Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl newydd wrth iddo hefyd ddychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers 2017.
‘Dau Fyd’ ydy enw’r sengl sydd allan ar y label sydd hefyd yn cael ei reoli yr artist, Recordiau Côsh, ers dydd Gwener diwethaf, 20 Mai.
Roedd dyddiad rhyddhau’r sengl yn arwyddocaol hefyd gan fod Yws a’i fand yn perfformio ar lwyfan am y tro cyntaf ers bron i 5 mlynedd mewn gig Gigs Tŷ Nain yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, nos Wener.
Dyma oedd y cyntaf mewn cyfres o berfformiadau mae Yws wedi’u cadarnhau ar gyfer yr haf eleni.
‘Dau Fyd’ ydy’r cynnyrch newydd cyntaf i Yws ryddhau ers y trac ‘Ni Fydd y Wal’ a ryddhawyd ym Mai 2021 i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2020. Flwyddyn yn gynharach, roedd hefyd wedi rhyddhau’r trac ‘Deryn Du’ fel sengl yn ystod cyfnod y clo mawr.
Hen fformiwla
Ar gyfer y sengl newydd, mae Yws wedi dychwelyd at fformiwla sydd wedi gweithio’n dda iddo yn y gorffennol, gan ddychwelyd i stiwdio Bing ger Machynlleth gyda’i i ysgrifennu’r gân ym mis Chwefor eleni.
“Mynd yna am benwythnos i sgwennu, ond yn benna’ gan bo’ ni heb weld ein gilydd ers oes yn iawn” meddai Yws am yr ymweld â Stiwdio Bing.
“Nath Ifan gyrraedd yna wedi sgwennu’r gytgan yn ei ben wrth basio drwy Trawsfynydd. Oedd y gân gyfan wedi’i sgwennu o fewn hanner awr wedyn.
“Mi wnaethon ni recordio hi gwpl o wythnosau’n ddiweddarach yn [Stiwdio] Ferlas.”
Byd ffug
Nid yw’r anarferol gweld Yws yn cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’i senglau – mae’n deg dweud ei fod yn un o’r cerddorion Cymraeg sydd wedi mynd ati’n fwyaf i greu fideos i hyrwyddo ei gerddoriaeth. Unwaith eto mae wedi mynd ati i gynhyrchu fideo cerddoriaeth ei hun ar gyfer ‘Dau Fyd’.
“Oedd cysyniad y fideo ‘di dod i deitl y gân, a’r syniad fod byd y rhwydweithiau cymdeithasol, ac yn enwedig y tueddiad gan influencers i greu byd ffug, yn gwrthgyferbynnu efo’r rhan fwyaf o’n bywydau pob dydd” eglura’r cerddor.
“Dydd Sul dwytha’ [8 Mai] cafodd o’i ffilmio gan Daf Nant yn Shed, Felinheli, a nath o gymryd bron i wsnos gyfa’ i olygu gan mod i ‘di pendefynu golygu fo’n hun a finna ddim yn olygydd!” eglura Yws.
“Dwi’n cadu bod lot mwy o fideos i ganeuon Cymraeg yn dod allan rŵan ac ma’n edrych fel bod ni bron wedi normaleiddio elfen weledolwrth ryddhau bron pob cân.”
Dyma’r gigs eraill sydd wedi’u cadarnhau gan Yws Gwynedd dros yr haf:
03/06/22 – Gŵyl Triban, Dinbych
19/06/22 – Tafwyl, Caerdydd
2/06/22 – Gŵyl Maldwyn
16/07/22 – Sesiwn Fawr Dolgellau
06/08/22 – Tregaron
27/08/22 – Gŵyl Llanuwchllyn
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Dau Fyd’: