Gig: Gig y Pafiliwn (Uchafbwyntiau) – S4C – 31/12/22
Bydd ‘na lwyth o rybish ar y teli ar nos Calan yn ôl yr arfer, ond os mai ar y soffa fyddwch chi wrth groesawu 2023 yna mae’n werth tiwnio mewn i S4C am 21:00 i fwynhau uchafbwyntiau Gig y Pafiliwn eleni.
Dychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dwy flynedd o absenoldeb ym mis Awst, a Thregaron oedd y lleoliad croesawgar.
Nos Iau y Steddfod, roedd Gig y Pafiliwn yn ôl gyda lein-yp ardderchog oedd yn cynnwys Gwilym, Adwaith, Mellt, Alffa a Cherddorfa y Welsh Pops. Huw Stephens oedd yn llywio’r cyfan ac roedd yn glamp o noson dda – manteisiwch i ail-fyw’r uchafbwyntiau ar y sgrin fach bobl.
Cân: ‘Goriad’ – Meinir Gwilym
Wrth iddi baratoi i ryddhau dipyn o ddeunydd newydd yn ystod 2023, mae Meinir Gwilym wedi rhyddhau ei sengl ‘Goriad’.
Yn ôl pob sôn, mae Meinir wedi bod yn brysur yn gweithio ar ddeunydd newydd yn ddiweddar, ac yn bwriadu rhyddhau albwm yn ystod 2023.
Ynghyd â’r caneuon newydd mae wedi bod yn gweithio arnynt, mae hefyd wedi bod yn gweithio ar fersiynau newydd o rai o’i chaneuon adnabyddus o’r gorffennol gan eu trawsnewid i gyd-fynd â sain newydd yr albwm.
Un o’r rhain ydy ‘Goriad’ a ryddhawyd yn wreiddiol ar ei halbwm ‘Llwybrau’ yn 2016.
Mae Meinir hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd, a dyma fo…
Artist: Ffos Goch
Oedd, roedd ‘na lot o senglau Nadolig Cymraeg newydd eleni, ac un o’r mwyaf diddorol oedd hwnnw a laniodd yn hwyr yn y dydd gan artist anghyfarwydd.
‘dim eira, dim sioe’ oedd enw’r sengl Nadoligaidd amgen gan Ffos Goch. Enw newydd i’r Selar, ond un oedd yn ysgogi hyd yn oed mwy o chwilfrydedd o weld bod elw’r sengl yn mynd i fanciau bwyd Reddich a Coventry yn Nghanolbarth Lloegr.
Ac roedd rheswm da am hynny gan mai un o Reddich, Swydd Gaerwrangon ydy Stuart Estell, sef y cerddor sy’n gyfrifol am brosiect Ffos Goch.
Er bod gwreiddiau teuluol Stuart yng Ngheredigion, dim ond yn ddiweddar, ers 2019, y mae wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg o ddifrif.
Mae’n gerddor profiadol, ac wedi bod yn yn creu cerddoriaeth ym mhob math o genre’s ers blynyddoedd – o chwarae piano clasurol, cerddoriaeth werin, metel arbrofol, free improv – a hefyd wedi bod yn organydd capel Cymraeg Loveday St yn Birmingham am ddeunaw blynedd!
Daeth i’r amlwg i’r Selar wrth sgwrsio â Stuart ei fod hefyd yn un o’r rhai a chwaraeodd y gitâr yn ystod gigs enwog The Fall ym 1998 pan ddywedodd ffryntman y grŵp, Mark E. Smith, ei frawddeg enwog“If it’s me and yer granny on bongos, it’s The Fall.”
Yn ogystal â The Fall, mae Datblygu yn ddylanwad mawr ar Stuart. Yn wir, dechreuodd prosiect Ffos Goch fel rhan o benwythnos i ddathlu’r band a gynhaliwyd yn Llanbedr Pont Steffan ym mis Mehefin 2022.
Bryd hynny roedd Stuart wedi paratoi set fer o ganeuon Datblygu ac fe sylweddolodd yn gyflym iawn nad oedd digon o ddeunydd ganddo ar gyfer y perfformiad. Felly ei ateb oedd i ddechrau ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg am y tro cyntaf!
Nid y sengl Nadolig ydy’r cynnyrch cyntaf gan Ffos Goch gyda dwy sengl yn cael eu rhyddhau’n gynharach yn yr hydref sef ‘dim ond gwichiaid moch’ ym mis Hydref, ac yna ‘gwylio’r adar’ ym mis Tachwedd.
Dyma ‘dim eira, dim sioe’:
Record: Casgliad Radio Crymi – Ankstmusik
Dip mewn i’r archif wythnos yma ar gyfer ein dewis o record, ond mae esgus da dros wneud hynny gan fod label Ankstmusik wedi atgyfodi record aml-gyfrannog ardderchog a’i rhyddhau’n ddigidol ar Bandcamp am gyfnod byr er mwyn codi arian at elusen cancr.
Rhyddhawyd Ankst Records: Radio Crymi Playlist Vol 1 1988 – 1998 yn wreiddiol yn 2003 ar ffurf CD dwbl ac mae’n cynnwys 39 o draciau a ryddhawyd gan label enwg Ankst rhwng 1988 a 1998.
Ymysg y caneuon mae traciau gan Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman, Gorky’s Zigotic Mynci, Catatonia, Topper, Datblygu a llawer mwy.
Nawr mae’r label wedi penderfynu rhyddhau’r albwm yn ddigidol ar eu safle Bandcamp gydag unrhyw elw’n mynd tuag at elusen cancr The Osborne Trust – elusen sy’n cefnogi plant sydd â rhieni’n mynd trwy driniaeth cancr.
Dyma’r ardderchog ‘Merch o Gaerdydd’ gan Rheinallt H. Rowlands o’r casgliad:
Un Peth Arall: Ffansin Klust
Grêt i weld gwefan gerddoriaeth dwy-ieithog Klust yn cyhoeddi eu zine cyntaf sy’n cynnwys llwyth o erthyglau difyr am gerddoriaeth.
Sefydlwyd y wefan gan Owain Elidir Williams ym mis Rhagfyr 2021 ac mae wedi bod yn cyhoeddi erthyglau’n rheolaidd yn y Gymraeg a’r Saesneg ers hynny.
Y zine newydd ydy prosiect diweddaraf Klust ac mae’n cael ei ddisgrifio gan Klust fel ‘casgliad lliwgar o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau byrion, wedi’i weu at ei gilydd gan ysgrifenwyr o bob cwr o Gymru’.
Mae ffotograffiaeth yn agwedd bwysig iawn o’r zine hefyd ac i ategu hyn mae pawb sy’n prynu copi hefyd yn cael llun unigryw gan y ffotograffydd, ac aelod o’r band Gwilym, Rhys Grail.
“Dwi wastad ‘di bod isio creu rhywbeth fel hyn a wastad ‘di meddwl y bysa fo’n rhywbeth fysa pobl isio fod yn rhan ohoni” meddai Owain am y zine.
“Y syniad ydi bod y cylchgrawn yn cyfleu’r hyn sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru heddiw drwy ddeg darn gwahanol.”
Mae deg o awduron wedi cyfrannu erthyglau at y zine sef Mared Thomas, Buddug Roberts, Huw Bebb, Issy Rabey, Esyllt Angharad Lewis, Rhys Grail, Mike Owen, Andrew Wogun, Emma Way, Dyan Williams, Aled Victor ac Owain ei hun.
Gallwch archebu zine Klust ar y wefan nawr.