Mae Thallo wedi rhyddhau ei EP newydd ar label Recordiau Côsh ers dydd Gwener diwethaf.
Crescent ydy enw’r EP dwyieithog newydd gan brosiect y gantores a ddaw’n wreiddiol o Wynedd ond sydd bellach wedi’i lleoli’n Llundain, Elin Edwards.
Mae’r EP wedi’i ysbrydoli gan destun unigryw, ac un sy’n hynod o bersonol i Elin, sef cyflwr ‘ansymudedd’.
Gyda chaneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r EP tri thrac yn adrodd stori’r artist ei hun dros gyfnod o boen cronig a ddioddefodd yn 2020 ac a’i gadawodd yn methu â cherdded na sefyll dros dro.
Profiad personnol
Mae’r EP wedi’i hadrodd mewn llais ysgafn, pluog, calonogol Thallo, ac yn plethu elfennau o ‘pop breuddwydiol’ gyda gweadau jazz cynnil a chyffyrddiadau clasurol cyfoes.
Mae’r record yn agor gyda’r trac ‘Carry Me’, a ysgrifennwyd yn ystod y cyfnod clo ac sy’n cyfleu panig a phoen dechreuadau’r salwch, wedi’i waethygu gan natur swrrealaidd y pandemig a’i gyfyngiadau.
“Roedd yn gyfnod rhyfedd o golli fy ngwaith, fy mywyd cymdeithasol, ac yna beth oedd yn teimlo fel colli fy nghorff i boen cyson” eglura Elin.
“Roeddwn i’n teimlo’n gwbl anobeithiol a theimlais don gyfarwydd o iselder yn agosáu.”
Mae’r trac ‘Pluo’, sy’n cael ei arwain gan y piano yn dilyn ‘Carry Me’ yn naturiol. Yn archwilio’r boen ryfedd o wylio’r byd yn dychwelyd i normalrwydd ar ôl y clo, tra bod Thallo yn parhau yn yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “fy nghlo personol fy hun.”
“Mae’r gân yn gri o ofn am yr unigrwydd a’r anobaith o gael eich gadael ar ôl tra bod pawb arall yn symud ymlaen” esbonia’r gantores.
Mae’r ofn yn cael ei adleisio yn y fideo i’r gân a gyhoeddwyd gan Lŵp ym mis Medi (isod), wedi’i hysbrydoli gan ffilmiau arswyd seicolegol, a chafodd ei saethu yn Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth, sydd yn llawn ysbrydion yn ôl y sôn.
Paradocs chwerw-felys
Teitl-drac yr EP, ‘Crescent’ sy’n dod â’r casgliad i ben, gyda’i hadran bres ddyrchafol yn adlewyrchu paradocs chwerw-felys y gân, sy’n cyffwrdd ar y teimladau ac anobaith ac am orfod dibynnu ar anwyliaid yn ystod cyflwr hirdymor, yn erbyn y teimlad o ddiolchgarwch am y gefnogaeth a dderbyniwyd.
Mae’r trac olaf wedi’i ysbrydoli gan doriad perthynas, a ffrindiau yn symud i ffwrdd yn ôl Thallo.
“Doeddwn i ddim yn ffrind neu gariad cystal ag yr oeddwn i eisiau bod. Ysgrifennais y gân ar ôl sylweddoli na fyddwn i’n cael y cyfle i wneud yn iawn am yr anghydbwysedd hwnnw a chefais fy ngadael â’r euogrwydd o deimlo’n ddyledus.”
Crescent ydy ail EP Thallo yn dilyn ‘Nhw’ a ryddhawyd yn 2018. Mae’r record fer newydd yn dilyn cyfres o senglau ganddi sy’n cynnwys ‘Mêl’ ac ‘I Dy Boced’ a gafodd ymateb arbennig o dda.