Gig: Adwaith @ Le Pub, Casnewydd
Ma Adwaith yn fand cŵl. Ma Le Pub yng Nghasnewydd yn lleoliad cŵl.
Does dim byd i beidio hoffi am y gig yma nos fory felly nagoes!
Cefnogaeth gan The Rotanas a Murder Club – gig da, ewch yno os ydach chi o fewn cyrraedd.
Cân: ‘Mecsico’ – Derw
Mae’r Selar wedi rhoi sylw cyson i Derw dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf wrth i’r grŵp pop siambr o Gaerdydd fynd o nerth i nerth.
Ac mae cyfle pellach i wneud hynny penwythnos yma wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Mecsico’.
Anodd credu mai dyma’r cynnyrch newydd cyntaf gan Derw eleni ar ôl dwy flynedd gynhyrchiol iawn yn 2020 ac 2021, gyda’r EP, Yr Unig Rai Sy’n Cofio, yn cyrraedd ym mis Chwefror 2021 ar ôl cyfres o senglau.
Ysgrifennwyd ‘Mecsico’ yn ystod y cyfnod clo ac mae’n gân am antur a theithio. Mae’r trac yn archwilio’r cyffro o adael i’r meddwl grwydro yn ystod amseroedd llwm, a’r pwysigrwydd o gael gobaith i gadw gafael arno.
Yn ôl y band, ‘Mecsico’ ydy eu trac mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn ac mae’n anodd anghytuno gyda hynny. Yn wir, gellid dadlau mai dyma eu cân orau hyd yn hyn, ac mae’r ffaith ei bod wedi’i dewis fel trac yr wythnos ar BBC Radio Cymru dros yr wythnos diwethaf yn adrodd cyfrolau.
Dechrau’n eithaf araf mae’r trac cyn adeiladu at uchafbwynt sy’n grescendo o offerynnau pres a harmonïau lleisiol.
Mae fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd sydd wedi ei gyfarwyddo gan Jamie Panton sy’n cyfuno hen ffilm, lluniau teuluol a delweddau o’r band. Dyma’r fid:
Artist: Ffatri Jam
‘Pwy di Ffatri Jam?’ dwi’n clywed chi’n gofyn?
Wel, yn gryno, maen nhw’n fand newydd o’r gogledd sy’n paratoi i ryddhau eu sengl gyntaf ar 23 Medi.
Er eu bod nhw’n fand newydd, mae aelodau Ffatri Jam yn rai cyfarwydd sydd wedi bod mewn bandiau eraill yn y gorffennol gan gynnwys Calfari, Y Galw a Terfysg. Ac os ydach chi’n graff, ac wedi bod yn talu sylw’n ofalus, o weld enwau’r grwpiau yna fe fyddwch chi’n gallu dyfalu bod yr aelodau i gyd yn dod o Fôn ac Arfon.
Pedwar o aelodau sydd i Ffatri Jam, gyda Bryn Hughes Williams, prif ganwr Calfari yn eu harwain gyda’i lais pwerus a gitâr rythm.
Sion Emlyn Parry o Fethel sydd ar y drymiau ac yn canu llais cefndir ynghyd ag Aled Siôn Jones o Fae Cemaes ar y prif gitâr llais cefndir hefyd.
Yn cwblhau’r pedwarawd mae William Coles, sydd fel Siôn o Fethel ger Caernarfon, ac ef sydd ar y gitâr fas.
Daeth yr aelodau i adnabod ei gilydd drwy gigio ac wrth rannu llwyfan pan oeddent yn chwarae gyda’u bandiau blaenorol.
Enw sengl gyntaf y grŵp ydy ‘Creithiau’ a hon ydy’r gân gyntaf mewn cyfres o senglau a fydd yn cael eu rhyddhau gan Ffatri Jam dros y misoedd nesaf wrth iddynt baratoi at ryddhau eu EP cyntaf yn Ebrill 2023.
Mae’r sengl eisoes wedi dechrau denu sylw gan orsafoedd radio amrywiol yn UDA ac yn y DU ac mae wedi’i chwarae am y tro cyntaf ar Radio Cymru wythnos yma gan Lisa Gwilym.
Yn ddifyr iawn hefyd, mae’r band wedi trefnu bod y trac yn cael ei chwarae yn y stadiwm adeg gemau CPD Wrecsam hefyd gyda chyfle cyntaf i’w chlywed ar y Cae Ras wrth i Wrecsam herio Torquay United ar ddydd Sadwrn 24 Medi.
Dyma ‘Creithiau’:
Record: Y Capel Hyfryd – Plant Duw
Albwm o’r archif sy’n cael ein sylw fel dewis o record wythnos yma, ac mae’n glasur yn ein tyb ni.
Rhyddhawyd Y Capel Hyfryd gan Plant Duw yn wreiddiol yn 2008 a dyma oedd cyfanwaith cyntaf y grŵp gwych a gwallgof yma o Fangor. Wrth gwrs, mae llawer wedi newid ers 2008 – ar yr hen CD y rhyddhawyd yr albwm bryd hynny, a nes wythnos diwethaf, doedd o ddim ar gael yn ddigidol.
Ar y pryd, ymhell cyn iddo ddod yn gynhyrchydd parchus ar Radio Cymru, roedd Dyl Mei yn rhedeg stiwdio recordio (lot llai parchus!) yng Ngarndolbenmaen ac roedd yn gyrchfan ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau cŵl y cyfnod ac roedd Plant Duw yn sicr yn ffitio i’r categori hwnnw.
Label Recordiau Slacyr oedd yn gyfrifol am ryddhau’r albwm yn wreiddiol, ond yn fuan wedyn daeth y label hwnnw i ben.
Yn ffodus iawn, mae un o aelodau Plant Duw, Rhys Martin, yn aelod o’r band Ystyr erbyn hyn a hwythau wedi ffurfio label Curiadau Ystyr a nhw sydd wedi penderfynu mai’r dyma’r amser i ail-ryddhau’r albwm yn ddigidol am y tro cyntaf.
Dywed y label eu bod yn falch o gael ail-ryddhau yr hen ffefryn yma ar-lein am y tro cyntaf, gan ddod ag atgofion melys yn ôl i rai gwrandawyr o gigs tryblithiog yn llawn pync ac enaid, cariad, sŵn a chynnwrf.
Os ydach chi isio gwybod mwy am yr albwm, beth am fwrw golwg nôl ar gyfweliad yr enwog Barry Chips gyda’r band yn rhifyn Hydref 2008 o gylchgrawn Y Selar. Yn rhyfedd iawn, mae’r rhifyn hwnnw hefyd yn cynnwys adolygiad o albwm cyntaf Cyrion…sef prosiect blaenorol un arall o aelodau Ystyr, Rhodri Owen. Cyd-ddigwyddiad bach difyr ynde!
Un Peth Arall: Fideo Ynys
Fideo ar gyfer y trac ‘Newid’ gan Ynys ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Ynys ydy prosiect unigol Dylan Hughes, gynt o’r band seicadelig Race Horses. Cafodd ei gân ddiweddaraf, ‘Newid’, ei dylanwadu arni gan gasgliad amlgyfrannog jazz Etheopiaidd, gyda Malat Astate, The Byrds a Ennio Morricone yn ddylanwadau penodol eraill.
Mae’r gân am bobl a lleoliadau’n newid, gydag adeiladwaith hyll modern yn aml yn cymryd lle sefydliadau annibynnol a diwylliannol bellach yn y byd sydd ohoni.
Ren Faulkner sy’n gyfrifol am y fideo sydd wedi’i greu ar gyfer Lŵp, mwynhewch: