Pump i’r Penwythnos – 9 Medi 2022

Gig: Tapestri @ Galeri Caernarfon, Sadwrn 10 Medi

Does dim llwyth o gigs yn digwydd penwythnos yma, ond mae cyfle i chi ddal deuawd ardderchog Tapestri yng Nghaernarfon nos Sadwrn.

Tapestri ydy partneriaeth Lowri Evans a Sera Zyborska. Ers ffurfio ar ddechrau 2020 maen nhw wedi rhyddhau cyfres o senglau gyda’r ddiweddaraf, ‘Atgofion’, yn ymddangos fis Mehefin eleni

Roedd y ddwy yn perfformio yn Neuadd Goffa Trefdraeth yn ardal leol Lowri nos Iau, ac mae ail gyfle o’r penwythnos i’w gweld nhw yn nhref gartref Sera, Caernarfon, nos fory. 

Cân: ‘Sudd’ – Adwaith

Mae Adwaith wedi cael tipyn o haf a does dim amheuaeth fod y triawd o Gaerfyrddin yn mynd o nerth i nerth. 

I goroni’r haf, maen nhw wedi penderfynu rhyddhau un sengl fach arall, sef ‘Sudd’. 

Mae ‘Sudd’ yn ymddangos ar albwm diweddaraf Adwaith, Bato Mato, a ryddhawyd ddechrau mis Gorffennaf. 

Mae’n dilyn dwy sengl flaenorol o’r albwm a ryddhawyd ganddynt yn gynharach yn y flwyddyn sef ‘Eto’ ym mis Chwefror ac ‘Wedi Blino’ ym mis Mai. 

Efallai bydd rhai yn gweld  rhyddhau sengl arall ar ôl rhyddhau’r albwm ychydig yn anarferol, ond mae’n debyg bod ‘Sudd’ wedi datblygu i fod yn dipyn o ffefryn ymysg cynulleidfaoedd gigs Adwaith dros yr haf. Un o’r gigs lle roedd ‘Sudd’ yn uchafbwynt oedd hwnnw yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd – set a gafodd ei ganmol i’r cymylau gan ohebydd yr NME, Sophie Williams,  oedd yno.

“…..ni fyddai’n anghywir credu y bydd eu perfformiad angerddol yn cael ei gydnabod yn fuan fel trobwynt i gerddoriaeth Gymraeg” meddai Williams. 

“Mae Sudd yn ymwneud â meithrin perthnasoedd a’u gwylio’n tyfu” eglura’r band am y trac.

“Roedden ni eisiau sgwennu cân llawn hwyl a sbri.” 

Artist: Elfed Saunders Jones

Pwy ydy Elfed Saunders Jones? Wel, dyna’r cwestiwn mawr ynte! 

Nid lle Y Selar ydy datgelu pwy yn union ydy’r cerddor dirgel oedd, yn ôl label recordiau Klep Dim Trep, yn creu operâu roc Cymraeg tua dechrau’r 1980au. 

Rhywsut, mae’r label yn parhau i ddarganfod recordiau coll gan y cymeriad hynod yma, ac maen nhw newydd ryddhau ail albwm o ganeuon ganddo o’r opera roc Ar Hyd i Bawb a Fynno ganddo.  

Teg dweud bod yr albwm, fel yr opera roc mae’n siŵr, yn un epig gyda 24 trac gan y cymeriad sydd hefyd wedi ymddangos fel rhan o’r band tafod ym moch Saron yn y gorffennol. 

Dyma’r record ‘coll’ diweddaraf i’w ddarganfod gan Klep Dim Trep ac mae’n ddilyniant i opera roc arall Elfed Saunders Jones, ‘Gadewaist’, a ryddhawyd gan y label yn 2020 ac oedd ar restr fer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eisteddfod Amgen 2021. 

Yn ôl y chwedl Ar Hyd i Bawb a Fynno yn adrodd hanes cau chwarel yng ngogledd Cymru. 

“…dyma sioe sy’n cyfuno lleoliad tra chyfarwydd i ni’r Cymry – diwydiant a diwylliant y chwarel – gyda dylanwad ffilmiau cowbois Eidalaidd o’r 60au” meddai Elfed Saunders Jones.

Mae Ar Hyd i Bawb a Fynno allan yn ddigidol ar safle Bandcamp Klep Dim Trep heddiw gyda nifer cyfyngedig o gopïau ar ffurf casét ar gael i’w prynu hefyd. 

Dyma drac teitl y record, a’r opera roc, sy’n cloi’r casgliad:

 

Record:  EP Newydd Static Inc

Fe roddodd Y Selar beth sylw i’r grŵp roc o Gaerdydd, Static Inc, yn 2020 wrth iddyn nhw ryddhau eu cryno albwm cyntaf, a da gweld eu bod nhw nôl gydag EP newydd. 

Ryddhawyd y record fer 6 trac Beth Nawr? yn mis Hydref 2020 

Nawr mae’r triawd yn ôl gydag EP 4 trac newydd o’r enw ‘Brithgofion’ sydd allan yn ddigidol ar Bandcamp y band ynghyd ag ar lwyfannau eraill. 

Wrth sgwrsio â Dan Edwards, gitarydd a chynhyrchydd Static Inc, daw i’r amlwg fod y caneuon sydd ar y record fer newydd o gwmpas ers cryn dipyn o amser. 

“Y syniad tu nôl yr EP oedd i rhoi clo ar ein cam cyntaf fel band trwy ail recordio a gorffen caneuon o pryd roedden ond yn blant, yn ôl yn 2013” meddai Dan wrth Y Selar.

“Yn rhannol dros y cyfnod clo, cafodd popeth ei ail-drefnu ac ail recordio gyda’r wybodaeth rydym wedi casglu dros ddegawd o greu cerddoriaeth, ac ysgrifennwyd geiriau newydd i fynd ar syniadau a oedd yn wreiddiol yn offerynnol.” 

Dyma gasgliad bach neis arall gan y grŵp sy’n amlygu eto sut mae eu hamgylchedd ym mhrifddinas Cymru’n dylanwadu ar eu cerddoriaeth. 

‘Reykjavik’ ydy trac agoriadaol yr EP:

Un Peth Arall: ‘Pwy Sy’n Galw? @ Maes B

Mae Lŵp, S4C, wedi dechrau llwytho caneuon o setiau bandiau Maes B ar ei sianel YouTube dros yr wythnos diwethaf. Ymddangosodd y caneuon byw ar raglen uchafbwyntiau Maes B Eisteddfod Tregaron a gafodd ei darlledi ar ddechrau’n mis. 

Maent yn cynnwys tiwns byw gan Eädyth, Adwaith, Y Cledrau a’r ffefryn yma gan Lloydy Lew a Dom James…