Gig: Candelas, Gwilym, Papur Wal, Ciwb, Guto – Pontio, Bangor – 05/03/22
Ambell gig bach mlaen penwythnos yma gan gynnwys Tegid Rhys yn perfformio yn Yr Heliwr nos Sadwrn, a nos Wener mae Bwca yng Nghaffi Cletwr sydd ar y lôn rhwng Aberystwyth a Machynlleth – caffi bach neis iawn ydy o hefyd.
Ond y gig amlycaf penwythnos yma ydy un yr Eisteddfod Rhyng-gol yn Pontio Bangor nos Sadwrn – cracyr o leinyp sy’n cynnwys Candelas, Gwilym, Papur Wal, Ciwb a Guto.
Gig cynta!
Ciwb + ambell westai
Nos Sadwrn, Rhyng-gol, Bangor 🟥 pic.twitter.com/pR3Wqw4jYJ
— Ciwb (@Ciwb_Band) March 1, 2022
Cân: ‘Cont y Môr’ – Blind Wilkie McEnroe
Dyma enw band nad ydan ni wedi’i glywed ers ers peth amser, a da gweld Blind Wilkie McEnroe yn ôl gyda thiwn newydd wythnos diwethaf.
‘Cont y Môr’ ydy’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau o’r casgliad i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed, gan ddilyn senglau blaenorol gan Candelas, Gwenno Morgan, Carcharorion a Glain Rhys.
Blind Wilkie McEnroe ydy prosiect cerddorol Carwyn Ginsberg o’r grwpiau Fennel Seeds a Hippies vs Ghosts, Dave Elwyn a Mike Pandy o’r grŵp HazyBee. Yn ddiweddarach ymunodd Si Brereton ar yr allweddellau ac offerynnau taro, ac Andrew Stokes ar y bas i alluogi sain fwy cyfoethog yn fyw, ac ymhen amser, yn y stiwdio.
Rhyddhaodd y band EP o’r enw ‘Ar Ddydd Fel Hyn’ yn 2018 ar label I KA CHING, a oedd yn gasgliad o draciau bachog, egnïol, seicadelig.
Dechreuodd Carwyn ysgrifennu’r gân newydd yn yr un cyfnod ag y cyfansoddodd yr EP.
“Nes i sgwennu’r geiriau yn y stiwdio mewn pum munud,” meddai Carwyn.
“Dwi ddim yn “lyricist” ac yn sicr yn trio cadw i ffwrdd o bynciau gwleidyddol, ond dros y blynyddoedd diwethaf dwi’n teimlo fel mod i wedi cael fy nghornelu.
“Dwi’n hoffi blodau ac adar ond mae cont y môr yn dyfalbarhau ar y funud. Ella un o’r dyddiau yma mi na i setlo ar y blodau a’r adar, ond am wan mae ’na lawer o ffeit a gelyniaeth ynddo fi eto.”
Record: ‘Ambell i Gân’
Yn gynharach wythnos yma fe ryddhaodd label Recordiau Sain gasgliad newydd o ganeuon a recordiwyd ar gyfer cyfres BBC Radio Cymru ‘Ambell i Gân’
Roedd y gyfres yn cynnwys traciau newydd sbon wedi’u recordio fel sesynnau gan rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru.
Recordiwyd pob un yn arbennig ar gyfer y gyfres radio a ddarlledwyd ym mis Medi a Hydref 2021 – cyfres oedd yn cael ei chyflwyno gan y delynores a chantores werin, Gwenan Gibbard.
Mae’r casgliad yn cynnwys caneuon gan nifer o fawrion y sin werin Gymraeg, ac yn gyfle i ddathlu traddodiadau gwerin Cymru trwy gyfuno sgyrsiau difyr a thraciau hen a newydd gyda pherfformiadau byw, cyffrous.
Mae’r caneuon yn cynnwys traciau offerynnol gan ddewines y delyn deires, Llio Rhydderch, a’r ffidlwr Huw Roberts a’i fab Sion ar y gitâr.
Mae hefyd yn cynnwys caneuon hiraethus gan Einir Humphreys tra bod Twm Morys a Gwyneth Glyn yn rhoi gwedd newydd ar ddwy hen ffefryn.
Caneuon Ceredigion yw arbenigedd Cynefin a dyma gawn ganddo ar y casgliad yma ac yna Mair Tomos Ifans yn rhoi ei stamp ei hun ar ddwy ffefryn personol ganddi.
Mae deuddeg o draciau ar y casgliad newydd a phob un wedi eu recordio a’u perfformio mewn arddull ac awyrgylch gartrefol a chynnes, sy’n arddangos didwylledd a phrydferthwch ein caneuon a’n halawon Cymreig.
Dyma un o’r traciau, sef ‘Troi’r Wythnos yn Flwyddyn’ gan Twm Morys a Gwyneth Glyn:
Artist: Lisa Pedrick
Ar ôl cwpl o flynyddoedd gweithgar yn 2020 a 2021 mae’n dda gweld Lisa Pedrick yn cynnal momentwm ar ddechrau 2022 gyda sengl newydd sydd allan heddiw.
Unwaith eto mae’n cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd amryddawn a gwych Shamoniks ar y trac ‘Seithfed Nef’. Bu i’r ddau gyfuno’n llwyddiannus wrth i Shamoniks ail-gymysgu sengl Lisa, ‘Dim Ond Dieithryn’, llynedd.
“Agorwch lenni’r lolfa led y pen” yw cyngor y prifardd Hywel Griffiths yn ei gerdd ‘Ofn’, a dyna’n union sydd angen i chi wneud wrth wrando ar gân newydd yma. Mae’r gerdd benodol honno’n arwyddocaol hefyd gan ei bod yn ddylanwad ar y gân newydd yma gan Lisa.
Tywyllwch a thristwch terfysgoedd Mayhill, Abertawe, ym mis Mai 2021, ynghyd â neges gref Griffiths yn erfyn arnom i herio’r drefn yn ei gerdd Ofn, oedd ysbrydoliaeth y gantores wrth ysgrifennu’r geiriau a chyfansoddi alaw y sengl newydd, ‘Seithfed Nef’.
Mae’n amlwg bod y digwyddiadau hyn wedi dylanwadu’n fawr ar y gantores o Waun-Cae-Gurwen.
“Mae bywyd yn anodd ac yn rhyfedd i bawb ar hyn o bryd” meddai Lisa.
“Adeg y terfysgoedd yn Abertawe roedd tensiynau’n uchel. Roedd pobl yn dadlau byth a beunydd ar y cyfryngau cymdeithasol am Covid, un stori drist ar ôl y llall ar y newyddion ac roedd gweld cymuned fel Mayhill, sydd ddim yn bell o adref, yn mynd ar chwâl yn hynod o drist a gofidus.
“Edrychais i ar fy mhlant ac fe wnaethon nhw roi cwtsh i fi. Rwyf hapusaf yn yr eiliadau yna gyda’r plant, ac yn y foment yna roedd goleuni. Plant a phobl ifanc yw’n gobaith ni bod pethau’n gallu gwella.
“Daeth y geiriau a’r alaw ynghyd ar ôl i fi glywed y trac gan Sam [Humphreys – Shamoniks]. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r trac ac roedd yn gweddu’n berffaith i’r hyn ro’n i eisiau ei gyfleu gyda ‘Seithfed Nef’.”
Cipiodd EP Lisa’r wobr am y Record Fer Orau yng Ngwobrau’r Selar, 2021, ac mae wedi mwynhau cydweithio gydag artistiaid eraill ers hynny, gan gynnwys Geth Tomos ar y trac ‘Hedfan i Ffwrdd’.
Mwy i ddod gan Lisa eto yn 2022 gobeithio!
Un Peth Arall: Rhyddhau sengl newydd Gwenno
Mae Gwenno wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Llun diwethaf, 28 Chwefror.
‘An Stevel Nowydh’ ydy enw’r trac newydd, sydd yn yr iaith Gernyweg.
Dyma’r blas cyntaf o albwm newydd Gwenno, Tresor, fydd allan ar 1 Gorffennaf eleni.
Mae Fideo wedi’i gyhoeddi i gydfynd â’r sengl newydd ac mae modd gwylio hwn ar sianel YouTube Gwenno, neu cliciwch y botwm play isod ynde.