Rhyddhau EP newydd The Mighty Observer 

Mae The Mighty Observer wedi rhyddhau ei EP gynnyrch diweddaraf ar ffurf EP newydd ar 29 Ebrill. 

‘Under The Open Sky’ ydy enw’r EP newydd gan brosiect unigol y cerddor Garmon Rhys, ac sydd allan ar label Recordiau Cae Gwyn. 

Efallai bydd enw Garmon yn gyfarwydd i rai gan ei fod hefyd yn aelod o’r grŵp lliwgar Melin Melyn. 

Dyma’r ail EP i The Mighty Observer ar label Recordiau Cae Gwyn, gan ddilyn y record fer ‘Okay, Cool’ a ryddhawyd ddiwedd mis Hydref 2021

Denodd yr EP cyntaf ganmoliaeth a chefnogaeth radio eang, gyda’r caneuon yn cael eu chwarae ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio London a BBC Radio Wales. 

Cafodd hefyd ei chwarae ar y radio yn yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Efrog Newydd a Chanada.

Yn ôl y label mae’r EP newydd yn fwy breuddwydiol a byrhoedlog na’i ragflaenydd.