Mae rhifyn newydd o’r cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, Y Selar, wedi’i gyhoeddi ac ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol.
Rhifyn mis Mawrth 2022 o’r cylchgrawn ydy hwn ac y grŵp Papur Wal sydd ar glawr y rhifyn. Mae cyfweliad gyda’r grŵp am eu halbwm cyntaf, ‘Amser Mynd Adra’, rhwng cloriau’r cylchgrawn ac mae hynny’n briodol gan mai hwy hefyd oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar, sy’n cael sylw yn y rhifyn, eleni.
Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda’r cerddor ifanc Mari Mathias am ei halbwm cyntaf, ‘Annwn’.
Rhwng cloriau’r rhifyn newydd ceir hefyd ‘Sgwrs Sydyn’ gyda Breichiau Hir, cyfle i ddysgu mwy am ddylanwadau Tara Bandito yn ‘Pwy? Beth? Lle? Pryd? Pam?’ a sylw arbennig i skylrk., Kathod a Klust. yn eitem ‘Newydd ar y Sin’.
Ceir hefyd golofn wadd gan Lauren Moore, sylw i bodlediad ‘Hyfryd Iawn’ ac adolygiadau o’r prif gynnyrch cerddorol Cymraeg diweddar.
Mae copïau o’r Selar wedi’u dosbarthu’n eang i ganolfannau ledled Cymru, yn ogystal ag i ysgolion, colegau a phrifysgolion. Mae hefyd modd darllen fersiwn digidol y cylchgrawn ar-lein.
Gwerth nodi hefyd mai hwn ydy rhifyn olaf Gwilym Dwyfor fel Golygydd y cylchgrawn ar ôl deng mlynedd wrth y llyw.