Rhyddhau sengl a fideo ‘Pwy Sy’n Galw’

Mae un o’r traciau Cymraeg sydd wedi creu’r argraff fwyaf eleni ar ôl cael ei chwarae ar y radio, o’r diwedd wedi’i ryddhau’n swyddogol erbyn hyn. 

Byth ers ei chwarae gan Huw Stephens ar Radio Cymru’n gynharach yn y flwyddyn, mae ‘Pwy Sy’n Galw?’ gan Lloyd & Dom James wedi ysgogi ymateb sylweddol, gyda phobl yn gofyn ble’r oedd cael gafael ar y gân. 

Hyd yma, doedd dim modd ei chwarae ar unrhyw lwyfan cyhoeddus, ond ers dydd Gwener diwethaf, 20 Mai mae’r trac allan yn swyddogol ynghyd â fideo ar lwyfannau Lwp. 

Mae wynebau Lloyd Lewis a Dom James yn adnabyddus i rai fel cyfranwyr rheolaidd Hansh, S4C, ond mae eu prosiect diweddaraf ar y sgrin – sef fideo i’w sengl newydd, Pwy Sy’n Galw?, yn wahanol iawn i’r cynnwys maent wedi bod yn creu’n flaenorol.   

Gyda cherddoriaeth yn elfen bwysig o fywydau’r ddau erioed, mae cyrraedd y nod o ryddhau eu hail sengl, ‘Pwy Sy’n Galw?’, yn achlysur i’w ddathlu, ond hefyd yn cyfleu neges bwysig gan y ddau. 

Cân rap ydy ‘Pwy Sy’n Galw?’, “genre sydd wedi ei dangynrychioli yn y Gymraeg” yn ôl Lloyd a thrwy gynhyrchu cân fachog, llawn curiadau yn yr iaith Gymraeg, maent yn gobeithio mynd a’r iaith yn bell.

“Nes i estyn mas i Lloyd nôl yn 2017 i ofyn iddo gyd-weithio ‘da fi ar gerddoriaeth” eglura Dom James am berthynas y ddau.

“Mi wnes i ddysgu Cymraeg yn ystod fy amser yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd a Lloyd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl.

“Ers hynny, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i’r ddau o ni, felly roedd cyfuno’r iaith a cherddoriaeth yn bwysig hefyd.”

Daw Dom o Gaerdydd, ac mae Lloyd yn dod o Gwmbran. 

“Roedd Dom eisoes yn gwneud cerddoriaeth gyda Don (Donald Phythian), sydd bellach yn DJ a chynhyrchydd i ni” meddai Lloyd.  

“Naethon ni greu ein cân gyntaf Cymraeg, ‘Sawl Tro’, tua blwyddyn yn ôl i berfformio ar raglen Lŵp Curadur Lemfreck.

“Roedd yr ymateb yn anhygoel felly o’n ni’n gwybod roedd bendant lle i ni greu mwy o rap Cymraeg. Penderfynon ni ffocysu ar neud cwpl o ganeuon Cymraeg a dyna lle ddaeth ‘Pwy Sy’n Galw?’ i fodolaeth.”

Mae Huw Stephens wedi bod yn chwarae’r trac ar donfeddi Radio Cymru ers peth amser, ac mae’r DJ yn egluro bod yr ymateb wedi bod yn ardderchog. 

“Pan nes i chwarae ‘Pwy Sy’n Galw?’ ar BBC Radio Cymru, gath y gân yr ymateb gore o unrhyw gân fi wedi chwarae ar y sioe mewn blynyddoedd” meddai Huw. 

“Roedd cerddorion, ffans a hyrwyddwyr yn cysylltu yn gofyn; ble alla’i gael y gân yna?! Mae’n wych, a gallai wir ddim aros i glywed be maen nhw’n ’neud nesa.”

“…gwybod fod rhaid neud fideo”

Bydd llawer iawn o bobl yn falch o weld y gân yn cael ei rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol felly, ac mae’r fideo gan Lŵp yn fonws bach ychwanegol. 

“Ar ôl ymateb gwych i’r gân o’n ni’n gwybod bod rhaid neud fideo” eglura Lloyd.

“Wnaeth Lŵp S4C gytuno i helpu ni. Cefais i’r syniad i’r fideo gael ei osod mewn call centre – a wnaeth Owain yn Orchard (cwmni cynhyrchu) helpu i ddatblygu ein syniad.

“Roedd e’n lot o hwyl yn creu’r fideo a fi’n meddwl bod hwnna yn dod ar draws wrth wylio fe.”

Yn ogystal â’r alwad am gerddoriaeth rap yn y Gymraeg, mae neges glir a theimladwy am yr iaith yn y gân hefyd mewn llinellau fel “Heb iaith ‘does dim calon”, “sefyllfa wedi gwthio fi i godi’r safon” a “teimlo fel Cymro ffug”.

Y newyddion da ydy mai dim ond y dechrau ydy’r sengl newydd ac y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan Lloyd a Dom James yn y dyfodol.  

“Dechrau ein siwrne yw ‘Pwy Sy’n Galw?’” meddai Lloyd. 

“Bwriad ni fel triawd yw i cario ‘mlaen creu a rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg a gweld pa mor bell allwn ni fynd ag e. Mae gyda ni lot o ddigwyddiadau a sets yn yr haf i edrych ymlaen i – mae’r dyfodol yn gyffrous.”

Dyma’r fideo: