Rhyddhau EP Ynys Alys

Mae EP newydd ‘Ynys Alys’ yn rhan o brosiect uchelgeisiol newydd sy’n gweld y bydoedd cerddoriaeth gyfoes a theatr yn dod ynghyd. 

Cynhyrchiad theatr gan gwmni Frân Wen ydy Ynys Alys ac mae’r cerddorion sy’n ymwneud â’r sioe wedi rhyddhau EP o ganeuon sydd wedi’u cyfansoddi ar gyfer y cynhyrchiad.

EP pedwar trac ydy hwn sy’n cyfuno doniau y rapiwr Lemarl Freckleton (sy’n adnabyddus hefyd fel Lemfreck, yr artist pop Casi Wyn a’r electro-gynhyrchydd Alexander Comana

“Mae’n ddathliad lliwgar o wahanol steiliau sy’n dod at ei gilydd, gan doddi i mewn i un cawr Cymreig sydd wedi magu traed, breichiau a chydwybod,” meddai Casi sy’n rhan o dîm creadigol Ynys Alys.

“Drwy ddod â rap, pop ac electro o wahanol gefndiroedd a diwylliannau at ei gilydd ‘da ni’n gallu ail-ddiffinio ein straeon a sut maen nhw’n cael eu hadrodd.”

Y cynhyrchydd Alexander Comana

Yr electro-gynhyrchydd Alexander Comana sydd wedi derbyn y dasg o ddod â’r gwahanol arddulliau at ei gilydd.

“Mae o wedi gwneud gwaith anhygoel yn uno’r genres ac maen nhw i gyd yn plethu mewn i un. Dyna sy’n dod â hwn yn wirioneddol fyw – pan ti’n stopio trio diffinio fo” ychwanegodd Casi.

“metaffor perffaith o Gymru”

Mae Ynys Alys yn gynhyrchiad theatr sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth, ac mae’r sioe yn teithio theatrau Cymru o ers ddoe (17 Mawrth) nes 9 Ebrill.

LemFreck yn y stiwdio

Mae Lemarl Freckleton yn artist sydd wedi creu tipyn o gynnwrf yn ddiweddar ac fe gafodd ei enwi fel cerddor BBC Introducing Ones to Watch 2021 o dan yr enw Lemfreck. Mae’n credu bod Ynys Alys yn dweud llawer am ein cenedl. 

“Mae Ynys Alys yn metaffor perffaith o Gymru oherwydd nid ydio’n ffitio mewn unrhyw genre, ti methu ei roi mewn bocs” meddai Lemarl.  

“Mae gennym ni lawer o gymunedau amrywiol a lleisiau gwahanol yng Nghymru – a dyma’r stori rydyn ni’n ei hadrodd. 

“Yn gerddorol dyma’r peth anoddaf i mi ei wneud erioed, ond dwi wedi elwa gymaint. Nid jest i fi mae’r gerddoriaeth felly mae’n rhaid bod ‘na eglurder yn y ffordd dwi’n sgwennu’r lyrics. Mae’r broses yn bendant wedi fy ngwneud yn well cyfansoddwr.”

Taith emosiynol

Bu tîm Ynys Alys yn gweithio gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru am dros ddwy flynedd, ac mae naratif a cherddoriaeth Ynys Alys wedi eu creu ochr-yn-ochr mewn proses unedig. 

“Mae ‘sgwennu cân i fynd efo naratif arall yn dy orfodi i fod yn anhunanol. Ni fedri di ‘sgwennu rhywbeth haniaethol yn y gobaith y bydd o’n taro’r nod, mae gen i fwy o gyfrifoldeb wrth arwain y stori,” ychwanegodd Casi.

“Mae o’n gerddoriaeth fregus am yr hyn mae’n ei olygu i fodoli yng Nghymru fel person ifanc – ac yn bersonol mae o wedi bod yn daith hynod emosiynol.”