Mae albwm llawn cyntaf Sister Wives allan ar label Recordiau Libertino ers dydd Gwener diwethaf, 28 Hydref.
‘Y Gawres’ ydy enw record hir gyntaf y pedwarawd o Sheffield – teitl a ysbrydolwyd gan safle claddu hynafol ar Ynys Môn, Barclodiad y Gawres.
A hwythau’n fand sydd â diddordeb mawr mewn mytholeg Gymreig, mae’r ffaith fod cewri’n ganolog i lên gwerin y genedl, ond mai anaml y clywir am gewri benywaidd, yn un arwyddocaol.
Cynrychioli’r Gymraeg
Sister Wives ydy Donna Lee (llais/allweddi/synths), Rose Love (llais/bas), Liv Willars (llais/gitâr), Lisa O’Hara (llais/drymiau).
Mae caneuon yr albwm yn gymysgedd o rai sydd â geiriau Saesneg a Chymraeg brodorol Lee, ac er mai yn Sheffield y ffurfiwyd y band, mae Cymru’n bresennol iawn ar draws y record.
Mae hynny’n fwriadol gan ei bod yn bwysig i Lee gynrychioli’r Gymraeg y tu allan i Gymru, gyda’r band yn aml yn gwneud cysylltiadau ag aelodau’r gynulleidfa Gymraeg ac yn dangos i eraill bod canu yn yr iaith yn hyfyw ac ystyrlon.
Dechreuodd pedair aelod Sister Wives eu teithiau cerddorol mewn cylchoedd pync a DIY. Fodd bynnag, mae’r band yn gerbyd ar gyfer arbrofi, cydweithredu a chadw meddwl agored. Mae synau diwydiannol, synth a gitâr yn ffurfio eu sylfaen, tra bod eu lleisiau yn arswydus a harmonig.
“Rydyn ni’n ceisio gwneud i’n cerddoriaeth swnio mor bwerus a chyntefig â phosib,” eglura’r band.
“Mae ysgrifennu cerddoriaeth fel merched yn ein tridegau yn golygu bod gennym ni fwy o brofiad bywyd i’w gyfrannu at ein cyfansoddi, ac rydyn ni’n gefnogol iawn i syniadau ein gilydd. Does dim byd byth allan o’r afael.”
Taith i Fôn yn ysbrydoli
Yn ystod camau cynnar ysgrifennu’r albwm yn haf 2021, ysbrydolwyd y band gan daith i Ynys Môn, lle bu iddynt archwilio’r plasty adfeiliedig, Baron Hill. Roedd yn anhygoel ei weld yn cael ei adennill gan natur, i deimlo bod realiti wedi’i newid yn y lle hwn allan o amser. Maent yn adlewyrchu’r teimlad hwnnw trwy’r trac curiadus, grintiog, ond ar yr un pryd ethereal ‘Baron Hill’.
Yn graidd i ‘Y Gawres’ mae adennill – stampio gofod iddyn nhw eu hunain, menywod, ac unrhyw un sy’n gwthio yn erbyn normau patriarchaidd.
“Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn weladwy fel criw o ferched yn ein tridegau sy’n dal i chwarae gigs a gwneud sŵn, yn hytrach nag encilio i rolau mwy derbyniol yn gymdeithasol a rhoi’r gorau i’n hofferynnau”.
Mae record hir gyntaf Sister Wives yn onest, beiddgar a cherddorol unigryw ac mae allan ar Recordiau Libertino nawr.
Dyma’r teitl-drac: