Mae albwm cyntaf Plant Duw bellach ar gael ar y llwyfannau digidol am y tro cyntaf.
Rhyddhawyd ‘Y Capel Hyfryd’ yn wreiddiol yn 2008 ac yng ngeiriau’r band roedd yn ‘ifanc, yn flêr, yn gyffrous ac yn llawn rhamant ideolegol.
Recordiwyd y casgliad gyda’r cynhyrchydd Dyl Mei yn ei stiwdio yng Ngarndolbenmaen, oedd yn ferw o weithgarwch cerddorol ar y pryd.
Label Recordiau Slacyr oedd yn gyfrifol am ryddhau’r albwm yn wreiddiol, ond yn fuan wedyn daeth y label hwnnw i ben. Label Curiadau Ystyr sydd wedi cymryd yr awenau i ail-ryddhau’r albwm yn ddigidol ac mae ar gael ar y llwyfannau arferol ers dydd Gwener diwethaf, 26 Awst.
Curiadau Ystyr sy’n gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth y grŵp Ystyr, sef band diweddaraf gitarydd Plant Duw, Rhys Martin.
Dywed y label eu bod yn falch o gael ail-ryddhau’r hen ffefryn yma ar-lein am y tro cyntaf, gan ddod ag atgofion melys yn ôl i rai gwrandawyr o gigs tryblithiog yn llawn pync ac enaid, cariad, sŵn a chynnwrf.
Mae’n gyfle hefyd i wrandawyr iau efallai glywed caneuon megis ‘Byth Stopio Chwalu’, ‘Y Ffwl’, ‘Dihiryn y Gwanwyn’ a ‘Byw ar Gwmwl’ (gyda Cate le Bon) am y tro cyntaf.
Dyma fideo cofiadwy y trac gwych, ‘Byth, Stopio, Chwalu’ a wnaed ar gyfer cyfres Bandit ‘stalwm: