Mae Melin Melyn wedi rhyddhau eu EP newydd ers dydd Gwener diwethaf, 30 Medi.
‘Happy Gathering’ ydy enw’r record fer newydd sydd wedi’i rhyddhau’n annibynnol gan y grŵp chwe aelod gwych a gwallgof.
Mae’r EP newydd wedi’i gymysgu gan Llŷr Pari ac wedi’i beiriannu gan Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard).
Mae Happy Gathering’ yn arddangos gwaith mwyaf enigmatig Gruff Glyn, prif ganwr a chyfansoddwr y band, hyd yma.
A hwythau’n cael eu hadnabod fel un o’r bandiau Cymreig mwyaf lliwgar ar hyn o bryd, nid yw’n syndod bod yr EP yn cyffwrdd ar gerddoriaeth syrff roc Hold The Line, a thywysogion Cymreig ar y gân roc-gwerin ‘Nefoedd yr Adar’ a ryddhawyd fel sengl ym mis Gorffennaf eleni.
Mae’n deg dweud bod golwg ddigon amgen o’r byd trwy lygaid Melin Melyn ac mae eu bydysawd cerddorol unigryw yn disgwyl gwrandawyr ‘Happy Gathering’.
Mae dau drac arall ar yr EP, sef y gân roc gyflym ei thempo ‘Two For One’, a’r trac gwlad amgen pruddglwfus, ‘What Was That?’.
Daw’r EP newydd yn dynn ar sodlau sesiwn fyw ar raglen BBC 6Music Marc Riley, a chael eu datgelu fel un o ‘The Great Escape’s First Fifty Acts’ yn ddiweddar. Bu iddynt hefyd dderbyn adolygiadau uchel eu clod am eu set yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni.
Mae ‘Happy Gathering’ yn ddilyniant i EP cyntaf Melyn Melyn, ‘Blomonj’, a ryddhawyd yn haf 2021.
Mae’r EP ar gael yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.
Dyma ‘Nefoedd yr Adar’: