Mae’r band newydd o’r gogledd, Ffatri Jam, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ers dydd Gwener 23 Medi.
‘Creithiau’ ydy enw’r sengl newydd gan y band pedwar aelod.
Daw aelodau Ffatri Jam o Arfon a Môn, ac er eu bod nhw’n fand newydd, mae’r aelodau’n rai cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi yn dilyn y sin dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r aelodau wedi bod mewn bandiau amlwg eraill gan gynnwys Calfari, Y Galw a Terfysg.
Aelodau Ffatri Jam ydy Bryn Hughes Williams (prif lais a gitâr rythm), Sion Emlyn Parry (dryms a llais cefndir) Aled Sion Jones (prif gitâr a Llais cefn) a William Coles (gitâr fas).
Daeth yr aelodau i adnabod ei gilydd drwy gigio ac wrth rhannu llwyfan pan oeddent yn chwarae gydag eu bandiau blaenorol.
‘Creithiau’ ydy’r gân gyntaf mewn cyfres o senglau a fydd yn cael eu rhyddhau gan Ffatri Jam dros y misoedd nesaf. Bwriad y grŵp wedyn ydy rhyddhau eu EP cyntaf yn Ebrill 2023.
Mae’r sengl eisoes wedi dechrau creu argraff ac wedi cael ei chwarae am y tro cyntaf ar orsaf Amazing Radio yn UDA ac yn y DU.
Stynt hyrwyddo defnyddiol arall ganddynt ydy fod y trac mae’n debyg i’w chwarae yn stadiwm y Cae Ras, Wrecsam, cyn ac ar ôl gemau CPD Wrecsam. Fe gafodd ei chwarae am y tro cyntaf ddydd Sadwrn diwethaf, 24 Medi, wrth i Wrecsam guro Torquay o 6-0.
Mae’r band hefyd wedi denu sylw llawer o flogiau cerddoriaeth ledled y byd gyda rhai ym Mrasil, Mecsico, Colombia ac Ewrop wedi adolygu’r sengl yn barod. Mae’r ymgyrch yma’n un bwriadol gan y band i greu bach o gyffro am eu cerddoriaeth, ac eu “riffs budur, egni uchel a grooves trwm”.