Mae’r grŵp Rogue Jones, wedi cyhoeddi bod modd rhag archebu eu halbwm newydd erbyn hyn.
‘Dos Bebés’ ydy enw ail albwm y band sy’n cael eu harwain gan y pâr priod Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan, ac maent eisoes wedi datgelu y bydd yn cael ei ryddhau ar 3 Mawrth 2023 ar label Recordiau Libertino.
Erbyn hyn mae modd rhag archebu’r albwm, fydd allan ar ffurf CD a feinyl, ar wefan Libertino. Mae cynnig ‘bwndel’; arbennig i brynu’r record ar y ddau ffurf ynghyd â chrys T arbennig Dos Bebés.
Dyma’r fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Rogue Jones, ‘Triongl Dyfed’: