Pump i’r Penwythnos – 8 Ebrill 2022

Gig: Gig Cymru Wcráin – Pafiliwn Sioe Môn, Gwalchmai – 09/04/22

Mae ‘na un gig sy’n neidio allan ar y calendr penwythnos yma, sef gig Cymru Wcráin yn Ynys Môn

Bryn Fôn sy’n gyfrifol am drefnu’r gig yma er mwyn cefnogi a chodi arian at y rhai sy’n dioddef yn Wcráin o ganlyniad i’r rhyfel yno ar hyn o bryd. 

Chwarae teg, mae wedi llwyddo i recriwtio lein-yp trawiadol o artistiaid i gefnogi’r achos sy’n cynnwys  Band Pres Llareggub, Morgan Elwy, Alffa, Elin Fflur, Meinir Gwilym, Phil Gas a’r Band, Bwncath, Dienw ac wrth gwrs Bryn Fôn a’r Band. 

Mae tocynnau’n brin, ond roedd rhai ar ôl ar-lein wrth i ni baratoi’r eitem yma! 

 

Cân:  ‘Chwalu’r Hud’ – Sengl Serol

Grêt i weld cynnyrch newydd gan Serol Serol fel rhan o’r casgliad o diwns i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.

‘Chwalu’r Hud’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp o Ddyffryn Conwy a dyma’r trac newydd cyntaf ganddyn nhw ers sawl blwyddyn bellach.  

Un o brosiectau Llŷr Pari a George Amor ydy Serol Serol, gyda’r ddwy gyfnither – Mali Siôn a Leusa Rhys yn canu i’r band.

Mae ‘Chwalu’r Hud’ yn drac offerynnol sci-fi, dystopaidd sy’n llwyddo i hypnoteiddio’r gwrandawyr gyda’i themâu ailadroddus, ac na fyddai allan o’i le yn gefndir i olygfeydd ar raglen fel Stranger Things. 

Wrth i’r trac dynnu tua’r terfyn, clywn Mali yn darllen y gerdd ‘Y Werin’ gan T. E. Nicholas sy’n cynnwys y geiriau ‘chwalu’r hud’, ac mae’r cyfan yn  ychwanegu rhagor o ias tywyll i lawr y madruddyn.

Gwrandewch a mwynhewch: 

 

Record: ‘Gweler ein Gofid’ – Sister Wives

Mae’r fersiwn newydd o EP Sister Wives allan ers cwpl o wythnosau bellach, ond mae hwn yn fersiwn arbennig iawn yn ein tyb ni. 

Bydd unrhyw un sy’n dilyn Pump i’r Penwythnos yn gwybod ein bod ni wrth ein bodd â feinyl yma yn Selar HQ, ac mae’r fersiwn newydd o’r EP allan ar ffurf record feinyl 12” – lush. 

Rhyddhawyd yr EP yn wreiddiol gan y grŵp o Sheffield ym mis Tachwedd 2020, a hynny ar y label Do It Thisen.

Mae’r fersiwn newydd yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Libertino, ac yn cynnwys y tri thrac gwreiddiol ar ochr 1 y record newydd, yn ogystal ag ailgymysgiad newydd o bob un ar ochr 2 yr EP. 

Dylech chi fod yn gwybod dipyn am Sister Wives erbyn hyn, ond mae’n werth bwrw golwg nôl ar ein darn estynedig gyda nhw fis Chwefror diwethaf i gael mwy o’r hanes. 

Mae’r grŵp wrth eu bodd yn cydweithio, ac er mwyn parhau â’r ysbryd hwnnw pan oedd teithio’n amhosib, maent wedi gofyn i dri artist ail-gymysgu traciau’r EP gwreiddiol ar gyfer y fersiwn newydd yma. 

Ani Glass sydd wedi ailgymysgu ‘Wandering Along / Rwy’n Crwydro’, Gnoomes (Rocket Recordings) sydd wedi creu’r fersiwn newydd o ‘The Sun Will Come / Mi Ddaw yr Haul’, ac mae Mandy, Indiana wedi ail-gymysgu ‘Gweler ein Gofid / See Our Grief’. 

“Rydym wastad wedi bod eisiau ailgymysgu ein tiwns” meddai Sister Wives

“… felly pan ddaeth sôn am ailgyhoeddiad roedden ni’n gwybod ei bod hi’n amser gofyn i rai o’n hoff artistiaid presennol weithio eu hud! Roedden ni eisiau sain gwahanol ar bob un o’r caneuon ac yn gwybod y byddai Ani Glass, Mandy, Indiana a Gnoomes yn creu tirwedd ddiddorol wrth ymyl ei gilydd ar y record. 

“Mae wedi bod yn gymaint o bleser i ni glywed beth mae’r artistiaid ysbrydoledig hyn wedi’i greu o’n EP.”

Rhediad cyfyngedig o’r EP gwreiddiol a ryddhawyd yn 2020 gyda phob copi’n gwerthu’n syth bin. 

Mae’r fersiwn newydd allan ar record feinyl melyn llachar gyda’r gwaith celf wedi’i greu gan aelod y band, Lisa O’Hara, ac yn cynnwys lluniau o Fynydd Parys ar Ynys Môn. Laura Merrill sydd wedi tynnu’r lluniau hyn. 

Dyma’r fersiwn wedi’i ail-gymysgu gan Ani Glass o’r teitl drac: 

 

Artist: Sage Todz

Enw fyddai wedi bod yn ddigon anghyfarwydd i’r rhan fwyaf rhyw fis yn ôl mae’n siŵr, ond mae Sage Todz wedi ffrwydro i amlygrwydd ers hynny diolch yn bennaf i un clip fideo bach a gyhoeddodd ar Twitter. 

8 Mawrth oedd y dyddiad pan gyhoeddodd yr artist ran o drac Cymraeg arddull ‘drill’ ar Twitter gan ddenu ymateb anhygoel.

Nawr mae wedi rhyddhau’r trac llawn, ‘Rownd a Rownd’, fel sengl ynghyd â fideo sydd wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C.  

Rapiwr 22 oed o Benygroes ydy Sage Todz, sef enw perfformio’r gŵr ifanc Toda Ogunbanwo. 

Er mai ‘Rownd a Rownd’ sydd wedi ei amlygu i gynulleidfaoedd iaith Gymraeg, mae’r rapiwr eisoes wedi rhyddhau EP o ganeuon Saesneg ers mis Chwefror eleni dan yr enw Sage Mode. 

Fel llwyth o bobl eraill, rydan ni wrth ein bodd â ‘Rownd a Rownd’ ac yn methu aros i glywed mwy gan yr artist ifanc. 

Aled Wyn Jones ac Andy Pritchard sy’n gyfrifol am y fideo i Lŵp, a dyma fo: 

 

Un Peth Arall: Angel Hotel yn ymuno â Côsh

Roedden ni wedi dotio’n llwyr gyda’r fersiwn newydd o ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ gan Super Furry Animals a ymddangosodd ar gasgliad elusennol ‘Corona Logic’ llynedd. 

Grŵp newydd, Angel Hotel, oedd yn gyfrifol am y cyfyr o un o ganeuon Cymraeg enwocaf SFA, felly roedd o ddiddordeb mawr i ni pan gyhoeddodd label Recordiau Côsh wythnos diwethaf eu bod wedi arwyddo’r grŵp. 

Prosiect diweddaraf y cerddor adnabyddus Siôn Russell Jones ydy Angel Hotel. Mae Siôn yn gyfarwydd iawn i ni fel artist unigol, ond hefyd fel un hanner y  ddeuawd Ginge a Cello Boi. 

Aelodau erail y grŵp ydy Carys Elen Jones (bas a llais cefndir), Barnaby Southgate (keytar) a Jordan Dibble (dryms). 

Y newyddion cyffrous pellach ydy bod eu sengl gyntaf ar Côsh, ‘Superted’, yn cael ei rhyddhau wythnos nesaf. 

Am y tro, dyma’r fersiwn wych honno o ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ unwaith eto: