Rhyddhau EP ailgymysgiadau Chwalaw

Mae label recordiau UDISHIDO wedi rhyddhau casgliad o fersiynau wedi’u hail-gymysgu o’r trac ‘Diflanu’ ers dydd Gwener diwethaf, 18 Chwefror. 

Rhyddhawyd ‘Diflanu’ yn wreiddiol fel sengl electronig gydweithredol Gymraeg ym mis Awst 2021. Roedd y trac yn cynnwys geiriau breuddwydiol gan y gantores-gyfansoddwraig o ogledd Cymru Efa Supertramp, telyn a chyfansoddiad ychwanegol gan Cerys Hafana o ganolbarth Cymru a chynhyrchiad o Lundain, gan Nick Ronin. 

Crëwyd y cydweithrediad gwreiddiol yn ystod cyfnod clo gaeaf diwethaf pan gafodd syniadau eu bownsio yn ôl ac ymlaen ar-lein rhwng Llundain a Machynlleth. 

Roedd y trac yn boblogaidd iawn, ac fe’i dewiswyd yn rhif 4 ar Siart Amgen 2021 BBC Radio Cymru’n ddiweddar.

Nawr mae Udishido ar fin rhyddhau 6 fersiwn remix newydd gan yr artistiaid Amousement, Shamoniks, Cerys Hafana, TR-33N, Eädyth a Nick Ronin, gyda phob artist yn dod ag elfennau newydd a chyffrous i’r gân.

Yr artistiaid

Cynhyrchydd cerddoriaeth Eidalaidd o Lundain ydy Amousement,  sy’n tynnu ei angerdd o IDM a cherddoriaeth jyngl. Mae’n dod â naws sain sbageti gorllewinol i mewn i’w fersiwn ef o’r gân. Gan rwydo gyda chymorth y gitarydd Davide Artuso, mae’r ailgymysgiad mewn arddull sy’n seiliedig ar Portishead. Mae hyn yn dipyn o syndod gan gynhyrchydd sydd wedi arfer gweithio gyda mwy o drefniadau uptempo. Datganodd Marcello (sef Amousement) am y canlyniad terfynol mai hon oedd “un o fy hoff weithiau erioed!”.

Shamoniks wrth gwrs ydy rheolwr label Udishido ac mae ei ailgymysgiad o ‘Diflanu’ yn ei ganfod yn arbrofi ac yn ehangu’r elfennau cerddoriaeth byd a geir yn y gwreiddiol trwy ategu’r delyn wreiddiol gyda’i balet ei hun o gitâr acwstig, kalimba a thelyn jews. Mae’r synau hyn yn gwrthdaro â syntheseiddwyr cynddeiriog, harmonïau lleisiol gana churiadau torri sy’n pwysleisio’r neges bwerus y tu ôl i’r geiriau. 

Artist electronig wedi’i lleoli yn Suffolk yw TR-33N sy’n cynnwys Loula Yorke a Dave Stitch. Mae Loula yn enillydd ‘Gwobr Oram 2020’ ac yn rym y tu ôl i brosiect Atari Punk Girls. Mae Dave wedi bod yn berfformiwr cerddoriaeth electronig ers tro, yn nerd fideo ac yn ddrwgdybiwr creadigol. Mae eu hailgymysgu yn dileu llawer o’r gân wreiddiol, gan osgoi syniadau ffurfiol o strwythur ac alaw i ganolbwyntio yn lle hynny ar ddyluniad sain ac amrywiad sonig.

Cafodd y gynhyrchwraig a’r pwerdy lleisiol Eädyth o Ferthyr “lawer o hwyl yn ailgymysgu ‘Diflanu’. Roedd llif yr arddull a’r naws gyfan wedi fy ysbrydoli i wneud remix drwm a bas. Mae yna hefyd elfen groovy ar y dechrau fydd yn gwneud i chi eisiau dawnsio, roedd hi mor cŵl bod yn y parth i greu rhywbeth fel hyn. Hefyd ges i lot o hwyl yn samplo a chwarae o gwmpas gyda llais Efa”. 

Mae Cerys Hafana yn rhoi darlun trawiadol a phrydferth o’r trac sy’n cael ei chwarae ar delyn deires Gymreig draddodiadol ac mae’r ailgymysgiad olaf ar y casgliad yn gweld cynhyrchydd gwreiddiol y gân, Nick Ronin, yn rhoi golwg fwy cynnil ac eang ar ei waith ei hun – gan gael gwared ar yr offerynnau taro prysur i wneud lle i drawiadau reverb melys a rhai rhannau llinynnol a drôn newydd. Mae’n gadael y strwythur gwreiddiol yn gyfan ond yn gadael i’r lleisiau anadlu mwy ac yn mynd â’r gwrandäwr ar wibdaith sonig ddyfnach na’r gwreiddiol.

Yn ôl y label, mae’r EP o ailgymysgiadau hwn yn arwydd bod Udishido yn parhau i wthio’r ffiniau ar gyfer cerddoriaeth electronig Gymraeg, gan hefyd ehangu eu catalog electronig creadigol ac eclectig. 

Dyma fersiwn Eädyth o’r trac: