Rhyddhau albwm Gwilym Bowen Rhys

Mae Gwilym Bowen Rhys wedi rhyddhau ei albwm newydd ers dydd Gŵyl Dewi. 

Enw’r albwm ydy ‘Detholiad o Heb Faledi II’ ac mae’n ddilyniant i’r gyfrol flaenorol, ‘Detholiad o Hen Faledi’ a ryddhawyd yn 2018 gan Gwilym

Dyma bedwerydd albwm y cerddor gwerin poblogaidd o Fethel ac mae’n ffrwyth ymchwil Gwilym i hen eiriau ac alawon baledi sydd wedi mynd yn angof. Ei fwriad ydy dod â’r caneuon traddodiadol yma’n ôl i’r amlwg. 

Ceir amrywiaeth o faledi ar y casgliad gan gynnwys hanes digwyddiadau o bwys (‘Llofruddiaeth Hannah Dafis’ a ‘Galarnad Cwch Enlli’); hysbyseb i’r UDA (‘Dowch i’r America’); moliannau i wrthrychau (‘Y Ddeilen Dybaco’ a ‘Hen Ffon Fy Nain’); a chaneuon direidus am fywyd cymdeithasol cefn gwlad Cymru yn yr oes Fictorianaidd (‘Dwy Ferch Aeth i Garu’).

Mae baledi yn rhan annatod o fywyd gwerin Cymru yn ôl Gwilym. 

“Mae baledi nid yn unig yn elfen bwysig o’n traddodiad cerddorol a barddol ni, mae hefyd yn rhoi darlun o gymdeithas pobl gyffredin yng Nghymru yn y blynyddoedd a fu” meddai Gwilym. 

“Dwi wrth fy modd o gael y cyfle i rannu dipyn bach o ffrwyth fy ymchwil gydag eraill.”

Cafodd y caneuon eu perfformio a’u trefnu gan Gwilym, a’u recordio gan y cynhyrchydd Aled Wyn Hughes dros ddeuddydd yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Gyda geiriau yn elfen bwysig i faledi, ceir cyfieithiadau o’r holl eiriau ar wefan y cerddor gydag esboniadau dwyieithog o gynnwys y caneuon ar daflen sy’n cyd-fynd â’r fersiwn CD. 

 

Label Recordiau Erwydd sy’n rhyddhau’r casgliad ac mae ar gael i’w ffrydio ac i’w brynu ar CD ar safle Bandcamp Gwilym Bowen Rhys. Bydd hefyd ar gael mewn siopau ac ar y llwyfannau digidol arferol eraill yn fuan iawn.

Dyma’r trac ‘Dewch i’r America’: