Wedi tipyn o edrych ymlaen, mae’r grŵp o Abertawe, Bandicoot, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf.
‘Black After Dark’ ydy enw record hir newydd y grŵp ac mae’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Libertino.
Er mai caneuon Saesneg sydd ar yr albwm yn bennaf, mae cwpl o draciau Cymraeg yno hefyd gan gynnwys y sengl boblogaidd ‘O Nefoedd!’ a ryddhawyd yn Chwefror 2020.
Mae cryn gyffro wedi bod ynglŷn â’r albwm yma ar ôl i’r grŵp addawol ryddhau cyfres o senglau sydd wedi dal y sylw. Y diweddaraf o’r rhain oedd y sengl ddwbl ‘Fuzzy’ a ‘Monster’ a ryddhawyd ddechrau mis Chwefror.
Bandicoot ydy Rhys Underdown (gitâr, llais, sacsoffon ac allweddellau), Billy Stillman (drymiau), Tom Emlyn (llais, gitâr a’r allweddellau) a Keiran Doe (bas).
Mae albwm 13-trac Bandicoot yn archwilio ac yn arbrofi trwy themâu a genres. Maen nhw’n cyfuno post-punk, alt-rock ac indie. Wedi’u hysbrydoli gan fandiau fel y Plastic Ono Band, Velvet Underground a CAN, mae Abertawe wedi bragu un o fandiau mwyaf lliwgar a diatal y DU.
Roedd lansiad swyddogol yr albwm yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Sadwrn diwethaf gyda’r band yn perfformio’r albwm yn llawn.
Mae’r albwm ar gael yn y mannau digidol arferol, gan gynnwys safle Bandcamp y grŵp.
Dyma’r trac ‘Mynedfeydd’ o’r albwm: