Mae artist newydd a gafodd ymateb mawr wrth rannu rhan fer o’i drac Cymraeg arddull ‘drill’ yn ddiweddar wedi rhyddhau’r sengl yn swyddogol.
‘Rownd a Rownd’ ydy enw’r sengl gan Sage Todz sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 1 Ebrill.
Rapiwr 22 oed o Benygroes ydy Sage Todz, sef enw perfformio’r gŵr ifanc Toda Ogunbanwo.
Er ei fod o wedi rhyddhau EP o ganeuon Saesneg ym mis Chwefror, mae deg dweud nad oedd yn enw amlwg iawn i’r gynulleidfa Gymraeg nes iddo ryddhau’r clip fideo byr o’i hun yn perfformio rhan o ‘Rownd a Rownd’ ar Twitter ar 8 Mawrth.
Cafodd ymateb aruthrol ar y pryd a sylw gan y cyfryngau prif ffrwd, gan gynnwys cyfweliad a gyhoeddwyd ar wefan Cymru Fyw y BBC lle’r oedd yn egluro ychydig mwy am yr hyn sydd wedi ysgogi ei gerddoriaeth.
Wedi hynny, aeth Toda ati i recordio fersiwn lawn o’r trac, ac mae hwn ar gael yn ddigidol ar y llwyfannau arferol bellach.
‘Sage Mode’ ydy enw ei EP o draciau Saesneg sydd allan ers mis Chwefror ar mae hwn hefyd ar gael i wrando arno’n ddigidol ar y llwyfannau arferol.
I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl, mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac sydd wedi’i gyfarwyddo gan – Aled Wyn Jones ac Andy Pritchard.