Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi rhyddhau eu rhestr hir ar gyfer y wobr eleni.
Cynhelir y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn flynyddol ers 2010 ac mae’n gwobrwyo’r albwm gorau o’r flwyddyn gan artist Cymreig. Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Gruff Rhys, Gwenno, Meilyr Jones ac Adwaith.
Kelly Lee Owens a’i halbwm ‘Inner Song’ enillodd y wobr yn 2021 gan gipio’r teitl gwerthfawr a gwobr ariannol o £10,000.
Mae’r trefnwyr wedi ffurfio rheithgor o arbenigwyr a phobl weithgar yn y diwydiant Cerddoriaeth yng Nghymru i lunio rhestr hir o albyms cymwys ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Mae unrhyw record hir a ryddhawyd gan artist o Gymru rhwng 1 Awst 2021 a 31 Gorffennaf 2022 yn gymwys ar gyfer y wobr eleni.
Fel rheol, mae’r rhestr hir o albyms yn cael ei dorri lawr i restr fer ac mae panel o feirniaid gwahanol bob blwyddyn sy’n penderfynu ar un enillydd.
Fel rhywbeth bach gwahanol, ac fel ychydig bach o hwyl, mae’r trefnwyr wedi rhyddhau’r rhestr hir i bawb gael gweld ac i’r cyhoedd gael cyfle i fwrw pleidlais dros eu hoff albyms. Maent yn gofyn i bobl bleidleisio dros eu 5 hoff record o’r rhestr, yn eu trefn (h.y. rhif 1 = ffefryn).
Mae rhyddhau’r rhestr hir hefyd yn gyfle i sicrhau nad oes unrhyw albyms cymwys ar goll o’r rhestr ac mae’r trefnwyr yn galw ar artistiaid i roi gwybod os ddylai eu record fod yno.