Gig: Gŵyl Fel ‘na Mai – Crymych – 07/05/22
Da gweld y calendr gigs yn edrych yn eithaf llawn penwythnos yma, gyda digon o opsiynau i chi.
Nos Wener i ddechrau, ac mae N’famady Kouyate a Danielle Lewis yn perfformio yn un o leoliadau gigs prysura’ Cymru ar hyn o bryd, Tŷ Tawe. Yn y gogledd, mae cyfle i chi ddal Plu a Rhys Gwynfor y chwarae yn Neuadd Llangower ger Y Bala, ac yn y De Orllewin, bydd Al Lewis a Gwenno Morgan yn Theatr Mwldan, Aberteifi.
Mae Al Lewis a Gwenno Morgan yn symud ymlaen i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, nos Sadwrn – rhain yn rhan o daith Te yn y Grug Al wrth gwrs.
Digwyddiad mwyaf diddorol y penwythnos ydy’r ŵyl newydd sbon sy’n digwydd yng Nghrymych ddydd Sadwrn, a gŵyl gyntaf yr haf eleni, Gŵyl Fel ‘na Mai. Llwyth o artistiaid yn perfformio yn hon ar ddau lwyfan gan gynnwys Mei Gwynedd, Dafydd Iwan, Los Blancos, Bwncath, Plu ac Einir Dafydd.
Mae ‘na un ŵyl arall i’w chrybwyll penwythnos yma wrth gwrs, sef FOCUS Wales yn Wrecsam. Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar hon, dim ond cadarnhau bod llu o artistiaid gwych yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol ledled y dref gan gynnwys Gwenno, Georgia Ruth, Adwaith, Kizzy Crawford, Bandicoot a Sister Wives i enwi dim ond rhai o’r artistiaid Cymraeg neu ddwy-ieithog.
Cân: ‘Yr Enfys’ – Griff Lynch
Da gweld Griff Lynch yn ôl gyda sengl newydd fel rhan o’r gyfres i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
‘Yr Enfys’ ydy enw sengl unigol ddiweddaraf Griff…
“Mae ‘Yr Enfys’ yn gân sy’n dweud stori merch o’r enw Eleri, sy’n ceisio cyrraedd man gwyn man draw, ac yn chwilio am drysor o dan yr enfys”, eglura Griff.
“Roeddwn i’n awyddus i greu cân mewn byd dychmygol, a dweud stori ysgafn. O fewn y stori, mae ’na fymryn o wers, ond does dim rhaid edrych allan amdano, dim ond mwynhau’r ‘hooks’!”
Bydd ‘Yr Enfys’ ynghyd â gweddill y traciau wythnosol yma gan I KA CHING, yn cael eu rhyddhau fel cyfanwaith aml-gyfrannog ar record feinyl dwbl ar 20 Mai dan yr enw ‘I KA CHING – 10’.
Record: Melyn – Adwaith
Rydan ni’n ffans mawr o Adwaith yma yn Y Selar, a does dim angen llawer o esgus arnom ni i siarad amdanyn nhw!
Mae ‘na reswm eithaf da i gynnwys ei halbwm fel ein dewis o record Pump i’r Penwythnos yr wythnos yma cofiwch, sef bod Melyn bellach ar gael i’w phrynu ar ffurf feinyl unwaith eto.
Melyn oedd albwm cyntaf y triawd o Gaerfyrddin, ac fe’i rhyddhawyd yn wreiddiol yn Hydref 2018, gan ennill teitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019.
Gwerthodd y rhediad cyntaf o’r record bob copi o fewn pythefnos, ac mae’n siŵr fod unrhyw un na lwyddodd i fachu copi ar y pryd wedi bod yn cicio eu hunain ers hynny! O’r diwedd, mae cyfle iddynt gael eu bachau ar gopi feinyl gan fod y grŵp, a’u label Recordiau Libertino, wedi llwyddo i wasgu rhediad newydd o’r record.
Fel y gwyddoch mae’n siŵr, mae’r diwydiant cerddoriaeth byd-eang wedi gweld oedi hir yn y broses o gynhyrchu feinyl yn ddiweddar. Mae’r fersiwn newydd ar gael ar feinyl lliw melyn, sydd wrth gwrs yn addas iawn.
Dyma un o draciau gorau’r albwm, ‘Y Diweddaraf’
Artist: Achlysurol
Un o’r bandiau hynny sydd wedi bod braidd yn anlwcus oherwydd y cyfnod clo ydy Achlysurol.
Bu i’r grŵp ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Sinema’ ar ddiwedd 2019, ac roedd yn ymddangos fel petaent yn barod i wneud eu marc yn ystod 2020…ond yna wrth gwrs, cyrhaeddodd Covid!
Fe wnaethon nhw ryddhau sengl arall ym mis Mai 2020, sef ‘(Dafydd) Ale Dydd Sul’, ond ers hynny digon tawel fu’r triawd o Arfon.
