Mae’r prosiect cerddorol amgen o Ganolbath Cymru, Sachasom, wedi rhyddhau ei albwm cyntaf.
‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’ ydy albwm cyntaf y cynhyrchydd o Fachynlleth sydd allan ers dydd Gwener 22 Gorffennaf.
Sachasom ydy enw prosiect diweddaraf Izak Zjalič fydd efallai’n gyfarwydd i rai am ei brosiect cerddorol blaenorol, Tai Haf Heb Drigolion. Mae Lewys Meredydd o’r band Lewys hefyd yn perfformio’n fyw gyda Sachasom, yn ogystal â bod yn gyfrifol am waith mastro’r caneuon.
Ffurfiwyd Sachason yn 2019 gyda’r bwriad gwreiddiol o ryddhau’r bîts roedd yn eu creu ar SoundCloud. Yn fuan iawn roedd wedi dod i sylw label Afanc, sy’n cael ei redeg gan Gwion ap Iago (Roughion) a penderfynodd Izak y byddai’n well ryddhau deunydd Sachason trwy’r label hefyd “oherwydd bod mwy o bwyslais ar yr elfen electroneg” meddai.
Mae’r prosiect wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ynghyd â chyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Agor’ yn ddiweddar, wedi’i gynhyrchu gan gwmni Pypi Slysh.
Mae ei albwm cyntaf yn gymysgedd eclectig o beats a grëwyd rhwng 2019-2022. Mae ei gerddoriaeth yn gwneud defnydd o sampyls sy’n ymwneud â’r diwylliant Cymreig ac yn ôl Isak mae’r albwm yn “herio’r sin gerddorol, wrth ehangu a defnyddio’r iaith a diwylliant Gymraeg mewn hip-hop arbrofol.”
Mae’r albwm ar gael i’w brynu’n ddigidol ar safle Bandcamp Sachason gydag unrhyw un sy’n prynu’n cael copi o’r llyfr ‘PENDRWM’, sydd wedi’i ysgrifennu gan Izak ac sy’n cynnwys dogfennau a nodiadau o’r prosesu creadigol ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’