Mae her uchelgeisiol Sywel Nyw i ryddhau 12 sengl mewn 12 mis dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael tipyn o sylw, ac fe gyrhaeddodd y prosiect benllanw ddydd Gwener diwethaf, 21 Ionawr, wrth iddo ryddhau’r cyfan ar ffurf albwm.
Os nad oedd rhyddhau un sengl bob mis yn ddigon o her i brosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, penderfynodd ychwanegu at yr her trwy ysgrifennu a recordio gydag artist cerddorol gwahanol bob tro.
Rhyddhawyd yr olaf o’r senglau hyn, ‘Machlud’, ar 7 Ionawr a gwestai olaf Sywel Nyw oedd ei alter eto, Lewys Wyn.
Mae’r prosiect yn sicr wedi creu argraff, ac mae’r momentwm yn parhau wrth i Sywel Nyw ryddhau’r casgliad cyfan o senglau ar ffurf albwm ddydd Gwener, dan yr enw priodol iawn, ‘Deuddeg’.
Mae Deuddeg yn gasgliad eclectig o senglau, ac wrth eu casglu ynghyd maent yn creu albwm crefftus, sy’n crisialu 2021 i Sywel Nyw.
O guriadau dawns ffyrnig ‘Amser Parti’ gyda Dionne Bennett i synau melancolig a hynaws, ‘Bonsai’ gyda Glyn Rhys-James.
Yna cewch ganeuon mwy breuddwydiol megis ‘Rhwng Dau’ gyda Casi Wyn, a geiriau gonest ac amrwd Lauren Connelly yn ‘10/10’.
Y newyddion gwych pellach ydy bod yr albwm yn cael ei ryddhau ar ffurf feinyl nifer cyfyngedig, ynghyd â chrys t arbennig o ‘10/10 a ‘Bonsai’. Roedd crys T am ddim gyda phob copi o’r record feinyl oedd yn cael ei archebu ar y dyddiad rhyddhau.
Rhyddhawyd yr albwm ar label recordiau Lwcus T, sef y label sy’n cael ei redeg gan frawd Lewys, Griff Lynch. O dipyn i beth, cyhoeddodd y label erbyn diwedd y dydd ddydd Gwener bod rhediad cyntaf y record feinyl wedi eu gwerthu i gyd.
Ar ddiwrnod rhyddhau’r albwm fe gyhoeddodd Lŵp, S4C i cyfweliad fideo isod gyda Lewys am y prosiect ar eu llwyfannau ar-lein.