Ond, ddwy flynedd yn ddiweddarach maen nhw nôl gyda sengl ddwbl newydd sydd allan ar label JigCal.
‘Golau Gwyrdd’ ydy enw’r prif drac, gyda ‘Sinema II’ yn drac bonws.
Mae ‘Sinema II’ yn fersiwn piano o’r sengl ‘Sinema’. Addaswyd y trac gwreiddiol ar gyfer gig acwstig oedd i fod i ddigwydd dros y Nadolig llynedd – yn anffodus fe ohiriwyd y gig oherwydd Covid ond bydd yn cael ei ail drefnu’n fuan. Dydyn nhw’n sicr ddim yn cael lot o lwc efo’r busnes Covid ma!
Mae ‘Golau Gwyrdd’ wedyn yn gân am yr ysfa i ddianc i dy fyd bach dy hun a gadael pawb a phopeth yn y gorffennol.
Yn newyddion da pellach ydy bod y band yn paratoi am haf prysur o gigio, gydag ymddangosiadau yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon Sesiwn Fawr Dolgellau yn ddau ddigwyddiad o bwys sydd wedi’u cadarnhau.
Achlysurol ydy Aled Emyr ar y gitâr fas a llais, Ifan Williams ar y gitâr ac Ifan Emyr ar y drymiau.
Mae gan aelodau’r band brofiad helaeth o chwarae mewn bandiau ac i artistiaid gwahanol o Gymru. Chwaraeodd Ifan Emyr gydag Eitha Tal Ffranco ac Alun Tan Lan yn ogystal â bod yn gyn aelod o Tamarisco gydag Aled Emyr.
Bu Ifan Williams mewn sawl band cyn ymuno ag Achlysurol hefyd – mae’n gyn aelod o Hud, Men Among Kings and Masters in France.
Yn ôl y band, bydd mwy o senglau’n dilyn dros yr haf, ac albwm i ddilyn yn y dyfodol agos hefyd!
Un Peth Arall: Penwythnos ‘Diolch Datblygu’
Mae ‘na sawl stori am bobl yn cael eu hysgogi i ddysgu Cymraeg diolch i gariad tuag at gerddoriaeth un o’n bandiau neu artistiaid. Mae’r esiamplau yma’n cynnwys ffans o Super Furry Animals, Catatonia a Gorky’s, ond efallai mai’r un band sydd wedi ysgogi mwy na neb i fynd ati i ddysgu’r iaith ydy Datblygu.
Cyn y Nadolig fe wnaethon ni dynnu sylw at dudalen Facebook newydd o’r enw ‘Datblygu your Welsh’ oedd wedi’i sefydlu gan un o gyfeillion Y Selar, Yr Eidales, Gisella Albertini. Grŵp oedd hwn yn benodol i bobl oedd wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg diolch i Datblygu, oedd jyst yn ffans o’r grŵp neu oedd eisiau gwybod mwy amdanyn nhw.
Nawr, mae rhai o aelodau’r dudalen Facebook hwnnw wedi mynd ati i drefnu penwythnos preswyl arbennig ym mis Mehefin eleni er mwyn dathlu a diolch i’r grŵp arloesol o Aberteifi.
Bydd y penwythnos yn digwydd ar 3-5 Mehefin yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, gyda’r nod o ddiolch i Datblygu am gyflwyno’r iaith Gymraeg i ddysgwyr neu siaradwyr newydd.
Bu’r Selar yn sgwrsio gyda phrif drefnydd Penwythnos Diolch Datblygu, sef Marcus Whitfield er mwyn dysgu mwy am y digwyddiad...
“Ry’ ni’n gobeithio bydd trawstoriad da o bobl sy’n dysgu yn ogystal â siaradwyr Cymraeg yn dod i’r penwythnos a phwy â ŵyr, rhai sy’ erioed wedi clywed cerddoriaeth Datblygu o’r blaen” meddai Marcus wrth Y Selar.
“Ar y nos Wener bydd Emyr o gwmni Ankst yn cynnal noson ffilmiau, pnawn dydd Sadwrn bydd yna sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Pat Morgan, cyd aelod o’r grŵp ac yn y nos mi fydd gig Datblygu. Ar y dydd Sul mi fydd Malcolm Gwyon yn arwain taith o gwmpas hoff fannau Dave yn Aberteifi.”
“Dw i’n meddwl bod pobl yn hoffi sŵn y gerddoriaeth [Datblygu] ac felly’n cael eu hudo mewn i’r geiriau” eglura.
“Mae nifer o’r caneuon hefyd yn eitha’ araf, felly mae hyn yn help mawr i ddysgwyr.
Nid caneuon ‘neis neis’ yw’r caneuon yn bennaf a dw i’n meddwl bod yr agwedd mae’r grŵp yn cyfleu yn apelio hefyd at deip gwahanol o bobl.”
Er mwyn bachu lle ar Benwythnos Diolch Datblygu, ebostiwch – contactpaned@gmail.com. Mae modd mynd i’r digwyddiadau unigol yn ystod y penwythnos hefyd.