob tro ydy Ar Dâp ac mae’r gyntaf o’r gyfres newydd yn rhoi llwyfan i’r cerddor o Gaerdydd, sy’n dod yn wreiddiol o Guniea, N’Famady Kouate.
Dyma’r bennod: